Fe aeth y rheiny’n syth at yr henuriaid i ymgynghori, yna rhoi arian mawr i’r milwyr, a’u siarsio, “Dywedwch fod ei ddisgyblion wedi dod yn y nos a lladrata’r corff tra roeddem ni’n cysgu. Os daw hyn i glustiau’r rhaglaw, fe wnawn ni bopeth yn iawn gydag ef, a gwneud yn siŵr na chewch chi eich poeni.”
Fe gymerson nhw’r arian, a gwneud fel y siarsiwyd nhw. Fe aeth y stori hon ar led, ac fe’i clywir ymhlith yr Iddewon hyd heddiw.