Bydded geiriau fy ngenau,
A myfyrdod fy nghalon
Yn gymeradwy gennyt yn wastad,
O Iehofa, fy Nghraig a’m Prynwr.
SALM XIX
Y mae yna ddwy Salm, yn perthyn i wahanol gyfnodau a chan wahanol awduron, wedi eu plethu yn un.
Yn y rhan gyntaf (1-6) molir gogoniant Iehofa yn y llu nefol, a chynhyrfir yr awdur yn ddwys gan ysblander dihafal yr haul gogoneddus.
Dan ddylanwadau Babilonaidd denwyd amryw i addoli’r haul yn Ieriwsalem (gwêl Esra 8:16), ac efallai mai darn o bennill oedd unwaith yn rhan o folawd i’r Haul Dwyfol ydyw’r disgrifiad o’r haul sydd yn y Salm hon.
Y mae gweddill y Salm yn perthyn i dylwyth y Salm Fawr, ac ynddi mawrygir y Gyfraith. Gellir deall dodi’r ddwy gân ynghyd gan awdur a fynnai ddangos bod gogoniant Duw yn y Gyfraith yn rhagori ar ogoniant Duw yn Natur.
1, 2, 3. Gogoniant Duw ydyw ei allu a’i ddoethineb a’r ardderchowgrwydd wedi eu datguddio. Personolir y nefoedd a’r ffurfafen a’r dydd a’r nos yn yr adnodau hyn.
Aeth yr hen gyfieithiad yn adn. 3 ar gyfeiliorn wrth awgrymu mai datgan y gogoniant ym mhob iaith drwy’r byd a feddylir. Yr ystyr yw nad oes derfyn ar ddatgan gogoniant Duw, trosglwydda un dydd yr hanes am y gogoniant hwnnw i’r dydd sy’n dilyn, ac edrydd nos y stori wrth y nos a’i dilyno, a cheir un llinin aur o fawl na phaid byth.
Iaith gyfrin, fud, ydyw iaith y lloer a’r sêr a’r haul, — ni raid iddi wrth eiriau nac ymadroddion, a iaith yw hi a ddeellir ymhob gwlad ac ymysg pob cenedl lle ceir eneidiau dethol yn gwrando.
4, 5, 6. Os cywir yr hen gyfieithiad ni all ‘ynddynt’ adn. 4 olygu ond ‘y nefoedd’. Y cyfnewid lleiaf a ddyry’r darlleniad esmwyth a champus ‘yn y môr’. Nid oes yma gyfeiriad at briodas yr haul ond cyfeiriad sydd at ddisgleirdeb ac egni llawen ei godiad. Y cawr ydyw’r pencampwr sy’n arwr ar faes y rhedeg yn ogystal ag ar faes y gwaed.
Swta braidd ydyw terfynu’r gân yma, a diau mai darn yw hi o gân helaethach oedd yn cynnwys syniadau na fedrai’r awdur ddygymod â hwynt.
7, 8, 9. Ceir yma chwech o eiriau cyfystyr am ‘Gyfraith’ a chysylltir ansoddair a bendith â phob un.
Cyfraith yr Arglwydd ydyw ei athrawiaeth a’i ddysgeidiaeth, yn arbennig fel y’i datguddir hwynt yng nghyfraith Moses, a chyfan a difai ydynt, yn rhoddi i ddyn luniaeth ysbrydol.
Tystiolaeth ydyw’r Gyfraith fel y mae’n dyst i Iehofa ac yn ategu ei ewyllys, a dyry ddoethineb i’r gŵr syml sy’n agored i dderbyn.
Rheolau, manylion a chyfeiriadau’r Gyfraith sy’n cynhesu teimladau dyn, ac yn ei gadw rhag cyfeiliorni.
Ofn Iehofa, ydyw’r Gyfraith fel gwrthrych parch sy’n parhau fyth, ni ellir ei newid i gyfarfod â defodau ac arferion pob oes.
Gorchymyn ydyw’r Gyfraith yn ei gwedd broffwydol sy’n goleuo deall dyn.
Ordeiniadau y Gyfraith fel dyfarniadau cywir na ŵyrant fyth oddi wrth safonau cyfiawnder ac uniondeb.
12, 13. Llithriadau, a wna’n ddiwybod. Arswydir y Salmydd gan fanylrwydd y Gyfraith, a gweddïa am gael ei gyhoeddi yn ddieuog, canys yn ddifwriad ac yn ysgafala y cyflawnir y beiau cudd. Gellir darllen ‘dynion beilchion’ yn lle ‘beiau beilchion’, sef y gwŷr traws a’i gwna yn anodd iddo gadw’r Gyfraith.
1. A ydyw gwyddoniaeth heddiw yn dywedyd “Amen” i fawlgan y Salmydd? A ddug Seryddiaeth dystiolaeth ddiamwys i ogoniant Duw?
2. A oes olion addoli’r haul yn yr Hen Destament? Job 31:26, 27; Esec. 8:16, 17; 2 Bren. 23:5-11; Deut. 4:19 a 17:2-5.
3. Pa un o’r ddau ddatguddiad, — datguddiad Duw yn Natur ynteu datguddiad Duw yn ei Air a gynhyrcha’r defosiwn mwyaf?