Genesis 6
6
1 Drygioni y byd, yr hwn a gyffrôdd ddicllonedd Duw, ac a barodd y diluw. 8 Noa yn cael ffafr. 14 Trefn a phortread, a’r achos y gwnaed yr arch.
1Yna y bu, pan ddechreuodd dynion amlhau ar wyneb y ddaear, a geni merched iddynt, 2Weled o feibion Duw ferched dynion mai teg oeddynt hwy; a hwy a gymerasant iddynt wragedd o’r rhai oll a ddewisasant. 3A dywedodd yr Arglwydd, Nid ymrysona fy Ysbryd i â dyn yn dragywydd, #Salm 78:39oblegid mai cnawd yw efe: a’i ddyddiau fyddant ugain mlynedd a chant. 4Cewri oedd ar y ddaear y dyddiau hynny: ac wedi hynny hefyd pan ddaeth meibion Duw at ferched dynion, a phlanta o’r rhai hynny iddynt: dyma’r cedyrn a fu wŷr enwog gynt.
5A’r Arglwydd a welodd mai aml oedd drygioni dyn ar y ddaear, a bod #6:5 pob bwriad.#Pen 8:21; Mat 15:19holl fwriad meddylfryd ei galon yn unig yn ddrygionus bob #6:5 Heb. dydd.amser. 6Ac #Edrych Num 23:19; 1 Sam 15:11, 29; 2 Sam 24:16; Mal 3:6; Iago 1:17edifarhaodd ar yr Arglwydd wneuthur ohono ef ddyn ar y ddaear, ac efe a ymofidiodd yn ei galon. 7A’r Arglwydd a ddywedodd, Dileaf ddyn yr hwn a greais oddi ar wyneb y ddaear, o ddyn hyd anifail, hyd yr ymlusgiad, a hyd ehediad y nefoedd: canys y mae yn edifar gennyf eu gwneuthur hwynt.
8Ond Noa a gafodd ffafr yng ngolwg yr Arglwydd.
9Dyma genedlaethau Noa: #Esec 14:14, 20; Heb 11:7; 2 Pedr 2:5Noa oedd ŵr cyfiawn, #6:9 Neu, uniawn.perffaith yn ei oes: gyda Duw y rhodiodd Noa. 10A Noa a genhedlodd dri o feibion, Sem, Cham, a Jaffeth. 11A’r ddaear a lygrasid gerbron Duw; llanwasid y ddaear hefyd â thrawsedd. 12A Duw a edrychodd ar y ddaear, ac wele hi a lygrasid; canys pob cnawd a lygrasai ei ffordd ar y ddaear. 13A Duw a ddywedodd wrth Noa, Diwedd pob cnawd a ddaeth ger fy mron: oblegid llanwyd y ddaear â thrawsedd trwyddynt hwy: ac wele myfi a’u difethaf hwynt #6:13 oddi ar y ddaear.gyda’r ddaear.
14Gwna i ti arch o goed Goffer; yn gellau y gwnei yr arch, a phyga hi oddi mewn ac oddi allan â phyg. 15Ac fel hyn y gwnei di hi: tri chan cufydd fydd hyd yr arch, deg cufydd a deugain ei lled, a deg cufydd ar hugain ei huchder. 16Gwna ffenestr i’r arch, a gorffen hi yn gufydd oddi arnodd; a gosod ddrws yr arch yn ei hystlys: o dri uchder y gwnei di hi. 17Ac wele myfi, ie myfi, yn dwyn dyfroedd dilyw ar y ddaear, i ddifetha pob cnawd, yr hwn y mae anadl einioes ynddo, oddi tan y nefoedd: yr hyn oll sydd ar y ddaear a drenga. 18Ond â thi y cadarnhaf fy nghyfamod; ac #1 Pedr 3:20; 2 Pedr 2:5i’r arch yr ei di, tydi a’th feibion, a’th wraig, a gwragedd dy feibion gyda thi. 19Ac o bob peth byw, o bob cnawd, y dygi ddau o bob rhyw i’r arch i’w cadw yn fyw gyda thi; gwryw a benyw fyddant. 20O’r ehediaid wrth eu rhywogaeth, ac o’r anifeiliaid wrth eu rhywogaeth, o bob ymlusgiad y ddaear wrth eu rhywogaeth; dau o bob rhywogaeth #Pen 2:19a ddaw atat i’w cadw yn fyw. 21A chymer i ti o bob bwyd a fwyteir, a chasgl atat; a bydd yn ymborth i ti ac iddynt hwythau. 22#Pen 7:5; Heb 11:7Felly y gwnaeth Noa, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Duw iddo, felly y gwnaeth efe.
Kasalukuyang Napili:
Genesis 6: BWM1955C
Haylayt
Ibahagi
Kopyahin
Gusto mo bang ma-save ang iyong mga hinaylayt sa lahat ng iyong device? Mag-sign up o mag-sign in
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society