1
Rhufeiniaid 6:23
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955
Canys cyflog pechod yw marwolaeth; eithr dawn Duw yw bywyd tragwyddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
Cymharu
Archwiliwch Rhufeiniaid 6:23
2
Rhufeiniaid 6:14
Canys nid arglwyddiaetha pechod arnoch chwi: oblegid nid ydych chwi dan y ddeddf, eithr dan ras.
Archwiliwch Rhufeiniaid 6:14
3
Rhufeiniaid 6:4
Claddwyd ni gan hynny gydag ef trwy fedydd i farwolaeth: fel megis ag y cyfodwyd Crist o feirw trwy ogoniant y Tad, felly y rhodiom ninnau hefyd mewn newydd-deb buchedd.
Archwiliwch Rhufeiniaid 6:4
4
Rhufeiniaid 6:13
Ac na roddwch eich aelodau yn arfau anghyfiawnder i bechod: eithr rhoddwch eich hunain i Dduw, megis rhai o feirw yn fyw; a’ch aelodau yn arfau cyfiawnder i Dduw.
Archwiliwch Rhufeiniaid 6:13
5
Rhufeiniaid 6:6
Gan wybod hyn, ddarfod croeshoelio ein hen ddyn ni gydag ef, er mwyn dirymu corff pechod, fel rhag llaw na wasanaethom bechod.
Archwiliwch Rhufeiniaid 6:6
6
Rhufeiniaid 6:11
Felly chwithau hefyd, cyfrifwch eich hunain yn feirw i bechod: eithr yn fyw i Dduw, yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.
Archwiliwch Rhufeiniaid 6:11
7
Rhufeiniaid 6:1-2
Beth wrth hynny a ddywedwn ni? a drigwn ni yn wastad mewn pechod, fel yr amlhao gras? Na ato Duw. A ninnau wedi meirw i bechod, pa wedd y byddwn byw eto ynddo ef?
Archwiliwch Rhufeiniaid 6:1-2
8
Rhufeiniaid 6:16
Oni wyddoch chwi, mai i bwy bynnag yr ydych yn eich rhoddi eich hunain yn weision i ufuddhau iddo, eich bod yn weision i’r hwn yr ydych yn ufuddhau iddo; pa un bynnag ai i bechod i farwolaeth, ynteu i ufudd-dod i gyfiawnder?
Archwiliwch Rhufeiniaid 6:16
9
Rhufeiniaid 6:17-18
Ond i Dduw y bo’r diolch, eich bod chwi gynt yn weision i bechod; eithr ufuddhau ohonoch o’r galon i’r ffurf o athrawiaeth a draddodwyd i chwi. Ac wedi eich rhyddhau oddi wrth bechod, fe a’ch gwnaethpwyd yn weision i gyfiawnder.
Archwiliwch Rhufeiniaid 6:17-18
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos