YouVersion
Pictograma căutare

Luc 16

16
Dameg y Goruchwyliwr Anonest
1Dywedodd wrth ei ddisgyblion hefyd, “Yr oedd dyn cyfoethog a chanddo oruchwyliwr. Achwynwyd wrth ei feistr fod hwn yn gwastraffu ei eiddo ef. 2Galwodd ef ato a dweud wrtho, ‘Beth yw'r hanes hwn amdanat? Dyro imi gyfrifon dy oruchwyliaeth, oherwydd ni elli gadw dy swydd bellach.’ 3Yna meddai'r goruchwyliwr wrtho'i hun, ‘Beth a wnaf fi? Y mae fy meistr yn cymryd fy swydd oddi arnaf. Nid oes gennyf mo'r nerth i labro, ac y mae arnaf gywilydd cardota. 4Fe wn i beth a wnaf i gael croeso i gartrefi pobl pan ddiswyddir fi.’ 5Galwodd ato bob un o ddyledwyr ei feistr, ac meddai wrth y cyntaf, ‘Faint sydd arnat i'm meistr?’ 6Atebodd yntau, ‘Mil o fesurau o olew olewydd.’ ‘Cymer dy gyfrif,’ meddai ef, ‘eistedd i lawr, ac ysgrifenna ar unwaith “bum cant.” ’ 7Yna meddai wrth un arall, ‘A thithau, faint sydd arnat ti?’ Atebodd yntau, ‘Mil o fesurau o rawn.’ ‘Cymer dy gyfrif,’ meddai ef, ‘ac ysgrifenna “wyth gant.” ’ 8Cymeradwyodd y meistr y goruchwyliwr anonest am iddo weithredu yn gall; oherwydd y mae plant y byd hwn yn gallach na phlant y goleuni yn eu hymwneud â'u tebyg. 9Ac rwyf fi'n dweud wrthych, gwnewch gyfeillion i chwi eich hunain o'r Mamon#16:9 Neu, Arian. anonest, er mwyn i chwi gael croeso i'r tragwyddol bebyll pan ddaw dydd Mamon i ben. 10Y mae rhywun sy'n gywir yn y pethau lleiaf yn gywir yn y pethau mawr hefyd, a'r un sy'n anonest yn y pethau lleiaf yn anonest yn y pethau mawr hefyd. 11Gan hynny, os na fuoch yn gywir wrth drin y Mamon anonest, pwy a ymddirieda i chwi y gwir olud? 12Ac os na fuoch yn gywir wrth drin eiddo pobl eraill, pwy a rydd i chwi eich eiddo eich hunain? 13Ni all unrhyw was wasanaethu dau feistr; oherwydd bydd un ai'n casáu'r naill ac yn caru'r llall, neu'n deyrngar i'r naill ac yn dirmygu'r llall. Ni allwch wasanaethu Duw a Mamon.”
Y Gyfraith a Theyrnas Dduw
14Yr oedd y Phariseaid, sy'n bobl ariangar, yn gwrando ar hyn oll ac yn ei watwar. 15Ac meddai wrthynt, “Chwi yw'r rhai sy'n ceisio eu cyfiawnhau eu hunain yng ngolwg y cyhoedd, ond y mae Duw yn adnabod eich calonnau; oherwydd yr hyn sydd aruchel yng ngolwg y cyhoedd, ffieiddbeth yw yng ngolwg Duw. 16Y Gyfraith a'r proffwydi oedd mewn grym hyd at Ioan; oddi ar hynny, y mae'r newydd da am deyrnas Dduw yn cael ei gyhoeddi, a phawb yn ceisio mynediad iddi trwy drais. 17Ond byddai'n haws i'r nef a'r ddaear ddarfod nag i fanylyn lleiaf y Gyfraith golli ei rym. 18Y mae pob un sy'n ysgaru ei wraig ac yn priodi un arall yn godinebu, ac y mae'r dyn sy'n priodi gwraig a ysgarwyd gan ei gŵr yn godinebu.
Y Dyn Cyfoethog a Lasarus
19“Yr oedd dyn cyfoethog oedd yn arfer gwisgo porffor a lliain main, ac yn gwledda'n wych bob dydd. 20Wrth ei ddrws gorweddai dyn tlawd, o'r enw Lasarus, yn llawn cornwydydd, 21ac yn dyheu am wneud pryd o'r hyn a syrthiai oddi ar fwrdd y dyn cyfoethog; ac yn wir byddai'r cŵn yn dod i lyfu ei gornwydydd. 22Bu farw'r dyn tlawd, a dygwyd ef ymaith gan yr angylion i wledda wrth ochr Abraham. Bu farw'r dyn cyfoethog yntau, a chladdwyd ef. 23Yn Hades, ac yntau mewn poen arteithiol, cododd ei lygaid a gweld Abraham o bell, a Lasarus wrth ei ochr. 24A galwodd, ‘Abraham, fy nhad, trugarha wrthyf; anfon Lasarus i wlychu blaen ei fys mewn dŵr ac i oeri fy nhafod, oherwydd yr wyf mewn ingoedd yn y tân hwn.’ 25‘Fy mhlentyn,’ meddai Abraham, ‘cofia iti dderbyn dy wynfyd yn ystod dy fywyd, a Lasarus yr un modd ei adfyd; yn awr y mae ef yma yn cael ei ddiddanu, a thithau yn dioddef mewn ingoedd. 26Heblaw hyn oll, rhyngom ni a chwi y mae agendor llydan wedi ei osod, rhag i neb a ddymunai hynny groesi oddi yma atoch chwi, neu gyrraedd oddi yna atom ni.’ 27Atebodd ef, ‘Os felly, fy nhad, rwy'n erfyn arnat ei anfon ef i dŷ fy nhad, 28at y pum brawd sydd gennyf, i'w rhybuddio am y cyfan, rhag iddynt hwythau ddod i'w harteithio yn y lle hwn.’ 29Ond dywedodd Abraham, ‘Y mae Moses a'r proffwydi ganddynt; dylent wrando arnynt hwy.’ 30‘Nage, Abraham, fy nhad,’ atebodd ef, ‘ond os â rhywun atynt oddi wrth y meirw, fe edifarhânt.’ 31Ond meddai ef wrtho, ‘Os nad ydynt yn gwrando ar Moses a'r proffwydi, yna ni chânt eu hargyhoeddi hyd yn oed os atgyfoda rhywun o blith y meirw.’ ”

Selectat acum:

Luc 16: BCND

Evidențiere

Partajează

Copiază

None

Dorești să ai evidențierile salvate pe toate dispozitivele? Înscrie-te sau conectează-te