Luc 23

23
1-56Codo'r holl gwmpni a mynd â Iesu o flân Pilat. A dachreuon‑nhwy i gihuddo fe, a gweud, “Ffindon‑ni'r boi 'ma in gwyrdroi in cenedl, in u stopo nhwy i dalu trethi i Cesar, a'n gweud taw fe i unan yw'r Meseia, brenin!” Holo Pilat e, “Ti yw Brenin ir Iddewon?” Atebodd‑e, “Wit‑ti'n gweud 'ny.” Gwedo Pilat wrth i penffeiradon a'r crowde, “Sena‑i'n gweld dim byd in i dyn 'ma i ddwâd â dim in i erbyn e”; ond wen‑nhwy'n bendant, a gwedon‑nhwy, “Mae‑e'n cinhirfu, in disgu trw Jwdea i gyd; dachreuodd‑e ing Galilea a nawr mae‑e wedi dwâd fan 'yn.” Pan gliwo Pilat hyn gofinodd‑e a we'r dyn in dod o Galilea, a pan standodd‑e bo Iesu in dod o dan awdrudod Herod halodd‑e fe at Heros, achos wedd‑e in Jerwslaem ar i pryd. Pan welo Herod Iesu, wedd‑e'n falch iawn; wedd‑e wedi bod ishe i weld e am sbel, achos wedd‑e wedi cliwed amdano, a wedd‑e'n gobeitho bise‑fe'n câl gweld ryw sein fise‑fe'n i neud. Holodd‑e lot o gwestjwne iddo fe, ond nâth Iesu ddim mo i ateb e o gwbwl. Safo'r penffeiradon a'r rhei we'n disgu'r Gifreth fan 'ny, in gweud pob math o bethe in i erbyn e. Nâth Herod, fel i sowldwrs, i drin e 'da dirmyg a neud sbort ar i ben e; wedyn nâth e roi gwishg sbeshal arno a'i hala fe nôl att Pilat. I dwarnod 'ny dâth Herod a Pilat in ffrindie; cyn 'ny wen‑nhwy wedi bod in elinion mowr.
Galwo Pilat i penffeiradon, ir arweinwyr a'r bobol at ei gily, a gweu‑'thyn nhwy, “Dethoch‑chi â'r dyn 'ma o'n flân i fel rhiwun we'n treial troi'r bobol fel bo nhwy ddim in ffiddlon. Dw‑i wedi'i holi e a sena‑i wedi ffindo dim rheswm o gwbwl am i cihuddiade ŷch‑chi'n dwâd in i erbyn e; a seno Herod whaith, achos mae‑e wedi'i hala fe nôl aton ni. Seno‑fe wedi neud dim byd sy'n haeddu marwoleth. So 'na‑i gâl e wedi'i whipo a'i adel e'n rhydd.” Nawr wedd‑e'n gorffod gadel rhiwun in rhydd amser i Cwrdde Mowr. Ond nâth i crowd i gyd weiddi, “Lladda'r boi; gad Barabbs in rhydd i ni.” We Barabbas wedi câl i dowlu i'r shâl ar gownt gwrthrifel in i ddinas, a achos i fod e wedi lladd. Gweiddo Pilat arnyn nhwy shwrne 'to in gweud i fod e ishe gadel Iesu'n rhydd, ond wen‑nhwy in gweiddi trw'r amser, “Croeshoela, croeshoela fe!” Gwedodd‑e wrthyn nhwy am i tridydd gwaith bod e wedi neud dim wedd‑e'n haeddu gâl i ladd amdano, “Pam, pwy ddrwg ma hwn wedi neud? Sena‑i wedi ffindo dim rheswm o gwbl dros i ladd e. So dw‑i'n mynd i whipo fe a'i adel e'n rhydd.” Ond gweiddi'n uwch nethon‑nhwy dile‑fe gâl i groeshoelo, a'u sŵn nhwy nâth drechu. Rhoiodd Pilat i ddedfryd taw beth wen‑nhwy moyn ddile gâl i neud. Gadodd e'r dyn wen‑nhwy wedi gofyn amdano in rhyd, ir un we wedi câl i dowlu in i shâl am wrthrifel a mwrdwr; ond rhoiodd‑e Iesu lan iddyn nhwy i neud fel wen nhw moyn.
