1
Luc 6:38
Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos)
Rhoddwch, a rhoddir i chwi; mesur da, wedi ei wasgu i lawr, a’i ysgwyd, ac yn colli drosodd, a roddant yn eich arffed; canys â’r mesur y mesuroch yr adfesurir i chwi.”
Porównaj
Przeglądaj Luc 6:38
2
Luc 6:45
Y dyn da o drysor da ei galon a gynhyrcha’r da, a’r drwg o’r drwg a gynhyrcha’r drwg; canys o orlawnder calon y llefara ei enau.
Przeglądaj Luc 6:45
3
Luc 6:35
Yn hytrach, cerwch eich gelynion, a gwnewch dda, a rhowch fenthyg heb ddisgwyl dim yn ôl; a bydd eich gwobr yn helaeth, a byddwch yn feibion y Goruchaf, canys tirion yw ef wrth yr anniolchgar a’r drwg.
Przeglądaj Luc 6:35
4
Luc 6:36
Byddwch dosturiol, megis y mae eich Tad yn dosturiol.
Przeglądaj Luc 6:36
5
Luc 6:37
Ac na fernwch, ac ni’ch bernir ddim; ac na chondemniwch, ac ni’ch condemnir ddim. Maddeuwch, a maddeuir i chwi.
Przeglądaj Luc 6:37
6
Luc 6:27-28
Eithr dywedaf wrthych chwi sy’n gwrando, Cerwch eich gelynion, gwnewch dda i’ch caseion, bendithiwch eich melltithwyr, gweddïwch dros y rhai a’ch sarhânt.
Przeglądaj Luc 6:27-28
7
Luc 6:31
Ac fel y mynnoch wneuthur o ddynion i chwi, gwnewch iddynt yr un ffunud.
Przeglądaj Luc 6:31
8
Luc 6:29-30
I’r neb a’th drawo ar dy gern cynnig hefyd y llall, ac i’r neb a ddygo dy fantell na warafun dy grysbais hefyd. I bob un a geisio gennyt, dyro; a chan y neb a ddygo’r eiddot, na chais yn ôl.
Przeglądaj Luc 6:29-30
9
Luc 6:43
Canys nid yw pren da yn dwyn ffrwyth sâl, na thrachefn bren sâl yn dwyn ffrwyth da.
Przeglądaj Luc 6:43
10
Luc 6:44
Canys pob pren a adweinir wrth ei ffrwyth ei hun; canys nid oddi ar ddrain y casglant ffigys, nac oddi ar lwyn mieri yr heliant rawnwin.
Przeglądaj Luc 6:44
Strona główna
Biblia
Plany
Nagrania wideo