“Gwae chi, athrawon y Gyfraith a’r Phariseaid, ragrithwyr! oherwydd rydych yn talu degwm o fintys ac anis a chwmin, ac yn esgeuluso pethau pwysicach y Gyfraith — cyfiawnder a thrugaredd a ffydd. Dyma’r pethau y dylasech chi ofalu eu hymarfer, heb esgeuluso’r lleill.