Mathew 20
20
Dameg y Gweithwyr yn y winllan
1“Dyma fel mae teyrnas Nefoedd. Dyna i chi ffermwr yn mynd allan yn y bore i gyflogi gweithwyr i’w winllan; 2ac wedi cytuno â’r gweithwyr i dalu iddyn nhw’r gyflog arferol am y dydd yn eu danfon nhw i’w winllan. 3Tua naw o’r gloch dyma ef allan eto ac yn gweld rhai eraill yn sefyll yn segur yn y farchnadfa. 4‘Ewch chithau i’r winllan,’ meddai wrthyn nhw, ‘ac fe dalaf ichi beth bynnag fydd yn deg.’ 5Ac i ffwrdd â nhw. Hanner dydd dyma ef allan eto, ac am dri y pnawn, a gwneud yr un peth. 6Tua phump o’r gloch dyma ef allan unwaith eto a chael rhai eraill yn sefyllian o gwmpas, ac meddai wrthyn nhw, ‘Pam rych chi’n sefyllian o gwmpas fel hyn drwy’r dydd heb wneud dim?’ 7‘Am nad oes neb wedi’n cyflogi ni,’ oedd yr ateb. ‘Ewch chithau hefyd i’r winllan,’ meddai yntau.
8“Pan ddaeth yr hwyr, meddai meistr y winllan wrth ei stiward, ‘Galw’r gweithwyr a thâl eu cyflog iddyn nhw, gan ddechrau gyda’r rhai olaf a diweddu gyda’r rhai cyntaf.’ 9A dyma’r rhai a gyflogwyd tua phump o’r gloch yn dod a chael bob un y gyflog am y dydd. 10Pan ddaeth tro’r rhai a gyflogwyd gyntaf, roedden nhw’n disgwyl cael mwy, ond yr un faint gawson nhw hefyd. 11Wrth gymryd y gyflog, grwgnach wnaethon nhw yn erbyn y ffermwr 12a dweud, ‘Dim ond gwaith awr a wnaeth y rhai olaf yma, ac rwyt ti wedi talu’r un faint iddyn nhw ag i ni, sy wedi chwysu drwy’r dydd yn y gwres mawr.’ 13Dyna’r ffermwr yn troi at un ohonyn nhw, ac meddai wrtho, ‘Gwrando gyfaill: dydw i’n gwneud dim cam â thi. Fe gytunaist am y gyflog arferol am y dydd, ond do? 14Cymer dy gyflog a dos adref. Rwy’n dewis talu i’r hwn a gyflogwyd ddiwethaf yr un fath ag i ti. 15Does bosib na allaf fi wneud fel rydw i’n dewis â’m heiddo fy hun? Neu wyt ti’n genfigennus am fy mod i’n dda?’ 16Felly y bydd y rhai olaf yn gyntaf, a’r rhai cyntaf yn olaf.”
Rhagfynegi ei farwolaeth a’i atgyfodiad
17Roedd Iesu’n mynd tua Jerwsalem, ac fe gymerodd y deuddeg disgybl o’r neilltu, ac meddai wrthyn nhw ar y ffordd, 18“Rydym ni’n mynd i fyny i Jerwsalem ac fe roir Mab y Dyn yn nwylo’r prif offeiriaid ac athrawon y Gyfraith; fe’i condemnian nhw ef i farwolaeth 19a’i roi yn nwylo gallu estroniaid i’w wawdio a’i chwipio a’i groeshoelio, ac ar y trydydd dydd fe gaiff ei godi o farw’n fyw drachefn.”
Uchelgais
20Ar hynny daeth gwraig Sebedeus ato gyda’i meibion, moesymgrymu iddo, a gofyn ffafr.
21“Beth rwyt ti eisiau?” meddai’r Iesu wrthi.
“Gorchymyn,” meddai hithau, “fod y ddau fab yma i gael eistedd y naill ar dy law dde a’r llall ar dy law chwith yn dy Deyrnas.”
22“Does gyda chi ddim syniad beth rydych chi’n ei ofyn,” atebodd Iesu. “A ellwch chi yfed o’r cwpan rydw i’n mynd i yfed ohono?”
“Gallwn,” medden nhw.
23“Fe gewch yn wir yfed o’m cwpan i,” meddai ef, “ond am gael eistedd ar fy llaw dde neu fy llaw chwith, nid fi sydd i roi hynny; fe fydd hynny i’r sawl y trefnwyd ar eu cyfer gan fy Nhad.”
24Pan glywodd y deg arall am hyn, roedden nhw’n ddig iawn wrth y ddau frawd. 25Ond galwodd Iesu nhw ato, ac meddai wrthyn nhw,
“Fe wyddoch fod llywodraethwyr pobloedd y byd yn arglwyddiaethu arnyn nhw, a bod eu gwŷr mawr yn awdurdodi arnyn nhw; 26ond nid felly y bydd hi yn eich plith chi. 27Rhaid i’r sawl sy am fod yn fawr yn eich plith chi fod yn was, a rhaid i’r neb a fyn fod yn flaenaf fod yn gaethwas pawb; 28fel Mab y Dyn, nid i dderbyn gwasanaeth y daeth e, ond i roi gwasanaeth, ac i roi ei fywyd yn bridwerth dros lawer.”
Deillion yn gweld eilwaith
29A nhw’n gadael Jericho, fe’i dilynwyd ef gan dyrfa fawr. 30Wrth fin y ffordd eisteddai dau ddyn dall. Pan glywodd y rhain fod Iesu’n mynd heibio, dyma nhw’n gweiddi, “Fab Dafydd, Syr, tosturia wrthym.”
31Trodd y dyrfa arnyn nhw i roi taw arnyn nhw. Ond gweiddi’n uwch wnaethon nhw, “Fab Dafydd, Syr, tosturia wrthym.”
32A safodd Iesu a’u galw nhw ato.
“Beth rydych chi am imi’i wneud ichi?” gofynnodd.
33“Syr,” medden nhw, “am gael gweld rydym ni.”
34A dyna Iesu, wedi teimlo i’r byw, yn cyffwrdd â’u llygaid. Ac ar unwaith fe gawson nhw’u golwg yn ôl, a mynd i’w ganlyn ef.
Zvasarudzwa nguva ino
Mathew 20: FfN
Sarudza vhesi
Pakurirana nevamwe
Sarudza zvinyorwa izvi
Unoda kuti zviratidziro zvako zvichengetedzwe pamidziyo yako yose? Nyoresa kana kuti pinda
© Cymdeithas y Beibl 1971
© British and Foreign Bible Society 1971