Ioan 6
6
Porthi'r Pum Mil
Mth. 14:13–21; Mc. 6:30–44; Lc. 9:10–17
1Ar ôl hyn aeth Iesu ymaith ar draws Môr Galilea (hynny yw, Môr Tiberias). 2Ac yr oedd tyrfa fawr yn ei ganlyn, oherwydd yr oeddent wedi gweld yr arwyddion yr oedd wedi eu gwneud ar y cleifion. 3Aeth Iesu i fyny'r mynydd ac eistedd yno gyda'i ddisgyblion. 4Yr oedd y Pasg, gŵyl yr Iddewon, yn ymyl. 5Yna cododd Iesu ei lygaid a gwelodd fod tyrfa fawr yn dod tuag ato, ac meddai wrth Philip, “Ble y gallwn brynu bara i'r rhain gael bwyta?” 6Dweud hyn yr oedd i roi prawf arno, oherwydd gwyddai ef ei hun beth yr oedd yn mynd i'w wneud. 7Atebodd Philip ef, “Ni byddai bara gwerth dau gant o ddarnau arian#6:7 Neu, dau gan denarius. Gw. nodyn ar Mth. 18:28. yn ddigon i roi tamaid bach i bob un ohonynt.” 8A dyma un o'i ddisgyblion, Andreas, brawd Simon Pedr, yn dweud wrtho, 9“Y mae bachgen yma a phum torth haidd a dau bysgodyn ganddo, ond beth yw hynny rhwng cynifer?” 10Dywedodd Iesu, “Gwnewch i'r bobl eistedd i lawr.” Yr oedd llawer o laswellt yn y lle, ac eisteddodd y dynion i lawr, rhyw bum mil ohonynt. 11Yna cymerodd Iesu y torthau, ac wedi diolch fe'u rhannodd i'r rhai oedd yn eistedd. Gwnaeth yr un peth hefyd â'r pysgod, gan roi i bob un faint a fynnai. 12A phan oeddent wedi cael digon, meddai wrth ei ddisgyblion, “Casglwch y tameidiau sy'n weddill, rhag i ddim fynd yn wastraff.” 13Fe'u casglasant, felly, a llenwi deuddeg basged â'r tameidiau yr oedd y bwytawyr wedi eu gadael yn weddill o'r pum torth haidd. 14Pan welodd y bobl yr arwydd hwn yr oedd Iesu wedi ei wneud, dywedasant, “Hwn yn wir yw'r Proffwyd sy'n dod i'r byd.” 15Yna synhwyrodd Iesu eu bod am ddod a'i gipio ymaith i'w wneud yn frenin, a chiliodd i'r mynydd eto ar ei ben ei hun.
Cerdded ar y Dŵr
Mth. 14:22–27; Mc. 6:45–52
16Pan aeth hi'n hwyr, aeth ei ddisgyblion i lawr at y môr 17ac i mewn i gwch, a dechrau croesi'r môr i Gapernaum. Yr oedd hi eisoes yn dywyll, ac nid oedd Iesu wedi dod atynt hyd yn hyn. 18Yr oedd gwynt cryf yn chwythu a'r môr yn arw. 19Yna, wedi iddynt rwyfo am ryw bum neu chwe chilomedr, dyma hwy'n gweld Iesu yn cerdded ar y môr ac yn nesu at y cwch, a daeth ofn arnynt. 20Ond meddai ef wrthynt, “Myfi yw; peidiwch ag ofni.” 21Yr oeddent am ei gymryd ef i'r cwch, ond ar unwaith cyrhaeddodd y cwch i'r lan yr oeddent yn hwylio ati.
