YouVersion Logo
تلاش

Lyfr y Psalmau 9

9
1Mi a’th glodforaf, Arglwydd Ion,
Ac â’m holl galon molaf Di;
Mynegaf, ac ni thawaf chwaith,
Holl ryfeddodau ’th waith di‐ri’.
2Moliannu mewn gorfoledd wnaf,
A llawenychaf yn fy Nuw;
Canaf i Enw glân fy Ner,
Uwch haul a ser Goruchaf yw.
3Pan yn eu hol dychwelyd wnant
Y rhai erlidiant f’ enaid i,
Hwy oll a gwympant yn y tir,
Ac a ddifethir o’th flaen Di.
4Gwnaethost fy matter i a’m barn
Yn gadarn yn dy lys uwch ben;
I ddadleu ’m barn, O Arglwydd da,
Eisteddaist ar d’ orseddfa wen.
5Ceryddaist feilchion bobl y tir;
Ni welir yr annuwiol mwy;
O goffa byth yr ant ar goll,
Dileaist oll eu henwau hwy.
6O elyn, darfu byth dy ddydd,
Dy ddistryw sydd yn agos iawn;
Diwreiddiaist gynt ddinasoedd mawr,
Cei dithau ’n awr dy daliad llawn.
YR AIL RAN
7Yr Arglwydd byth a bery ’n Dduw,
A pharod yw i farnu ’r byd;
8Ei orsedd sydd o farn yn llawn,
Fe farna ’n iawn y bobl i gyd.
9Yr Arglwydd cyfiawn yn y nef
Sy noddfa gref rhag trais i’r gwan;
Ei nawdd yn amser ing a fydd,
Ei law a’i dwg yn rhydd i’r lan.
10Y rhai adwaenant d’ Enw, Ner,
Fe fydd eu hyder arnat mwy;
Y rhai a’th geisiant, (pawb a’i gŵyr,)
Eriôed ni’s llwyr adewaist hwy.
11Canmolwch byth yr Arglwydd nef,
Ei drigfan Ef yn Sïon sydd;
Ym mysg cenhedloedd daear faith
Traethwch ei waith o ddydd i ddydd.
12Pan ymofyno Ef am waed
Ei blant, a wnaed i ffrydio ’n lli,
Eu gwaedd a glyw o entrych nef,
Ac nid anghofia lef eu cri.
13Dod im’ drugaredd, Arglwydd Ner,
A gwel fy mlinder gan fy nghas;
Tydi a ddyrchi ’m pen yn glau
O byrth yr angau yn dy ras.
Y DRYDEDD RAN
14Mynegaf finnau ’th fawl a’th wyrth
Ynghanol pyrth merch Sïon wiw;
A llawen fydd fy nhafod ffraeth
Mewn cân am iachawdwriaeth Duw.
15Y ffos a wnaeth y bobl i mi,
Soddasant ynddi ’n ddwfn bob un;
Y rhwyd i ddal fy nghamrau roed,
Daliwyd yn hon eu troed eu hun.
16Wrth ddull y farn oddi wrtho a ddaw,
Adweinir llaw yr Arglwydd Cun:
Yr anwir ffol i’r rhwyd yr aeth,
Yr hon a wnaeth ei law ei hun.
17Y bobloedd gau na’s cofiant Dduw,
I uffern oll yn fyw yr ant.
18Ni chollir gobaith y tylawd,
Er gwarth a gwawd, eu cofio gânt.
19Cyfod, O Dduw, na threched dyn,
Barna dy Hun y bobloedd mwy;
20Dod arnynt ofn, i ddysgu eu bron
Mai marwol ddynion ydynt hwy.

موجودہ انتخاب:

Lyfr y Psalmau 9: SC1850

سرخی

شئیر

کاپی

None

کیا آپ جاہتے ہیں کہ آپ کی سرکیاں آپ کی devices پر محفوظ ہوں؟ Sign up or sign in