'Os dwi'n sharad fel tyst am in unan, seno'n distioleth i'n wir. Ma 'na un arall sy'n sharad fel tyst amdana i, a dwi'n gwbod fod tistioleth hwnnw in wir. Haloch chi at Ioan, a gwedodd e am i gwir. Sena i'n dipendo ar beth ma dinion in gweud, on dwi'n gweud i pethe 'ma fel gallwch chi gâl ich safio. Wedd e'n lamp we'n llosgi a'n sheinio, a wech chi'n ddigon jacôs ini i ole am sbel. Ond ma'n distioleth i in fwy na un Ioan, achos ma'r gwaith roiodd in Dad ifi neud, i feri pethe wi'n u neud, in tistioleithu amdana i, bo'r Tad wedi'n hala i. A ma'r Tad sy wedi'n hala i, wedi tistio amdana i i unan. Senoch chi wedi cliwed i laish e ariôd, na gweld shwt un yw e. Seno'i air e in aros indoch chi, achos senoch chi'n credu in ir Un mae e wedi'i hala. Ych chi'n whilio trw'r Isgrithure, achos ych chi'n meddwl bo bowid am byth ich indyn nhwy, ond nhwy sy'n tistioleithu amdana i, ond wedyn weth senoch chi'n folon dod ata i, er mwyn ichi gâl bowid. Sena i'n dibynnu ar gâl parch 'da dinion, ond dwi'n ich nabod chi, a'n gwbod sdim cariad at Dduw in ich calone chi o gwbl. Dwi wedi dod in enw in Dad, on senoch chi folon in dderbyn i. Os deith rhiwun arall in i enw i unan, sdim dowt na fiddwch chi'n i dderbyn e. Shwt allwch chi gredu, pan ych chi'n câl parch 'da'ch gily, ond ddim in whilio am i parch sy'n dod wrth ir unig Dduw? Pidwch meddwl bo fi in mynd i'ch tinnu chi lan o flân Duw. Nage, Moses fydd in ich tinnu chi lan, i feri un ych chi wedi rhoi'ch gobeth arno. Os bysech chi wedi credu Moses, bysech chi wedi'n gredu i, achos amdana i nâth e reito. Os na newch chi gredu in beth nâth e reito, shwt newch chi gredu in ing ngeire i?'