Luc 22

22
1-71We Cwrdde Mowr i Bara Planc, we'n cal u galw yn ‘Pasg’, in dwâd in agos. We'r penffeiradon a'r rhei we'n disgu'r Gifreth in treial u gore i ffido ffordd o ladd Iesu; achos we ofon i bobol arnyn nhwy. Âth Satan miwn i Jwdas, we'n câl i alw in Iscariot, we'n câl i gownto fel un o'r Douddeg; a bant ag e i sharad 'da'r penffeiradon a captens polisis i demel shwt alle fe roi Iesu iddyn nhwy. Wen‑nhwy'n falch a addawon‑nhwy roi arian iddo fe. Citunodd‑e, a ddachreuodd ddrych am gifle pan alle fe roi Iesu lan iddyn nhwy pan na we crowd obitu'r lle. Dâth dwarnod Cwrdde Mowr i Bara Planc, i dwarnod pan ma rhaid aberthu Wen i Pasg. Halo Iesu Pedr a Ioan, a gweu‑'thon nhwy, ‘Cerwch i baratoi swper i Pasg i ni fel gallwn ni fita fe.” Gwedon‑nhwy wrtho fe, “Ble witti moyn inni baratoi'r swper?” Gwedodd‑e wrthyn nhwy, “Pan ewch‑chi miwn i'r ddinas bydd dyn in cwrdd â chi, in cario stêned o ddŵr. Cerwch ar i ôl e a miwn i'r tŷ lle eith e miwn, a gwedwch wrth mishtir i tŷ, ‘Ma'r Athro in gweu‑'tho ti, “Ble ma'r rŵm lle galla‑i fita swper i Pasg gida'n ddisgiblion?”’ Ddangosith‑e rŵm mowr i chi lan lofft gid moddion tŷ indo. Paratowch bethe fan 'ny.” Ethon‑nhwy a ffindo popeth ingowir fel wedd‑e wedi'i weud wrthyn nhwy a nethon‑nhwy baratoi i Pasg.
Pan ddâth ir amser, ishteddodd‑e lawr, a'r apostolion 'dag e, a gwedodd‑e wrthyn nhwy, “Dw‑i wedi bod ishe'n ofnadw câl bita'r Pasg hwn 'da chi cyni fi ddiodde, achos dw‑i'n gweu’‑thoch chi, 'na‑i ddim i fita fe 'to nes bod i bwrpas e wedi'i neud in Teyrnas Dduw.” Wedyn gwmrodd e gwpan wrthyn nhwy, rhoi jolch i Dduw a gweud, “Cwmrwch hwn a'i rannu fe rhintoch chi; achos dw‑i'n gweu’‑thoch chi, o nawr mas 'na‑i ddim hifed o ffrwyth i llwyn grêps nes bod Teyrnas Dduw wedi dod.” Cwmrodd e'r bara, rhoi jolch, i dorri fe a'i roi fe iddyn nhwy, a gweud, “In gorff i yw hwn sy'n câl i roi drostoch chi. Newch hyn i gofio amdana i.” In ir un ffordd gwmrodd‑e'r cwpan wedi swper, a gweud, “I cifamod newy in in gorff i yw'r cwpan 'ma; mae‑e'n câl i allwish mas drostoch chi. Ond drichwch, ma llaw'r un sy'n mynd in roi fi lan gida'n law i ar ir un ford; achos ma Crwt i Dyn in mynd gida beth sy wedi câl i drefnu; ond druan o'r dyn 'na mae‑e'n câl i roi lan drwyddo fe!” Dachreuon‑nhwy bledo 'da i gily pwy onyn nhwy fidden neud 'ny.
Wen‑nhwy'n cwmpo mas 'da i gily pwy o nhwy we'r mwya. Gwedo Iesu wrthyn nhwy, “Ma brenhinodd i cenhedlodd in i lodrio drostyn nhwy, a ma'r rhei sy a awdurdod in câl u galw'n ddinion sy’ neud da. Ond 'da chi ma pethe'n wahanol; gadwch i'r mwya in ich plith chi fod fel ir ifanca, a'r un sy'n arwen fel ir un sy'n gwasanaethu. Pwy yw'r mwy, ir un sy'n ishte wrth i fod neu'r un sy'n gwasanethu arno fe? Nage'r un sy'n ishte wrth i ford? Ond dw‑i wedi dwâd atoch chi fel unsy'n gwasanaethu. Chi yw'r rhei sy wedi aros 'da fi trw'r holl bethe caled; a'n gowir fel ma'r Tad wedi addo'r Deyrnas i fi, dw‑i'n addo ichi'r hawl i fita a hifed wrth in ford i in in Deyrnas; a chewch‑chi shte ar orseddi i farnu douddeg llwyth Isrel.
“Simon, Simon ma Satan wedi minnu'r hawl i'r hilo chi gyd fel llafur; ond dw‑i wedi gweddïo drosto ti, Simon, na fydd di ffydd di'n ffeilu. Shwrne iti droi nôl, nertha di frodyr.” “Arglwidd”, atebodd‑e, “'da ti dw‑i'n barod i fynd i'r carchar a i farw.” Gwedodd‑e, “Dw‑i'n gweu’‑thot ti, Pedr, bydd i ceilog ddim canu heddi nes di fod wadu teirgwaith di fod di in in nabod i.”
