Marc 6:1-6

Marc 6:1-6 DAW

Daeth Iesu a'i ddisgyblion i fro ei febyd a dechreuodd ddysgu yn y synagog yno ar y Saboth. Roedd llawer o'r bobl yn synnu wrth wrando arno a gofynnon nhw, “Ble cafodd hwn y pethau hyn? Beth ydy'r ddoethineb hon sy ganddo, fod gwyrthiau hyd yn oed yn cael eu gwneud trwyddo ef? Hwn ydy'r saer, mab Mair a brawd Iago, Joses, Jwdas a Simon, ac mae ei chwiorydd yma gyda ni.” Oherwydd hyn roedd Iesu yn dipyn o rwystr iddyn nhw. Dwedodd Iesu, “Does dim parch i broffwyd yn ei fro ei hun ac ymhlith ei deulu ac yn ei gartref.” Felly ni allai wneud unrhyw wyrth yno, dim ond rhoi ei ddwylo ar nifer o gleifion a'u gwella nhw. Rhyfeddodd Iesu fod cyn lleied o ffydd gan y bobl.

Funda Marc 6