Iesu, Bara'r Bywyd
22Trannoeth, sylwodd y dyrfa oedd wedi aros ar yr ochr arall i'r môr na fu ond un cwch yno. Gwyddent nad oedd Iesu wedi mynd i'r cwch gyda'i ddisgyblion, ond eu bod wedi hwylio ymaith ar eu pennau eu hunain. 23Ond yr oedd cychod eraill o Tiberias wedi dod yn agos i'r fan lle'r oeddent wedi bwyta'r bara ar ôl i'r Arglwydd roi diolch. 24Felly, pan welodd y dyrfa nad oedd Iesu yno, na'i ddisgyblion chwaith, aethant hwythau i'r cychod hyn a hwylio i Gapernaum i chwilio am Iesu. 25Fe'i cawsant ef yr ochr draw i'r môr, ac meddent wrtho, “Rabbi, pryd y daethost ti yma?” 26Atebodd Iesu hwy, “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, yr ydych yn fy ngheisio i, nid am ichwi weld arwyddion, ond am ichwi fwyta'r bara a chael digon. 27Gweithiwch, nid am y bwyd sy'n darfod, ond am y bwyd sy'n para i fywyd tragwyddol. Mab y Dyn a rydd hwn ichwi, oherwydd arno ef y mae Duw y Tad wedi gosod sêl ei awdurdod.” 28Yna gofynasant iddo, “Beth sydd raid inni ei wneud i gyflawni'r gweithredoedd a fyn Duw?” 29Atebodd Iesu, “Dyma'r gwaith a fyn Duw: eich bod yn credu yn yr un y mae ef wedi ei anfon.” 30“Os felly,” meddent wrtho, “pa arwydd a wnei di, i ni gael gweld a chredu ynot? Beth fedri di ei wneud? 31Cafodd ein hynafiaid fanna i'w fwyta yn yr anialwch, fel y mae'n ysgrifenedig, ‘Rhoddodd iddynt fara o'r nef i'w fwyta.’ ” 32Yna dywedodd Iesu wrthynt, “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, nid Moses sydd wedi rhoi'r bara o'r nef ichwi, ond fy Nhad sydd yn rhoi ichwi y gwir fara o'r nef. 33Oherwydd bara Duw yw'r hwn sy'n disgyn o'r nef ac yn rhoi bywyd i'r byd.”
34Dywedasant wrtho ef, “Syr, rho'r bara hwn inni bob amser.” 35Meddai Iesu wrthynt, “Myfi yw bara'r bywyd. Ni bydd eisiau bwyd byth ar y sawl sy'n dod ataf fi, ac ni bydd syched byth ar y sawl sy'n credu ynof fi. 36Ond fel y dywedais wrthych, yr ydych chwi wedi fy ngweld, ac eto nid ydych yn credu. 37Bydd pob un y mae'r Tad yn ei roi i mi yn dod ataf fi, ac ni fwriaf allan byth mo'r sawl sy'n dod ataf fi. 38Oherwydd yr wyf wedi disgyn o'r nef nid i wneud fy ewyllys fy hun ond ewyllys yr hwn a'm hanfonodd i. 39Ac ewyllys yr hwn a'm hanfonodd i yw hyn: nad wyf i golli neb o'r rhai y mae ef wedi eu rhoi imi, ond fy mod i'w hatgyfodi yn y dydd olaf. 40Oherwydd ewyllys fy Nhad yw hyn: fod pob un sy'n gweld y Mab ac yn credu ynddo i gael bywyd tragwyddol. A byddaf fi'n ei atgyfodi yn y dydd olaf.”
41Yna dechreuodd yr Iddewon rwgnach amdano oherwydd iddo ddweud, “Myfi yw'r bara a ddisgynnodd o'r nef.” 42“Onid hwn,” meddent, “yw Iesu fab Joseff? Yr ydym ni'n adnabod ei dad a'i fam. Sut y gall ef ddweud yn awr, ‘Yr wyf wedi disgyn o'r nef’?” 43Atebodd Iesu hwy, “Peidiwch â grwgnach ymhlith eich gilydd. 44Ni all neb ddod ataf fi heb i'r Tad a'm hanfonodd i ei dynnu; a byddaf fi'n ei atgyfodi yn y dydd olaf. 45Y mae'n ysgrifenedig yn y proffwydi: ‘Fe gânt oll eu dysgu gan Dduw.’ Y mae pob un a wrandawodd ar y Tad ac a ddysgodd ganddo yn dod ataf fi. 46Nid bod neb wedi gweld y Tad, ac eithrio'r hwn sydd oddi wrth Dduw; y mae hwnnw wedi gweld y Tad. 47Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, y mae gan y sawl sy'n credu fywyd tragwyddol. 48Myfi yw bara'r bywyd. 49Bwytaodd eich hynafiaid y manna yn yr anialwch, ac eto buont farw. 50Ond dyma'r bara sy'n disgyn o'r nef, er mwyn i rywun gael bwyta ohono a pheidio â marw. 51Myfi yw'r bara bywiol hwn a ddisgynnodd o'r nef. Caiff pwy bynnag sy'n bwyta o'r bara hwn fyw am byth. A'r bara sydd gennyf fi i'w roi yw fy nghnawd; a'i roi a wnaf dros fywyd y byd.”
