1
Ioan 5:24
Y Ffordd Newydd - 4 Efengyl mewn Cymraeg Byw 1971
“Yn wir i chi, pwy bynnag sy’n rhoi sylw manwl i’r hyn sydd gennyf fi i’w ddweud, ac yn ymddiried yn yr hwn sydd wedi ei anfon, mae gan hwnnw fywyd gyda mi a’r Tad. Ni chaiff ei farnu, yn wir mae wedi symud o fod yn farw i fod yn fyw yn barod.
Cymharu
Archwiliwch Ioan 5:24
2
Ioan 5:6
A phan welodd yr Iesu ef yn gorwedd yno, ac yntau’n gwybod iddo fod felly am amser maith, meddai wrtho, “Fyddet ti’n hoffi dod yn iach eto?”
Archwiliwch Ioan 5:6
3
Ioan 5:39-40
Rydych yn astudio’r Ysgrythurau’n ddyfal, gan feddwl y cewch chi afael ar y bywyd aruchel ynddyn nhw. A’r rheiny’n union sy’n sôn amdanaf fi! Eto i gyd rydych yn gwrthod dod ataf fi er mwyn i chi gael y bywyd hwn!
Archwiliwch Ioan 5:39-40
4
Ioan 5:8-9
Ac meddai’r Iesu wrtho, “Cod ar dy draed, cydia yn dy wely a cherdda.” Roedd y dyn wedi ei wella ar amrantiad; fe gododd ei wely a cherdded. Digwyddodd hyn ar y Dydd Gorffwys.
Archwiliwch Ioan 5:8-9
5
Ioan 5:19
Ateb yr Iesu iddyn nhw oedd, “Credwch chi fi, ni all y Mab wneud dim ohono’i hun — dim ond gwneud yr hyn mae’n gweld y Tad yn ei wneud. Yr hyn a wna’r Tad, a wna’r Mab hefyd.
Archwiliwch Ioan 5:19
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos