Hosea 10

10
1Gwinwydden doreithiog yw Israel,
Cynyrcha iddo ffrwyth,
Yn ol amledd ei ffrwyth amlhaodd allorau,
Yn ol daioni ei dir harddodd golofnau.#10:1 Heb. massefoth.
2Llithrig yw eu calon,
Yn awr cyfrifir hwynt yn euog;
Torfynygla yntau eu hallorau,
Difroda’u colofnau.#10:2 Heb. massefoth.
3Canys yn awr dywedant,
“Nid oes gennym frenin,
Oherwydd nid ofnwn Iafe,
A pha beth a wna’r brenin inni?”
4Llefarasant eiriau
Gan dyngu anudon wrth wneuthur cyfamod,
Am hynny blaguro barn
Fel llysieuyn gwenwynig ar gwysau’r maes.
5Brawycha preswylydd Samaria am lo#10:5 Felly LXX a Syr.; Heb. aneiredd Beth-afen,
Canys galara ei bobl amdano,
A chryn ei offeiriadach amdano,
Am ei ogoniant, oblegid aeth yn gaethglud oddiwrtho.
6Yntau hefyd a ddygir i Asyria,
Yn anrheg i’r brenin Iareb;
Fe dderbyn Effraim gywilydd,
A bydd cywilydd gan Israel ei gyngor.
7Darfu am Samaria,
Y mae ei brenin fel ysglodyn ar wyneb dwfr;
8A dilëir uchelfeydd Afen, pechod Israel;
Tyf drain ac ysgall ar eu hallorau;
A dywedant wrth y mynyddoedd “Gorchuddiwch ni,”
Ac wrth y bryniau “Syrthiwch arnom.”
9Pechaist, Israel, er dyddiau Gibea,
Yno safasant!
Oni oddiwedd hwynt yng Ngibea
Ryfel yn erbyn y rhai anwir?
10Wrth fy ewyllys hefyd y disgyblaf hwynt,
A chesglir pobloedd yn eu herbyn,
Pan rwymer hwynt wrth eu dau anwiredd.
11Anner wedi ei hyfforddi ydyw Effraim hefyd,
Yn caru dyrnu;
Ond euthum innau heibio i degwch ei gwddf,
Paraf farchogaeth Effraim;
Fe ardd Iwda; fe lyfna Iacob.
12Heuwch i chwi mewn cyfiawnder,
Medwch yn ol caredigrwydd,
Braenerwch i chwi fraenar,
Y mae’n amser hefyd i geisio Iafe,
Hyd oni ddêl a glawio cyfiawnder i chwi.
13Arddasoch ddrygedd,
Medasoch anghyfiawnder,
Bwytasoch ffrwyth twyll,
Canys ymddiriedaist yn dy ffordd,
Yn amledd dy gedyrn.
14Am hynny cyfyd dadwrdd ymhlith dy bobloedd,
A difrodir dy holl gaerau,
Fel y difrododd Salman Fetharbel yn nydd rhyfel,
Drylliwyd y fam ar y plant.
15Felly y gwneir â chwi ym Methel,
Oherwydd drygioni eich drygioni;
Gyda’r wawr derfydd yn llwyr am frenin Israel.

Obecnie wybrane:

Hosea 10: CUG

Podkreślenie

Udostępnij

Kopiuj

None

Chcesz, aby twoje zakreślenia były zapisywane na wszystkich twoich urządzeniach? Zarejestruj się lub zaloguj