Luc 6

6
1A digwyddodd ar ryw Sabbath ei fod yn tramwy drwy feysydd ŷd, ac yr oedd ei ddisgyblion yn tynnu ac yn bwyta’r tywys, gan eu rhwbio â’u dwylo. 2A dywedodd rhai o’r Phariseaid, “Paham y gwnewch yr hyn ni ddylid ar y Sabbath?” 3Ac atebodd yr Iesu iddynt, “Oni ddarllenasoch yr hyn a wnaeth i Dafydd, pan ddaeth eisiau bwyd arno ef a’r rhai a oedd gydag ef? 4y modd yr aeth i mewn i dŷ Dduw, a chymryd y torthau gosod, a’u bwyta, a’u rhoi i’r rhai a oedd gydag ef, pethau na ddylai neb eu bwyta ond yr offeiriaid yn unig?” 5Ac meddai wrthynt, “Arglwydd y Sabbath yw Mab y dyn.”
6A digwyddodd ar Sabbath arall iddo fyned i’r synagog a dysgu; ac yr oedd dyn yno, a’i law ddehau yn wywedig; 7a gwyliai’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid ef, a iachâi ef ar y Sabbath, fel y caffent ei gyhuddo. 8Ond gwyddai ef eu meddyliau hwynt, a dywedodd wrth y dyn a oedd â’i law’n wywedig, “Cyfod, a saf yn y canol”; ac fe gyfododd, a safodd. 9A dywedodd yr Iesu wrthynt, “Gofynnaf i chwi, a ddylid ar y Sabbath wneuthur da ai gwneuthur drwg, cadw einioes ai colli?” 10Ac wedi syllu ogylch arnynt oll, dywedodd wrtho, “Estyn dy law.” Gwnaeth yntau, ac adferwyd ei law. 11A llanwyd hwynt o wallgofrwydd, a siaradent â’i gilydd beth a wnaent i’r Iesu.
12A digwyddodd yn y dyddiau hyn iddo fyned i’r mynydd i weddïo, ac yr oedd trwy gydol nos mewn gweddi ar Dduw. 13A phan aeth hi yn ddydd, galwodd ei ddisgyblion ato, a detholodd ohonynt ddeuddeg, ac enwodd hwynt hefyd yn apostolion: Simon, 14a enwodd hefyd yn Bedr, ac Andreas ei frawd, ac Iago, ac Ioan, a Phylip a Bartholomeus, 15a Mathew a Thomas, ac Iago fab Alpheus, a Simon a elwid Selot, 16ac Iwdas fab Iago, ac Iwdas Iscariot, a drodd yn fradwr. 17A disgynnodd gyda hwynt, a safodd ar wastatir, ac yr oedd tyrfa fawr o’i ddisgyblion, a lliaws mawr o’r bobl o holl Iwdea a Chaersalem ac arfordir Tyrus a Sidon, a ddaethai i’w glywed ac i’w hiacháu o’u hanhwylderau; 18ac iachawyd y sawl a flinid gan ysbrydion aflan. 19A’r holl dyrfa oedd yn ceisio cyffwrdd ag ef, am fod nerth yn myned allan ohono, ac yn iacháu pawb.
20Ac yntau gan godi ei lygaid i edrych ar ei ddisgyblion a ddywedodd:
“Gwyn eich byd y tlodion, canys eiddoch chwi yw teyrnas Dduw.
21Gwyn eich byd sy’n newynu’n awr, canys chwi a ddiwellir.
Gwyn eich byd sy’n wylo’n awr, canys chwi a chwerddwch.
22Gwyn eich byd pan gasao dynion chwi, a phan esgymunont chwi, a’ch gwaradwyddo a bwrw allan eich enw fel peth drwg o achos Mab y dyn. 23Byddwch lawen yn y dydd hwnnw, a llemwch; canys wele, eich gwobr sy fawr yn y nef; oblegid yr un modd y gwnâi eu tadau i’r proffwydi.
24Eithr gwae chwi’r cyfoethogion, canys cawsoch eich diddanwch.
25Gwae chwi sy’n llawn yn awr, canys daw newyn arnoch.
Gwae chwi sy’n chwerthin yn awr, canys galaru ac wylo y byddwch.
26Gwae chwi pan ddywedo pob dyn yn dda amdanoch, canys yr un modd y gwnâi eu tadau i’r gau-broffwydi.