52Yna dechreuodd yr Iddewon ddadlau'n daer â'i gilydd, gan ddweud, “Sut y gall hwn roi ei gnawd i ni i'w fwyta?” 53Felly dywedodd Iesu wrthynt, “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, oni fwytewch gnawd Mab y Dyn ac yfed ei waed, ni bydd gennych fywyd ynoch. 54Y mae gan y sawl sy'n bwyta fy nghnawd i ac yn yfed fy ngwaed i fywyd tragwyddol, a byddaf fi'n ei atgyfodi yn y dydd olaf. 55Oherwydd fy nghnawd i yw'r gwir fwyd, a'm gwaed i yw'r wir ddiod. 56Y mae'r sawl sy'n bwyta fy nghnawd i ac yn yfed fy ngwaed i yn aros ynof fi, a minnau ynddo yntau. 57Y Tad byw a'm hanfonodd i, ac yr wyf fi'n byw oherwydd y Tad; felly'n union bydd y sawl sy'n fy mwyta i yn byw o'm herwydd innau. 58Dyma'r bara a ddisgynnodd o'r nef. Nid yw hwn fel y bara a fwytaodd yr hynafiaid; buont hwy farw. Caiff y sawl sy'n bwyta'r bara hwn fyw am byth.” 59Dywedodd Iesu y pethau hyn wrth ddysgu yn y synagog yng Nghapernaum.
Geiriau Bywyd Tragwyddol
60Wedi iddynt ei glywed, meddai llawer o'i ddisgyblion, “Geiriau caled yw'r rhain. Pwy all wrando arnynt?” 61Gwyddai Iesu ynddo'i hun fod ei ddisgyblion yn grwgnach am ei eiriau, ac meddai wrthynt, “A yw hyn yn peri tramgwydd i chwi? 62Beth ynteu os gwelwch Fab y Dyn yn esgyn i'r lle'r oedd o'r blaen? 63Yr Ysbryd sy'n rhoi bywyd; nid yw'r cnawd yn tycio dim. Y mae'r geiriau yr wyf fi wedi eu llefaru wrthych yn ysbryd ac yn fywyd. 64Ac eto y mae rhai ohonoch sydd heb gredu.” Yr oedd Iesu, yn wir, yn gwybod o'r cychwyn pwy oedd y rhai oedd heb gredu, a phwy oedd yr un a'i bradychai. 65“Dyna pam,” meddai, “y dywedais wrthych na allai neb ddod ataf fi heb i'r Tad beri iddo wneud hynny.”
66O'r amser hwn trodd llawer o'i ddisgyblion yn eu holau a pheidio mwyach â mynd o gwmpas gydag ef. 67Yna gofynnodd Iesu i'r Deuddeg, “A ydych chwithau hefyd, efallai, am fy ngadael?” 68Atebodd Simon Pedr ef, “Arglwydd, at bwy yr awn ni? Y mae geiriau bywyd tragwyddol gennyt ti, 69ac yr ydym ni wedi dod i gredu a gwybod mai ti yw Sanct Duw.” 70Atebodd Iesu hwy, “Onid myfi a'ch dewisodd chwi'r Deuddeg? Ac eto, onid diafol yw un ohonoch?” 71Yr oedd yn siarad am Jwdas fab Simon Iscariot, oherwydd yr oedd hwn, ac yntau'n un o'r Deuddeg, yn mynd i'w fradychu ef.
Atualmente selecionado:
Ioan 6: BCND
Destaque
Partilhar
Copiar
Quer salvar os seus destaques em todos os seus dispositivos? Faça o seu registo ou inicie sessão
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004