1
Genesis 9:12-13
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004
A dywedodd Duw, “Dyma a osodaf yn arwydd o'r cyfamod yr wyf yn ei wneud â chwi ac â phopeth byw gyda chwi tros oesoedd di-rif: gosodaf fy mwa yn y cwmwl, a bydd yn arwydd cyfamod rhyngof a'r ddaear.
సరిపోల్చండి
Explore Genesis 9:12-13
2
Genesis 9:16
Pan fydd y bwa yn y cwmwl, byddaf yn edrych arno ac yn cofio'r cyfamod tragwyddol rhwng Duw a phob creadur byw o bob math ar y ddaear.”
Explore Genesis 9:16
3
Genesis 9:6
“A dywallto waed dyn, trwy ddyn y tywelltir ei waed yntau; oherwydd gwnaeth Duw ddyn ar ei ddelw ei hun.
Explore Genesis 9:6
4
Genesis 9:1
Bendithiodd Duw Noa a'i feibion a dweud, “Byddwch ffrwythlon, amlhewch a llanwch y ddaear.
Explore Genesis 9:1
5
Genesis 9:3
Bydd popeth byw sy'n symud yn fwyd i chwi; fel y rhoddais eisoes lysiau gleision i chwi, rhoddaf i chwi bopeth.
Explore Genesis 9:3
6
Genesis 9:2
Bydd eich ofn a'ch arswyd ar yr holl fwystfilod gwyllt, ar holl adar yr awyr, ar holl ymlusgiaid y tir ac ar holl bysgod y môr; gosodwyd hwy dan eich awdurdod.
Explore Genesis 9:2
7
Genesis 9:7
Chwithau, byddwch ffrwythlon ac amlhewch, epiliwch ar y ddaear ac amlhewch ynddi.”
Explore Genesis 9:7
హోమ్
బైబిల్
ప్రణాళికలు
వీడియోలు