Mufananidzo weYouVersion
Mucherechedzo Wekutsvaka

Ioan 11

11
Marw Lasarus
1Roedd dyn o’r enw Lasarus yn glaf. Roedd ei gartref ym Methania, pentref Mair a’i chwaer Martha. 2Dyma’r Fair a eneiniodd yr Arglwydd â pherarogl ac a sychodd ei draed â’i gwallt. Roedd hi’n chwaer i Lasarus oedd yn glaf. 3A dyma’r chwiorydd yn anfon neges at yr Iesu i ddweud, “Syr, mae dy gyfaill annwyl yn glaf.”
4Pan glywodd yr Iesu meddai, “Fydd yr afiechyd hwn ddim yn achosi marwolaeth, fe ddaeth er mwyn gogoniant i Dduw, ac i ddod â gogoniant i Fab Duw hefyd.”
5Felly er ei fod yn caru Martha a’i chwaer a Lasarus, 6wedi clywed am yr afiechyd, fe arhosodd yr Iesu lle roedd am ddeuddydd.
7Ac yna ar ôl hyn, meddai wrth ei ddisgyblion, “Gadewch inni fynd yn ôl i Jwdea.”
8“Athro,” meddai’r disgyblion, “does fawr er pan oedd yr Iddewon am daflu cerrig atat yno. Wyt ti am fynd yno eto?”
9Atebodd yr Iesu, “Mae deuddeg awr mewn diwrnod onid oes? Felly fe all dyn gerdded liw dydd heb faglu, gan fod yr haul yn rhoi goleuni iddo. 10Ond os cerdda liw nos mae’n baglu, oherwydd does dim golau ganddo.”
11Ac ar ôl dweud hyn ychwanegodd, “Mae ein cyfaill Lasarus wedi syrthio i gysgu, ond fe âf fi yno i’w ddeffro.”
12Ac meddai’r disgyblion, “Os cysgu y mae, fe gaiff ei wella eto.”
13Ond roedd yr Iesu wedi sôn am ei farw, a nhwythau’n meddwl mai sôn yr oedd am gwsg naturiol. 14Felly dyma’r Iesu yn dweud wrthyn nhw yn blaen, 15“Mae Lasarus wedi marw. Ond rwyf yn falch nad oeddwn yno er eich mwyn chi ac er mwyn i chi gredu. Ond gadewch i ni fynd ato.”
16Ac meddai Thomas (y gefell) wrth ei gyd-ddisgyblion, “Awn ninnau hefyd i farw gydag ef.”
Iesu’r atgyfodiad a’r bywyd
17Pan gyrhaeddodd yr Iesu, fe gafodd ei fod wedi bod yn y bedd bedwar diwrnod yn barod. 18Roedd Bethania lai na dwy filltir o Jerwsalem, 19ac roedd llawer o’r Iddewon wedi dod o’r ddinas i gysuro Martha a Mair ar farw eu brawd. 20A’r funud y clywodd hi fod yr Iesu ar y ffordd aeth Martha i’w gyfarfod, ond arhosodd Mair gartref.
21Ac meddai Martha wrth yr Iesu, “Syr, pe buaset ti yma, fyddai fy mrawd ddim wedi marw. 22Ond hyd yn oed nawr fe wn i y cei di beth bynnag a ofynni di gan Dduw.”
23“Fe gaiff dy frawd ddod yn fyw eto,” meddai’r Iesu wrthi.
24“Fe wn i y cwyd ef eto yn yr atgyfodiad ar y dydd olaf,” meddai Martha.
25Meddai’r Iesu, “Myfi yw’r atgyfodiad a’r bywyd. Pwy bynnag sy’n ymddiried ynof i, byw fydd, er iddo farw: 26fydd neb sy’n fyw ac yn ymddiried ynof i byth farw. Fedri di gredu hyn?”
27“Medraf, Arglwydd,” atebodd. “Rwy’n credu mai Ti yw’r Meseia, Mab Duw, sydd yn dod i’r byd.”
28Gyda’r geiriau hyn, aeth hi i ffwrdd i alw ei chwaer Mair, ac meddai wrthi o’r neilltu, “Mae’r Athro yma, ac mae’n gofyn amdanat.” 29Pan glywodd Mair hyn, cododd a brysio i’w gwrdd. 30Nid oedd yr Iesu wedi cyrraedd y pentref eto — roedd yn yr un lle ag y cwrddodd Martha ag ef. 31Pan welodd yr Iddewon, oedd gyda hi yn y tŷ yn ei chysuro, fod Mair wedi codi a mynd allan, fe aethon nhw ar ei hôl, gan feddwl ei bod yn mynd at y bedd i wylo yno.
32A phan ddaeth Mair i’r fan lle’r oedd yr Iesu a’i weld, syrthiodd wrth ei draed ac meddai wrtho, “O Syr, pe buaset ti yma, fyddai fy mrawd ddim wedi marw.”