Gwedodd‑e, “Pan hales‑i chi mas heb bwtsh arian, sach, na sandals, we ishe unrhiw beth arnoch chi?” Atebon‑nhwy, “Na we.” Gwedodd‑e wrthyn nhwy, “Ond nawr gall ir un sy â pwtsh arian i gwrmid e, a sach ‘fyd, a gadwch i'r un sy heb gleddyf wethu i glogyn a phernu un. Dw‑i'n gweu’‑thoch chi, ma rhaid i'r isgrithur sy'n gweud ‘A gâs‑e i gownto fel un o'r rhei we wedi troseddu” ddwâd in wir inda i, achos ma'r hyn sy o gonsýrn i fi'n dwâd in wir in barod.” Gwedon‑nhwy, “Dricha, Arglwidd, co dwy gleddyf.” Gwedodd‑e wrthyn nhwy, “'Na ddigon!”
Gadodd‑e a fel wedd‑e'n arfer neud âth e lan Mini'r Llwyn Oel; a nâth i ddisgiblion i ddilyn e. Pan ddethon‑nhwy i'r lle gwedodd‑e wrthyn nhwy, “Gweddïwch na fiddwch‑chi'n dwâd i'r prawf.” Nâth‑e i unan fynd tamed bach in bellach, rhyw dowlad carreg, a'n penlinio gweddïodd‑e, “Dad, os wit‑ti'n folon, simuda'r cwpan 'ma wrtha i; ond wedyn wêth ddim beth dw‑i moyn ond beth wit‑ti moyn.” Cododd‑e o weddïo, dwâd at i disgiblion a'u ffeindo nhwy cisgu achos gofid. Gwedodd‑e, “Pam ŷch‑chi cisgu? Codwch a gweddïwch, fel nag ŷch‑chi'n dwâd i amser prawf.”
Pan wedd‑e wrthi'n sharad dâth crowd i'r golwg, a'r dyn o enw Jwdas, un o'r Douddeg, we'n u harwen nhwy. Dâth‑e'n agos at Iesu i roi cusan iddo fe. Gwedo Iesu wrtho, “Jwdas, a 'da cusan wit‑ti'n rhoi lan Crwt i Dyn?” Pan welo'r rhei we'n i ddilyn e beth we'n dwâd wedon‑nhwy, “Arglwidd, newn‑ni fwrw nhwy 'da cleddife?” Nâth un onyn nhwy fwrw ceithas i ffeirad mowr a torri bant i glust dde. So wedo Iesu ar unweth, “Stopwch! Dim mwy!” A gwrddodd‑e â clust i dyn a'i wella fe. Gwedo Iesu wrth i penffeiradon, a captens polisis i deme a'r heneduried, we wedi dod in i erbyn e, “A ŷch‑chi wedi dwâd mas fe busech‑chi'n dwâd i whilio am leidir 'da cleddife a pastwne? Pan wen‑i 'da chi in i demel bob dy nethoch‑chi ddim codi bys in in erbyn i. Ond ich awr chi yw‑i nawr; nawr ma pethe'n dewill.”
Areston‑nhwy e, i arwen e bant a dod ag e i dŷ'r ffeirad mowr. Dilinodd Pedr e o bell. Wedi iddyn nhwy ginnu tân in ganol i clos ishteddon‑nhwy lawr 'da i gily a cwmrodd Pedr le in u canol nhwy. Gwelo morwm e'n ishte ing ngole'r tân a dachreuodd‑i ddrych a drych arno fe. Gwedodd‑i, “We'r dyn 'ma 'dag e ‘fyd.” Ond wadodd Pedr e a gweud wrthi, “Fenwy, sena‑i in i nabod e?” Munud neu ddwy in ddewddarch silwo dyn arno a gweud, “Wit‑ti ‘fyd yn un onyn nhwy.” On gwedo Pedr, “Nadw, sena‑i in.” Wedi rhyw awr co dyn arall in gweud in ddigon pendant, “Sdim dowt o gwbwl bo'r dyn 'ma gidag e, achos mae‑e'n dwâd o Galilea ‘fyd.” Ond gweod Pedr, “Sena‑i'n gwbod beth wit‑ti'n gweud.” A ar unweth, fel wedd‑e'n sharad, ganodd i ceilog. Troiodd ir Arglwidd rownd a drych ar Pedr, a cofiodd Pedr gair ir Arglwidd, a shwt wedd‑e wedi gweud, “Cyn i'r ceilog ganu heddi biddi‑di wedi'n wadu i dair gwaith.” Âth‑e mas a llefen in wherw.
We'r dinion we'n i ddal fe in sownd in neud sbort ar i ben e a'n i fwrw fe. Rhoion‑nhwy rwbeth dros i wmed a gofyn iddo fe, “Pwy nâth di fwrw di? Dere mlân, proffwyda!” wedon nhwy lot o bethe cablus erill in i erbyn e.
Pan ddâth henuried i bobol i gyd, in benffeiradon a rhei we'n disgu'r Gifreth in cwrdd 'da i gily, ethon‑nhwy bant ag e i'r Cowsnil Mowr, in gweud, “Os ti yw'r Meseia, gwed wrthon ni.” Gwedodd‑e wrthyn nhwy, “Os weda‑i, newch‑chi ddim in gredu i 'ta beth; a os 'na‑i ofyn cwestjwn ichi, newch‑chi ddim in ateb i. O nawr mlân bydd Crwt i Dyn in ishte ar law dde nerth Duw.” Gwedon‑nhwy i gyd, “Wedyn 'te, Crwt Duw wit‑ti?” Gwedodd‑e wrthyn nhwy, “Chi sy'n gweud bo fi.” Gwedon‑nhwy, “Pam bod ishe unrhiw distioleth arnon ni? Ŷn‑ni in hunen wedi cliwed e o'i ben i unan.”

ที่ได้เลือกล่าสุด:

Luc 22: DAFIS

เน้นข้อความ

แบ่งปัน

คัดลอก

None

ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้