1
Luc 13:24
Y Ffordd Newydd - 4 Efengyl mewn Cymraeg Byw 1971
“Ymdrechwch i fynd i mewn drwy’r drws cul, oherwydd gallaf eich sicrhau y bydd llawer yn ceisio mynd i mewn, ond heb lwyddo.
Cymharu
Archwiliwch Luc 13:24
2
Luc 13:11-12
Ac roedd gwraig yno a fu mewn gwendid mawr am ddeunaw mlynedd oherwydd ysbryd drwg. Roedd yn ei dau ddwbwl, a heb allu sythu o gwbl. Pan welodd yr Iesu hi, galwodd hi ato gan ddweud wrthi, “Rhyddhawyd di o’th wendid, fy merch i.”
Archwiliwch Luc 13:11-12
3
Luc 13:13
Rhoddodd ei ddwylo arni, ac ymunionodd hithau ar unwaith, gan ddechrau moli Duw.
Archwiliwch Luc 13:13
4
Luc 13:30
A sylwch, rhai sydd olaf heddiw fydd flaenaf yno, a’r rhai blaenaf fydd ymhell ar ôl.”
Archwiliwch Luc 13:30
5
Luc 13:25
Cyn gynted ag y bydd Meistr y tŷ wedi codi a chau’r drws, a chithau’n sefyll oddi allan gan guro a galw, ‘Syr, agor y drws inni,’ fe etyb, ‘Wn i ddim o ble y daethoch chi.’
Archwiliwch Luc 13:25
6
Luc 13:5
Nid felly o gwbl. Fe fyddwch chi yn marw yr un modd, os na wnewch chi newid eich ffordd o fyw.”
Archwiliwch Luc 13:5
7
Luc 13:27
Yntau’n gorfod ateb, ‘Rwy’n dweud eto wrthych chi, does gen i ddim syniad pwy ydych. Ewch ymaith, bob un ohonoch chi sy’n ymddwyn yn ddrwg!’
Archwiliwch Luc 13:27
8
Luc 13:18-19
“I ba beth,” gofynnodd, “y mae teyrnas Dduw yn debyg? Pa ddarlun a gawn ni ohoni? Mae’n debyg i hedyn mwstard y mae dyn yn ei gymryd a’i hau yn ei ardd, a hwnnw’n tyfu’n bren, a’r adar yn gallu nythu yn ei ganghennau.
Archwiliwch Luc 13:18-19
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos