Mufananidzo weYouVersion
Mucherechedzo Wekutsvaka

Mathew 15

15
Peryglon traddodiad
1Yna daeth rhai o’r Phariseaid ac athrawon y Gyfraith o Jerwsalem at Iesu gan ofyn, 2“Pam mae dy ddisgyblion di’n torri traddodiad yr hynafiaid? Dydyn nhw ddim yn golchi’u dwylo cyn bwyta.”
3Atebodd yntau: “A beth amdanoch chi? Pam rydych chi’n torri gorchymyn Duw er mwyn eich traddodiad? 4Fel hyn y dywedodd Duw: ‘Anrhydedda dy dad a’th fam,’ a ‘Bydded farw’n gelain y sawl a felltithio dad neu fam.’ 5Ond fel hyn y dywedwch chi: ‘Os dywed rhywun wrth ei dad neu ei fam, “Mae’r hyn a fwriadwyd i’ch helpu chi wedi ei neilltuo i Dduw, 6does dim rhaid i hwnnw anrhydeddu ei dad.”’ A dyna chi drwy eich traddodiad wedi gwneud gair Duw yn ddirym. 7Y fath ragrithwyr! Proffwydodd Eseia’n gywir amdanoch chi pan ddywedodd:
8‘Mae’r bobl hyn yn f’anrhydeddu â’u gwefusau,
Ond mae eu calon ymhell oddi wrthyf.
9Ofer iddyn nhw fy addoli,
Gan ddysgu fel athrawiaeth orchmynion dynion’.”
Glân ac aflan
10Yna fe alwodd y dyrfa ato ac meddai wrthyn nhw, “Gwrandewch a deëllwch hyn: 11nid yr hyn sy’n mynd i enau dyn sy’n ei wneud yn aflan, ond yr hyn sy’n dod allan o’i enau.”
12A daeth y disgyblion ato a dweud, “Wyt ti’n gwybod dy fod ti wedi tramgwyddo’r Phariseaid wrth yr hyn ddywedaist ti?”
13Atebodd yntau, “Pob planhigyn sy heb ei blannu gan fy Nhad nefol fe’i codir o’r gwraidd. 14Gadewch lonydd iddyn nhw; arweinwyr dall ydyn nhw, ac os bydd dyn dall yn arwain un arall, i’r ffos yr â’r ddau ohonyn nhw.”
15“Eglura’r ddameg inni,” meddai Pedr.
16“Beth?” meddai’r Iesu. “Ai rhai di-ddeall ydych chithau hefyd? 17Ydych chi ddim yn deall fod popeth sy’n mynd i enau dyn yn disgyn i’r stumog ac yn cael ei daflu allan i’r geuffos? 18Ond am y pethau sy’n dod allan o’i enau, daw’r rheiny o’i galon; a’r rheiny sy’n gwneud dyn yn aflan. 19Bwriadau drwg, llofruddio, godinebu, puteinio, lladrata, camdystiolaethu, pardduo cymeriad — o’r galon y daw y rhain i gyd; 20a’r rhain sy’n gwneud dyn yn aflan; ond bwyta heb olchi dwylo, all hynny ddim gwneud dyn yn aflan.”
Ffydd anorchfygol
21Yna fe adawodd Iesu’r ardal honno a mynd i gyffiniau Tyrus a Sidon. 22A dyma wraig o Ganaan yn dod o rywle yn yr ardal dan lefain, “Fab Dafydd, syr, cymer drugaredd arna i; mae cythraul yn aflonyddu’n greulon ar fy merch.”
23Ond ni ddaeth gair o ateb oddi wrtho.
Daeth ei ddisgyblion ato a’i annog, “Anfon hi ymaith; mae hi’n gweiddi ar ein holau ni.”
24Meddai yntau, “Dim ond at ddefaid colledig tŷ Israel yr anfonwyd fi.”
25Ond dyma’r wraig yn dod ac yn disgyn wrth ei draed, “O! syr, helpa fi,” meddai.
26“Dyw hi ddim yn deg cymryd bara’r plant a’i daflu i’r cŵn,” atebodd yntau.
27“Gwir, syr,” meddai hithau, “ond mae’r cŵn yn bwyta’r briwsion sy’n disgyn oddi ar fwrdd eu meistriaid.”
28“Wraig,” meddai Iesu, “y fath ffydd sy gennyt! Ti gei yn ôl dy ddymuniad.”
Ac o’r foment honno fe wnaed ei merch yn holliach.
Iacháu a phorthi llaweroedd
29Wedi gadael yr ardal honno, aeth Iesu gyda glan Môr Galilea, ac i fyny i’r mynydd. Ac yntau’n eistedd yno, 30daeth tyrfa fawr ato, gan ddwyn gyda nhw bobl gloff, ddall, anafus, fud a llawer o ddioddefwyr eraill. Wedi eu dodi wrth ei draed ef, fe iachaodd yntau nhw. 31Ni allai’r bobl ddod dros y peth — gweld y mudion yn siarad, yr anafus yn holliach, y cloffion yn cerdded, a’r deillion wedi cael eu golwg; ac fe roeson nhw glod i Dduw Israel.
32Wedi galw ei ddisgyblion ato, meddai Iesu: “Rwy’n teimlo i’r byw dros y bobl yma; maen nhw’n fy nilyn i bellach ers tridiau a does ganddyn nhw ddim i’w fwyta. Dydw i ddim am eu hanfon nhw adref heb ddim i’w fwyta; fe allen nhw lewygu ar y ffordd.”
33“Ond,” meddai’r disgyblion, “o ble y caem ni ddigon o fara mewn lle anial fel hwn i fwydo’r fath dyrfa?”
34“Sawl torth sydd gennych?” gofynnodd yr Iesu.
“Saith,” medden nhw, “ac ychydig o bysgod bychain.”
35Wedi gorchymyn i’r bobl eistedd ar y ddaear, 36cymerodd y saith dorth a’r pysgod, a diolch, eu torri a’u rhoi i’r disgyblion a nhwythau i’r bobl. 37Bwytaodd pawb a chael eu gwala, ac roedd y briwsion gweddill, wedi eu codi, yn saith basgedaid lawn. 38Roedd pedair mil o ddynion wedi bwyta, heb sôn am wragedd a phlant. 39Ac wedi gollwng y dyrfa ymaith, fe aeth Iesu i’r cwch, a chroesi i ardal Magadan.

Zvasarudzwa nguva ino

Mathew 15: FfN

Sarudza vhesi

Pakurirana nevamwe

Sarudza zvinyorwa izvi

None

Unoda kuti zviratidziro zvako zvichengetedzwe pamidziyo yako yose? Nyoresa kana kuti pinda