Fel wen‑nhwy'n i arwen e bant gwmron‑nhwy afel in Simon, dyn o Cyrene, in dwâd o'r wlad, a rhoio'n grwes arno fe, iddo gario hi ar ôl Iesu. We crowd mowr o'r bobol in i ddilyn e, a lot o fenwod in bwrw'u briste a'n mwrno o'i achos e. Troio Iesu atyn nhwy a gweu‑'thyn nhwy. “Rhocesi Jerwsalem, pediwch llefen o'n achos i, in hitrach llefwch dros ich hunen a dros ich plant, achos ma'r amser in dwâd pan fidda‑nhwy'n gweud, ‘Ma'r rhei heb blant, a'r rhei sy'n ffeilu câl plant, a'r bronne sy byth wedi rhoi swc in hapus.’ Wedyn wedan‑nhwy wrth i minidde, ‘Cwmpwch arnon ni’, a wrth i brinie, ‘Cwatwch ni’. Achos os ma pobol in neud hyn pan ma'r llwyn in wyrdd, beth geith i neud pan fydd e wedi gwywo?”
Gâs dou ddyn arall, trosweddwyr, u harwen mas i gâl u lladd 'run pryd ag e. A phan ddethon‑nhwy i'r lle sy'n câl i alw in ‘Penglog’, nethon‑nhwy i groeshoelo fe gida'r troseddwyr, un ar i dde, a'r llall ar i whith. Gwedo Iesu, “Dad, madde iddyn nhwyt; senyn‑nhwy'n diall beth man‑nhwy'n i neud.” Nethon‑nhwy rannu'i ddillad e rhynt i gily wrth dowlu deis. Safo'r bobol fan 'ny in drych. We'r arweinwyr in neud sbort ar i ben e, a gweud, “Safiodd‑e ddinion erill; os i boi 'ma yw'r Meseia ma Duw wedi'i ddewish, gadwch iddo safio i unan.” We'r sowdiwrs in neud sbort ar i ben e ‘fyd. Detho‑nhwy ato a cinnig gwin sur iddo fe, a gweud, “Os Brenin ir Iddewon wit‑ti, wedyn safai di unan.” We rhwbeth wedi'i reito uwch i ben e in gweud: “CO BRENIN IR IDDEWON.”
Dachreuodd un o'r troseddwyr we'n hongian fan 'ny i gablu in i erbyn e, a gweud, “Ti yw'r Meseia, ondife? Safia di unan, a safia ni.” Ond atebo'r llall e'n sharp, “Wit‑ti wedi colli pob parch at Dduw? Wit‑ti o dan ir un dedfryd ag e. Mae'n iawn i ni, achos ŷn‑ni'n câl beth we'r hyn nethon‑ni'n haeddu, ond seno'r dyn 'ma wedi neud dim byd in rong.” A gwedodd‑e, “Iesu, cofia fi pan ddeui‑di miwn i di Deyrnas di.” Gwedo Iesu wrtho fe, “Dw‑i'n gweud i gwir wrthot‑ti, heddi biddi‑di 'da fi in Paradwys.”
Erbyn hyn wedd‑i'n rhiw hanner dydd. Dâth tweillwch dros i wlad nes bod hi'n dri o'r gloch, a ffeilodd gole'r houl; a gâs i cyrtens in i demel i rhico lawr i canol. Gweiddodd Iesu mas â llaish uchel, “Dad, dw‑i'n rhoi in isbryd miwn i di ddwylo di”; a pan wedd‑e wedi gweud 'na, marwodd‑e. Pan welo'r canwriad beth we wedi digwydd rhoiodd‑e ogoniant i Dduw, a gweud, “Sdim dowt, weno'r dyn ‘am wedi neud dim byd in rog.” Âth i crowde we wedi dwâd mas i weld beth we'n digwydd gatre, in bwrw'u briste a'n mwrno. Ond we bob un we'n i nabod e'n sefyll in bell bant. Fel 'ny ‘fyd nâth i mewnod we wedi dwâd 'dag e o Galilea, a watsho beth we'n digwydd.
We dyn o'r enw Joseff, cinghorydd, dyn da a chifion. Weno'r dyn 'ma wedi cefnogi beth wen‑hwy ishe na wedi'i neud. Wedd‑e'n dwâd o Arimathea, tre lle we Iddewon in dwâd, a wedd‑e'n dishgwyl am Deyrnas Dduw. Âth‑e at Pilat a gofyn am gorff Iesu. Cwrmodd‑e fe lawr, rhoi llien rownd 'ddo, a'i roi e miwn twm miwn ogof lle we neb wedi câl u rhoi o'r blân. Dwarnod i Paratoi wedd‑i, a we dy Sabbath in dod in agos. Dilino'r menwod we wedi dwâd 'dag e o Galilea, a gwelon‑nhwy'r twm, a shwt we'i gorff e wedi'i roi. Ethon‑nhwy nôl paratoi sbeisys a smel neis.

ที่ได้เลือกล่าสุด:

Luc 23: DAFIS

เน้นข้อความ

แบ่งปัน

คัดลอก

None

ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้