Logo ng Bible App
Hanapin ang Icon

Salm 57

57
Gweddi am help
I’r arweinydd cerdd: ar yr alaw “Paid dinistrio”. Salm wedi’i hysgrifennu gan Dafydd pan oedd wedi ffoi rhag Saul i’r ogof.#1 Samuel 22
1Dangos drugaredd ata i, O Dduw,
dangos drugaredd ata i!
Dw i’n troi atat ti am loches.
Dw i am guddio dan dy adenydd di
nes bydd y storm yma wedi mynd heibio.
2Dw i’n galw ar Dduw, y Goruchaf,
ar y Duw sydd mor dda tuag ata i.
3Bydd yn anfon help o’r nefoedd i’m hachub.
Bydd yn herio’r rhai sy’n fy erlid.
Saib
Bydd yn dangos ei ofal ffyddlon amdana i!
4Mae llewod ffyrnig o’m cwmpas i ym mhobman,
rhai sy’n bwyta pobl.
Mae eu dannedd fel picellau neu saethau,
a’u tafodau fel cleddyfau miniog.
5Dangos dy hun yn uwch na’r nefoedd, O Dduw,
i dy ysblander gael ei weld drwy’r byd i gyd!
6Maen nhw wedi gosod rhwyd i geisio fy nal –
a minnau’n isel fy ysbryd.
Maen nhw wedi cloddio twll ar fy nghyfer i,
ond nhw fydd yn syrthio i mewn iddo!
Saib
7Dw i’n benderfynol, O Dduw;
dw i’n hollol benderfynol.
Dw i’n mynd i ganu mawl i ti.
8Deffro, fy enaid!
Deffro, nabl a thelyn!
Dw i’n mynd i ddeffro’r wawr gyda’m cân.
9Dw i’n mynd i ddiolch i ti, O ARGLWYDD, o flaen pawb!
Dw i’n mynd i ganu mawl i ti o flaen pobl o bob cenedl!
10Mae dy gariad di mor uchel â’r nefoedd,
a dy ffyddlondeb di yn uwch na’r cymylau.
11Dangos dy hun yn uwch na’r nefoedd, O Dduw,
i dy ysblander gael ei weld drwy’r byd i gyd!

Kasalukuyang Napili:

Salm 57: bnet

Haylayt

Kopyahin

Paghambingin

Ibahagi

None

Gusto mo bang ma-save ang iyong mga hinaylayt sa lahat ng iyong device? Mag-sign up o mag-sign in