Luc 17

17
Ymddygiad tuag at ein gilydd
1Meddai’r Iesu wrth ei ddisgyblion, “Mae pethau sy’n arwain pobl ar gyfeiliorn yn sicr o ddod, ond gwae’r sawl sy’n gyfrifol amdanyn nhw. 2Byddai’n well iddo gael ei daflu i’r môr a maen melin mawr yn hongian wrth ei wddf, nac arwain un o’r rhai bach hyn ar gyfeiliorn.
3“Felly gwyliwch. Os pecha dy frawd, cerydda ef, ond os bydd yn ddrwg ganddo, maddau iddo. 4Ac os trosedda yn d’erbyn seithwaith y dydd, a throi atat bob tro gan ddweud, ‘Rwy’n gofidio am yr hyn a wnes,’ maddau iddo.”
5Ac meddai’r apostolion wrth yr Arglwydd, “Rho fwy o ffydd i ni.”
6Meddai yntau, “Wyddoch chi, petai gennych ffydd ond cymaint â hedyn mwstard, gallech ddweud wrth y sycamorwydden hon, ‘Cod dy wreiddiau, a phlanna dy hun yn y môr,’ ac fe wnâi felly.
Brwdfrydedd gweithwyr
7“Os oes gennych was yn aredig neu’n bugeilio’r defaid, fyddwch chi’n dweud wrtho pan ddaw i mewn o’r cae, ‘Dos at y bwrdd ar unwaith a bwyta.’ 8Onid ydych yn llawer tebycach o ddweud, ‘Hwylia swper imi, torch dy lewys a thendia arnaf tra byddaf yn bwyta ac yn yfed. Cymer dithau dy fwyd a diod wedyn’? 9A ddiolchir i’r gwas hwnnw am ufuddhau i’w orchmynion? 10Chithau yr un modd, wedi ichi gadw’r holl orchmynion, fe ddylech ddweud, ‘Gweision heb haeddu clod ydym; ni wnaethom fwy na’n dyletswydd’.”
Iacháu deg gwahanglwyf
11Yn ystod ei daith i Jerwsalem, âi yr Iesu ar hyd y ffin rhwng Samaria a Galilea, 12ac fel y deuai’n agos at ryw bentref, daeth deg o wahangleifion i’w gyfarfod. Ac er cadw pellter oddi wrtho, 13dyna nhw’n gweiddi, “Iesu, Feistr, cymer drugaredd arnom.”
14O weld hyn, meddai yntau, “Dangoswch eich hunain i’r offeiriaid.”
Wrth iddyn nhw fynd ymlaen, fe ddaeth pob un yn lân! 15A daeth un ohonyn nhw, wedi gweld ei fod yn lân, yn ôl gan foliannu Duw ar uchaf ei lais. 16Yna, taflodd ei hun ar ei wyneb wrth draed yr Iesu, gan ddiolch iddo. A Samariad oedd hwnnw.
17“Oni iachawyd y deg?” gofynnodd yr Iesu, “Pa le mae’r naw arall? 18Ai dyn dieithr yn unig sydd yn troi i ganmol Duw?”
19A dywedodd wrth y dyn, “Cod, a dos ymlaen â’th daith. Oherwydd dy ffydd yr iachawyd di.”
Pan deyrnaso Duw
20Pan holodd y Phariseaid pa bryd y deuai teyrnasiad Duw yn ffaith, ei ateb oedd, “Nid wrth ddisgwyl amdano y daw teyrnasiad Duw. 21Ni chlywir neb yn dweud, ‘Dyma deyrnas Dduw,’ neu ‘Dacw hi.’ Yn wir mae teyrnas Dduw yn eich mysg.”
22A chan droi at ei ddisgyblion, ychwanegodd, “Daw amser pan fyddwch yn dyheu am weld un o ddyddiau Mab y Dyn, ond yn ofer. 23A phan ddywedan nhw, ‘Edrychwch yma,’ neu ‘Edrychwch acw’, peidiwch â chymryd sylw. 24Bydd Mab y Dyn ar ei ddydd ef, fel mellten yn fflachio ar draws y ffurfafen. 25Ond bydd yn rhaid iddo ddioddef llawer cyn hynny, a chael ei wrthod gan yr oes hon. 26Yn adeg Mab y Dyn, bydd bywyd fel roedd yn nyddiau Noa. 27Roedd pobl yn bwyta ac yfed a phriodi hyd y diwrnod yr aeth Noa i mewn i’r arch — yna daeth y dilyw a’u difa bob un. 28Yr un modd wedyn yn adeg Lot: roedden nhw yn bwyta ac yfed, yn prynu a gwerthu, yn plannu ac yn adeiladu. 29Ond y dydd y gadawodd Lot Sodom, glawiodd dân a brwmstan o’r nef, a’u distrywio oll. 30Felly y bydd y dydd pan ddaw Mab y Dyn yn amlwg i bawb. 31Pan ddaw’r diwrnod hwnnw, nid yw’r gŵr sydd ar ben y tŷ i ddisgyn i’r tŷ am ei eiddo. A’r un modd yr hwn sydd yn y cae, nid yw yntau i ddychwelyd. 32Rhaid cofio yr hyn a ddigwyddodd i wraig Lot. 33Y sawl a ofala am ei fywyd ei hun a’i cyll, ond y sawl a gollo ei fywyd, a’i ceidw. 34Clywch, y noson honno bydd dau yn gorwedd yn yr un gwely, y naill yn cael ei gymryd a’r llall ei adael. 35Dwy wraig yn troi’r malwr gyda’i gilydd; cymerir un a gadewir y llall.”
37“Ym mhle, Arglwydd?” oedd eu cwestiwn.
Atebodd yntau, “Lle byddo’r corff marw, yno hefyd y bydd y fwlturiaid yn casglu.”

ప్రస్తుతం ఎంపిక చేయబడింది:

Luc 17: FfN

హైలైట్

షేర్ చేయి

కాపీ

None

మీ పరికరాలన్నింటి వ్యాప్తంగా మీ హైలైట్స్ సేవ్ చేయబడాలనుకుంటున్నారా? సైన్ అప్ చేయండి లేదా సైన్ ఇన్ చేయండి