33A phan welodd yr Iesu hi’n wylo, a’r Iddewon oedd gyda hi hefyd yn wylo, fe roddodd ochenaid ddofn a chynhyrfwyd ef i’r byw.
34“Ble rydych chi wedi’i gladdu ef?” gofynnodd.
“Tyrd, a gwêl, syr,” medden nhw.
35Fe wylodd yr Iesu ei hun. 36Ac meddai’r Iddewon, “Mae’n rhaid ei fod yn hoff iawn ohono.” 37Ond meddai rhai ohonyn nhw, “Oni allai hwn, ac yntau wedi agor llygaid y dall, ddim gwneud rhywbeth i rwystro Lasarus rhag marw?”
Atgyfodi Lasarus
38Ochneidiodd yr Iesu eto ynddo’i hun a dod at y bedd. Ogof oedd, a charreg wedi ei gosod ar ei thraws. 39Meddai’r Iesu, “Symudwch y garreg.”
Ac meddai Martha, chwaer y dyn marw, “Mae yna ddrewdod, mae ef yn farw ers pedwar diwrnod.” 40Atebodd yr Iesu, “Oni ddywedais i wrthyt ti, os bydd iti ymddiried, y cei di weld gogoniant Duw?”
41A dyma nhw’n symud y garreg.
Yna fe gododd yr Iesu ei olwg, ac meddai, “Rwyf yn diolch i ti, O Dad, am wrando arnaf. 42Mi wn i’n iawn dy fod ti’n fy ngwrando bob amser, ond rwyf yn dweud hyn oherwydd y bobl yma o’m cwmpas i, er mwyn iddyn nhw gredu mai ti sydd wedi f’anfon i.”
43Yna fe waeddodd mewn llais uchel: “Lasarus! Tyrd allan!”
44Daeth y dyn marw allan, a’i ddwylo a’i draed wedi’u rhwymo â rhwymyn lliain a chadach am ei wyneb.
“Gollyngwch ef a gadewch iddo fynd yn rhydd,” meddai’r Iesu.
Cynllwyn yn erbyn yr Iesu
45Fe gredodd llawer o’r Iddewon a ddaeth i ymweld â Mair ynddo, pan welson nhw yr hyn a wnaeth ef. 46Ond aeth rhai i ffwrdd at y Phariseaid i ddweud beth roedd ef wedi’i wneud.
47Felly dyma’r prif offeiriaid a’r Phariseaid yn galw’r Cyngor ynghyd, ac medden nhw.
“Beth wnawn ni? Mae’r dyn yma yn gwneud llawer o arwyddion. 48Os gadawn ef yn llonydd fe fydd pawb yn credu ynddo, yna fe ddaw’r Rhufeiniaid i ddinistrio’n Teml ni a’n cenedl.”
49Ond meddai Caiaffas, un ohonyn nhw a oedd yn Brif Offeiriad y flwyddyn honno, “Dydych chi ddim wedi deall y sefyllfa o gwbl; 50mae’n well i chi fod un dyn yn marw dros y bobl nag i genedl gyfan gael ei dinistrio.”
51Ond nid ohono’i hun y dywedodd hyn, ond fel Prif Offeiriad y flwyddyn honno, fe broffwydodd y byddai’r Iesu farw dros y genedl, 52ac nid dros y genedl yn unig, ond i gasglu ynghyd blant gwasgaredig Duw. 53Felly o’r dydd hwnnw dyma gynllwynio sut i’w ladd.
54O ganlyniad, doedd yr Iesu ddim i’w weld o gwmpas yn gyhoeddus ymhlith yr Iddewon; fe adawodd y rhan hon am wlad yn ffinio â’r tir anial, a daeth i dref o’r enw Effraim, a threulio amser yno gyda’i ddisgyblion.
55Roedd Pasg yr Iddewon yn agos, ac aeth llaweroedd i fyny o’r wlad i Jerwsalem i’w puro’u hunain cyn y Pasg. 56Roedden nhw’n chwilio am yr Iesu, ac medden nhw wrth ei gilydd wrth aros yn y Deml.
“Beth yw’ch barn chi? Efallai nad yw ef yn dod i’r Ŵyl.”
57Roedd y prif offeiriaid a’r Phariseaid wedi rhoi gorchymyn, os oedd rhywun yn gwybod lle roedd, iddo roi gwybod fel y medren nhw ei ddal ef.

Zvasarudzwa nguva ino

Ioan 11: FfN

Sarudza vhesi

Pakurirana nevamwe

Sarudza zvinyorwa izvi

None

Unoda kuti zviratidziro zvako zvichengetedzwe pamidziyo yako yose? Nyoresa kana kuti pinda