1
Psalmau 23:4
Psalmæ Dafydh 1595 (William Middleton) - Agraffiad 1603
A phe rhodiwn, gwn, le gwag, Y dyffryn o dydhyn dig, — Cysgod angau, ’n cau pob ceg, Dyfnfodh ras, nid ofnaf dhrwg: Wyd gyda mi, Rhi, ar hynt, Dy wïalen, breisgwen brint, A’th ffon hoyw, union hwnt, Wrth Dduw, a’m cynnorthwyant.
Qhathanisa
Hlola Psalmau 23:4
2
Psalmau 23:1
Duw yw ’Mugail, arail em; Ni bydh (Duw a rydh da rym) Arnaf, er a gaf o gam, Diau o ’stad, eisiau dim.
Hlola Psalmau 23:1
3
Psalmau 23:6
Caredigrwydh rwydh a red, A thrugaredh, mawredh mad, Dilynant fi, dal unnod, Oll dhydhiau mau fy mywyd: Ac yn llonydh, ufydh, war, Draw gan hyn, mi ’driga ’n hir, Yn nhŷ Dduw, ac yn nawdh lôr, Yn dragywydh y bydh bêr.
Hlola Psalmau 23:6
4
Psalmau 23:2-3
Gwnaiff i’m orwedh, gyfedh goel, Mewn porfa las, urdhas wyl; A’m t’wysaw yn hylaw hael, Ddifyr Iôr, wrth dhwfr arail. Fy enaid gannaid a gaiff I th’wyso, wrth idh’ dheisyf, Mewn ffyrdh kyfiawnder erof, Mewn awr, er mwyn ei enw ef.
Hlola Psalmau 23:2-3
Ikhaya
IBhayibheli
Amapulani
Amavidiyo