Marc 6

6
6. IESU A'R CENHADON
Gwrthod Iesu yn Nasareth (Marc 6:1-6)
1-6Daeth Iesu a'i ddisgyblion i fro ei febyd a dechreuodd ddysgu yn y synagog yno ar y Saboth. Roedd llawer o'r bobl yn synnu wrth wrando arno a gofynnon nhw, “Ble cafodd hwn y pethau hyn? Beth ydy'r ddoethineb hon sy ganddo, fod gwyrthiau hyd yn oed yn cael eu gwneud trwyddo ef? Hwn ydy'r saer, mab Mair a brawd Iago, Joses, Jwdas a Simon, ac mae ei chwiorydd yma gyda ni.” Oherwydd hyn roedd Iesu yn dipyn o rwystr iddyn nhw. Dwedodd Iesu, “Does dim parch i broffwyd yn ei fro ei hun ac ymhlith ei deulu ac yn ei gartref.” Felly ni allai wneud unrhyw wyrth yno, dim ond rhoi ei ddwylo ar nifer o gleifion a'u gwella nhw. Rhyfeddodd Iesu fod cyn lleied o ffydd gan y bobl.
Cenhadaeth y Deuddeg (Marc 6:7-13)
7-13Aeth Iesu o amgylch y pentrefi yn dysgu'r bobl, hefyd anfonodd y Deuddeg allan bob yn ddau. Rhoddodd awdurdod iddyn nhw dros ysbrydion aflan, a gorchmynnodd iddyn nhw beidio â chymryd dim ar gyfer y daith heblaw ffon; dim bara, dim cwdyn, dim arian mân yn eu gwregys; nac ail got, dim ond esgidiau am eu traed. Dwedodd Iesu, “Os ewch i mewn i dŷ, arhoswch yno nes i chi ymadael â'r ardal. Os bydd unrhyw le yn gwrthod eich derbyn, a rhai'n gwrthod gwrando arnoch chi, ewch allan oddi yno ac ysgydwch i ffwrdd y llwch fydd dan eich traed, yn rhybudd iddyn nhw.” Felly, aethon nhw allan a phregethu er mwyn i bobl edifarhau; ac roedden nhw'n bwrw allan llawer o gythreuliaid, ac yn iro llawer o gleifion ag olew er mwyn eu gwella.
Marwolaeth Ioan Fedyddiwr (Marc 6:14-29)
14-29Gan fod enw Iesu wedi dod yn adnabyddus clywodd Brenin Herod amdano. Dwedodd rhai pobl, “Ioan Fedyddiwr sy wedi atgyfodi, a dyna pam mae'r nerth yma gydag e.” Dwedodd eraill, “Elias ydy e”; ac eraill wedyn, “Proffwyd ydy e fel un o'r proffwydi gynt.” Pan glywodd Herod, dwedodd yntau, “Ioan ydy e, yr un y torrais i ei ben i ffwrdd. Hwnnw sy wedi atgyfodi.” Roedd Herod wedi llwyddo i ddal Ioan, a'i rwymo a'i roi yng ngharchar i blesio Herodias, gwraig Philip ei frawd, oedd wedi'i phriodi. Roedd Ioan wedi dweud wrth Herod, “Dydy hi ddim yn gyfreithlon i ti briodi gwraig dy frawd.” Felly, roedd Herodias yn ddig wrtho ac eisiau ei ladd, ond gallai hi ddim achos roedd Herod yn ofni Ioan, ac yn gwybod ei fod yn ŵr cyfiawn a sanctaidd. Cadwodd Ioan yn y carchar a gwrandawodd arno'n gyson er ei fod yn poeni tipyn am yr hyn a glywai. Cafodd Herodias ei chyfle pan drefnodd Herod wledd i'w arglwyddi a'i gadfridogion a gwŷr pwysig Galilea ar ei benblwydd. Daeth ei merch i mewn a dawnsio a phlesio Herod a'i westeion. Dwedodd y brenin wrth ferch Herodias, “Beth bynnag a fynni, rydw i'n fodlon ei roi i ti hyd at hanner fy nheyrnas.” Aeth y ferch allan a gofynnodd i'w mam, “Am be ga i ofyn?” Dwedodd ei mam, “Gofyn am ben Ioan Fedyddiwr.” Dychwelodd y ferch at y brenin ar unwaith a dweud, “Rydw i eisiau pen Ioan Fedyddiwr ar blât, nawr.” Teimlodd y brenin yn drist iawn ond, gan iddo addo o flaen y gwesteion, penderfynodd beidio â thorri ei air iddi. Anfonodd y brenin ddienyddwr a gorchymyn iddo ladd Ioan. Aeth hwnnw, a thorrodd ei ben ef yn y carchar, a dod ag ef ar blât, a'i roi i'r ferch; rhoddodd hithau'r pen i'w mam. Pan glywodd disgyblion Ioan am y digwyddiad, daethon nhw a chario'i gorff i ffwrdd a'i roi mewn bedd.
