Jeremeia 45
45
Neges i Barŵch
1Dyma’r proffwyd Jeremeia yn rhoi neges i Barŵch fab Nereia, oedd yn ysgrifennu’r cwbl roedd Jeremeia’n ei ddweud mewn sgrôl.#Jeremeia 36:1-4 (Roedd hyn yn ystod y bedwaredd flwyddyn pan oedd Jehoiacim fab Joseia yn frenin ar Jwda#45:1 y bedwaredd … ar Jwda 604–605 cc.): 2-3“Barŵch, rwyt ti’n dweud, ‘Mae hi ar ben arna i! Mae’r ARGLWYDD wedi rhoi tristwch ar ben y boen oedd yna’n barod! Dw i wedi blino tuchan. Alla i ddim gorffwys.’ Wel, dyma mae’r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud wrthot ti: 4‘Dw i’n mynd i fwrw i lawr beth dw i wedi’i adeiladu, a thynnu o’r gwraidd beth dw i wedi’i blannu. Bydda i’n gwneud hyn drwy’r byd i gyd. 5Ddylet ti ddim disgwyl pethau mawr i ti dy hun. Dw i’n dod â dinistr ar y ddynoliaeth gyfan. Ond bydda i’n dy gadw di’n fyw ble bynnag ei di.’”
–yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.
தற்சமயம் தேர்ந்தெடுக்கப்பட்டது:
Jeremeia 45: bnet
சிறப்புக்கூறு
நகல்
ஒப்பீடு
பகிர்
உங்கள் எல்லா சாதனங்களிலும் உங்கள் சிறப்பம்சங்கள் சேமிக்கப்பட வேண்டுமா? பதிவு செய்யவும் அல்லது உள்நுழையவும்
© Cymdeithas y Beibl 2023