Pwy i’th fynydh a rydh rwydhiant? —
O dhiwair engil a dhringant?
I’w le sanctaidh, pwy a feidhiant,
O naws hyfedr, yno a safant?
Y gwirion dhwylaw a garant,
A chalon sydh làn, o chwiliant;
Nad ydyw walch, goegfalch gwagfant,
Nag am lwf o dwyll crybwyllant.