Bwydo'r Pum Mil (Marc 6:30-44)
30-44Dychwelodd yr apostolion at Iesu ac adrodd wrtho'r holl bethau roedden nhw wedi'u gwneud a'u dysgu wrth fynd o amgylch y wlad. Dwedodd Iesu, “Dewch, gwell i ni fynd o'r neilltu er mwyn i chi orffwys am dipyn.” Doedd fawr o gyfle iddyn nhw fwyta hyd yn oed, am fod cymaint o fynd a dod drwy'r amser. Yna, aethon nhw allan ar eu pennau eu hunain yn y cwch i le unig. Gwelodd llawer nhw'n mynd, a'u nabod, a rhedon nhw o'r trefi cyfagos a chyrraedd y lle o'u blaenau. Pan laniodd Iesu a gweld y dyrfa fawr, teimlodd drueni drostyn nhw am eu bod fel praidd o ddefaid heb fugail, a dechreuodd eu dysgu. Yn hwyr y prynhawn daeth ei ddisgyblion ato a dweud, “Mae'r lle yma'n unig ac mae hi'n hwyr. Gad i'r bobl fynd i'r ardal o amgylch i brynu ychydig o fwyd.” Atebodd Iesu, “Rhowch chi rywbeth iddyn nhw i'w fwyta.” Dwedodd y disgyblion wrtho, “Ydyn ni i brynu gwerth dau gant o ddarnau arian o fwyd a'i roi iddyn nhw i'w fwyta?” Dwedodd Iesu, “Ewch i weld sawl torth sy gyda chi.” Ar ôl edrych dwedon nhw, “Pum torth, a dau bysgodyn.” Dwedodd wrth y disgyblion am drefnu'r bobl i eistedd yn gwmnïoedd ar y gwair, a dyna a wnaethpwyd. Yna, gan edrych tua'r nef, bendithiodd Iesu y pum torth a'r ddau bysgodyn. Torrodd nhw a'u rhoi i'r disgyblion i'w rhannu i'r bobl; hefyd rhannodd y ddau bysgodyn. Bwytaodd pawb a chael eu digoni. Wedi iddyn nhw fwyta casglwyd deuddeg basgedaid o friwsion, ac ychydig o'r pysgod er bod cynifer â phum mil wedi bwyta.
Cerdded ar y Dŵr (Marc 6:45-52)
45-52Yn y man mynnodd Iesu i'w ddisgyblion fynd i'r cwch a chroesi o'i flaen i'r ochr arall, i Bethsaida, tra bod yntau'n gollwng y dyrfa. Ar ôl iddo ffarwelio â'r bobl aeth i fyny i'r mynydd i weddïo. Pan aeth hi'n hwyr roedd y cwch yng nghanol y môr, a Iesu ar ei ben ei hun ar y tir. Gwelodd fod y disgyblion mewn trafferthion, am fod y gwynt yn eu herbyn, a rhywbryd rhwng tri a chwech o'r gloch y bore daeth Iesu atyn nhw gan gerdded ar y môr. Roedd ef am fynd heibio iddyn nhw; ond pan welon nhw e'n cerdded ar y môr, roedden nhw'n credu mai drychiolaeth ydoedd, a gwaeddon nhw mewn braw. Siaradodd Iesu gyda nhw ar unwaith, a dwedodd, “Codwch eich calon; fi sy yma; peidiwch ag ofni.” Dringodd i mewn i'r cwch atyn nhw, a gostegodd y gwynt. Roedden nhw wedi synnu'n fawr, oherwydd doedden nhw ddim wedi deall yr hyn oedd wedi digwydd. Roedd eu meddyliau wedi'u drysu.
Iacháu Cleifion yn Genesaret (Marc 6:53-56)
53-56Daeth Iesu a'i ddisgyblion i Genesaret ac angori'r cwch yno. Wrth iddyn nhw lanio dyma'r bobl yn adnabod Iesu ar unwaith a dechreuon nhw ddwyn cleifion ato ar fatresi. Ble bynnag yr âi, bydden nhw'n dod â'r cleifion i'r marchnadoedd, ac yn erfyn arno am iddyn nhw gael dim ond cyffwrdd ag ymyl ei wisg. Iachawyd pob un a wnaeth hynny.

Currently Selected:

Marc 6: DAW

Qaqambisa

Share

Copy

None

Ufuna ukuba iimbalasane zakho zigcinwe kuzo zonke izixhobo zakho? Bhalisela okanye ngena