27Eithr dywedaf wrthych chwi sy’n gwrando, Cerwch eich gelynion, gwnewch dda i’ch caseion, 28bendithiwch eich melltithwyr, gweddïwch dros y rhai a’ch sarhânt. 29I’r neb a’th drawo ar dy gern cynnig hefyd y llall, ac i’r neb a ddygo dy fantell na warafun dy grysbais hefyd. 30I bob un a geisio gennyt, dyro; a chan y neb a ddygo’r eiddot, na chais yn ôl. 31Ac fel y mynnoch wneuthur o ddynion i chwi, gwnewch iddynt yr un ffunud. 32Ac os cerwch y rhai a’ch câr, pa ddiolch sydd i chwi? canys y mae hyd yn oed y pechaduriaid yn caru’r rhai a’u câr. 33Ie, ac os gwnewch dda i’r rhai a wna dda i chwi, pa ddiolch sydd i chwi? y mae hyd yn oed y pechaduriaid yn gwneuthur yr un peth. 34Ac os rhowch fenthyg i’r rhai y disgwyliwch gael ganddynt, pa ddiolch sydd i chwi? y mae hyd yn oed bechaduriaid yn rhoi benthyg i bechaduriaid er mwyn cael yr un faint yn ôl. 35Yn hytrach, cerwch eich gelynion, a gwnewch dda, a rhowch fenthyg heb ddisgwyl dim yn ôl; a bydd eich gwobr yn helaeth, a byddwch yn feibion y Goruchaf, canys tirion yw ef wrth yr anniolchgar a’r drwg. 36Byddwch dosturiol, megis y mae eich Tad yn dosturiol. 37Ac na fernwch, ac ni’ch bernir ddim; ac na chondemniwch, ac ni’ch condemnir ddim. Maddeuwch, a maddeuir i chwi. 38Rhoddwch, a rhoddir i chwi; mesur da, wedi ei wasgu i lawr, a’i ysgwyd, ac yn colli drosodd, a roddant yn eich arffed; canys â’r mesur y mesuroch yr adfesurir i chwi.”
39A dywedodd hefyd ddameg wrthynt, “A ddichon dall dywys dall? oni syrthiant ill dau i bwll? 40Nid yw disgybl uwchlaw yr athro; ond wedi ei gymhwyso, bydd pob un fel ei athro. 41A pham y sylwi ar y fflewyn sydd yn llygad dy frawd, ac nad ystyri’r trawst sydd yn dy lygad dy hun? 42Pa fodd y medri ddywedyd wrth dy frawd, ‘Fy mrawd, gad i mi dynnu’r fflewyn sydd yn dy lygad,’ a thithau heb sylwi ar y trawst sydd yn dy lygad di? Y rhagrithiwr, tyn yn gyntaf y trawst o’th lygad, ac yna y gweli’n glir i dynnu’r fflewyn sydd yn llygad dy frawd. 43Canys nid yw pren da yn dwyn ffrwyth sâl, na thrachefn bren sâl yn dwyn ffrwyth da. 44Canys pob pren a adweinir wrth ei ffrwyth ei hun; canys nid oddi ar ddrain y casglant ffigys, nac oddi ar lwyn mieri yr heliant rawnwin. 45Y dyn da o drysor da ei galon a gynhyrcha’r da, a’r drwg o’r drwg a gynhyrcha’r drwg; canys o orlawnder calon y llefara ei enau.
46Paham y gelwch fi Arglwydd, Arglwydd, ac ni wnewch y pethau a ddywedaf? 47Pob un sy’n dyfod ataf, ac yn gwrando fy ngeiriau, ac yn eu gwneuthur, mi ddangosaf i chwi i bwy y mae’n debyg. 48Tebyg yw i ddyn yn adeiladu tŷ; cloddiodd, ac aeth yn ddwfn, a gosododd sylfaen ar y graig; a phan ddaeth rhyferthwy, curodd y llifeiriant ar y tŷ hwnnw, ac ni allodd ei ysgwyd, gan mor dda yr adeiladesid ef. 49Ond y neb a wrendy ac ni wna, tebyg yw i ddyn a adeiladodd dŷ ar y ddaear heb sylfaen; curodd y llifeiriant arno, ac yn y fan cwympodd, a bu chwalfa’r tŷ hwnnw’n fawr.”

Obecnie wybrane:

Luc 6: CUG

Podkreślenie

Udostępnij

Kopiuj

None

Chcesz, aby twoje zakreślenia były zapisywane na wszystkich twoich urządzeniach? Zarejestruj się lub zaloguj