dyna hefyd pam na thybiais yn iawn imi ddyfod fy hun atat; eithr dywed air, ac iachaer fy ngwas. Canys dyn yn dal swydd dan awdurdod wyf innau, a chennyf filwyr danaf; a dywedaf wrth hwn, Dos, ac y mae’n mynd, ac wrth arall, Tyred, ac y mae’n dyfod, ac wrth fy ngwas, Gwna hyn, ac y mae’n ei wneuthur.” A phan glywodd yr Iesu hyn, rhyfeddodd ato; a chan droi at y dyrfa a’i canlynai, dywedodd, “Meddaf i chwi, hyd yn oed yn Israel ni chefais gymaint ffydd.”