Luc 18

18
Gwerth gweddïo taer
1Adroddodd ddameg wrthyn nhw i brofi y dylen nhw weddïo’n barhaus a heb dorri calon.
2“Roedd barnwr mewn rhyw ddinas,” meddai, “heb ofn Duw arno, a heb barch ganddo i neb. 3Yn yr un ddinas roedd gwraig weddw, a arferai ddod ato gan ddweud, ‘Amddiffyn fi rhag y dyn yma sydd yn ceisio fy niweidio.’
4“Gwrthododd am amser hir, ond o’r diwedd, meddai wrtho’i hun, ‘Er nad wyf yn ofni Duw nac yn parchu dyn, 5am fod y weddw hon yn boen a blinder imi rhaid imi ymladd ei hachos hi, neu bydd wedi fy nrysu’n lân gyda’i hymweliadau.’”
6Ac meddai’r Arglwydd, “Gwrandewch chi beth a ddywed y barnwr anghyfiawn. 7Oni chredwch y bydd i Dduw amddiffyn ei blant, a nhwythau yn erfyn arno ddydd a nos? Fydd ef yn oedi eu cynorthwyo? 8Coeliwch fi, fe farna o’u plaid ac ar frys hefyd. Er hynny, pan ddaw Mab y Dyn, a ddaw ef o hyd i ffydd ar y ddaear?”
Y weddi gywir
9Yna adroddodd ddameg wrth y rhai oedd yn siŵr o’u daioni eu hunain, ac yn edrych i lawr ar bawb arall.
10“Aeth dau ddyn i fyny i’r Deml i weddïo, y naill yn Pharisead a’r llall yn gasglwr trethi. 11Gan sefyll ar ei ben ei hun, fel hyn y gweddïai’r Pharisead, ‘O Dduw, diolch iti nad wyf fel pawb arall, yn lladron, yn dwyllwyr ac yn anfoesol, nac fel y casglwr trethi acw chwaith. 12Rydw i’n ymprydio ddwywaith bob wythnos, ac yn talu y ddegfed ran o’m holl incwm.’
13“Ond ni fynnai’r casglwr trethi, oedd yn sefyll o bell, edrych i fyny hyd yn oed — dim ond curo ei fron a dweud, ‘O Dduw, cymer drugaredd arnaf, troseddwr fel ag yr ydw i.’
14“Clywch, ef oedd yr un a aeth adref wedi’i fendithio gan Dduw, nid y llall. Oherwydd caiff pob un a’i dyrchafo’i hun, ei ostwng, a’r sawl a’i gostynga ei hun, ei ddyrchafu.”
Esiampl y plant
15Dechreuodd pobl ddod â hyd yn oed fabanod ato iddo gael eu cyffwrdd, ond ceryddodd y disgyblion nhw. 16Ond galwodd yr Iesu’r plant ato, gan ddweud, “Gadewch i’r plant ddod ataf fi: peidiwch â’u rhwystro, rhai fel hyn biau teyrnas Dduw. 17Credwch fi, pwy bynnag nad yw’n derbyn teyrnasiad Duw fel plentyn bach, ni chaiff fynd i mewn iddi.”
Iesu a’r Bywyd Tragwyddol: y llywodraethwr ifanc cyfoethog
18Gofynnodd rheolwr iddo, “Athro da, beth sydd raid i mi ei wneud er mwyn cael bywyd tragwyddol?”
19Ateb yr Iesu oedd, “Paham rwyt yn fy ngalw i yn ‘dda’? Duw’n unig sydd dda. 20Rwyt yn gwybod y gorchmynion, ‘Na odineba, na ladd, na ladrata, na ddwg gam-dystiolaeth, parcha dy dad a’th fam’.”
21Ac meddai yntau, “Cedwais y rhai hyn i gyd er pan oeddwn yn ifanc iawn.”
22Pan glywodd yr Iesu hyn, dywedodd wrtho, “Y mae un peth arall ar ôl. Gwerth y cyfan sydd gennyt, a rhanna’r arian rhwng y tlodion, ac fe gei drysor mawr yn y nefoedd. Yna tyrd a dilyn fi.”
23Ond aeth yn drist dros ben pan glywodd hyn, oherwydd roedd yn ŵr a chanddo gyfoeth mawr. 24A sylw’r Iesu wrth edrych arno oedd, “Dyna anodd yw hi i’r cyfoethog fynd i mewn i deyrnas Dduw. 25Mae hi’n haws i gamel fynd drwy grau nodwydd nag i ddyn cyfoethog fynd i deyrnas Dduw.”
26“Pwy felly,” holai’r gwrandawyr, “a all gael ei achub?”
27Atebodd yntau, “Gall Duw wneud yr hyn na all dynion.”
28Dywedodd Pedr, “Dyma ni wedi gadael ein heiddo i’th ddilyn di.”
29Atebodd yntau, “Credwch fi, ni adawodd neb gartref na gwraig, na brodyr, na rhieni neu blant erioed er mwyn teyrnas Dduw 30heb dderbyn llawer mwy yn y byd hwn, a bywyd tragwyddol yn yr oes sy’n dod.”
Proffwydo ei farwolaeth a’i atgyfodiad
31Ac wedi mynd gyda’r deuddeg o’r neilltu, dywedodd wrthyn nhw, “Rydym ni’n mynd i fyny i Jerwsalem, ac fe ddaw popeth a ddywedodd y proffwydi am Fab y Dyn i ben. 32Rhoddir ef yn nwylo estroniaid; gwawdir ef a’i sarhau, a phoerir arno, 33a’i chwipio a’i ladd. Ond ar y trydydd dydd, fe gwyd eto.”
34Ni ddeallen nhw ddim o hyn. Roedd y geiriau yn dywyll iddyn nhw, a’r ystyr yn ddirgelwch.
Adfer ei olwg i’r dall ger Jerico
35A phan oedd yn dyfod yn agos i Jerico, roedd rhyw ddyn dall yn eistedd ar ochr y ffordd yn cardota, 36ac wrth glywed y dyrfa yn mynd heibio, holodd beth oedd yn bod. 37A dyma nhwythau’n egluro mai Iesu o Nasareth oedd yn mynd heibio ar y pryd. 38Gwaeddodd yntau, “Iesu, fab Dafydd, tosturia wrthyf.”
39Rhybuddiai’r rhai oedd ar y blaen ef i dewi; llefai yntau’n uwch o lawer, “Fab Dafydd, tosturia wrthyf.”
40Safodd yr Iesu lle’r oedd, gan eu gorchymyn i’w ddwyn ato. A phan oedd yn ei ymyl, gofynnodd iddo, 41“Beth wyt ti am i mi ei wneud i ti?”
Meddai yntau, “Syr, cael fy ngolwg yn ôl.”
42Ac meddai’r Iesu wrtho, “Dyma dy olwg yn ôl iti; mae dy ffydd wedi dy wella.”
43Ac yn syth cafodd ei olwg, a dilynodd yr Iesu gan foli Duw, a phawb oedd yn dystion o’r digwyddiad yn rhoi diolch i Dduw.

ప్రస్తుతం ఎంపిక చేయబడింది:

Luc 18: FfN

హైలైట్

షేర్ చేయి

కాపీ

None

మీ పరికరాలన్నింటి వ్యాప్తంగా మీ హైలైట్స్ సేవ్ చేయబడాలనుకుంటున్నారా? సైన్ అప్ చేయండి లేదా సైన్ ఇన్ చేయండి