1
Luc 8:15
Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos)
Y peth yn y tir da, hwy yw’r rhai, wedi clywed y gair, a’i ceidw mewn calon lân a da, a dygant ffrwyth trwy ddyfalwch.
Cymharu
Archwiliwch Luc 8:15
2
Luc 8:14
Y peth a syrthiodd i’r drain, hwy yw’r rhai a glywodd, a mynd a chael eu tagu gan bryderon a golud a phleserau bywyd, ac nid aeddfedant.
Archwiliwch Luc 8:14
3
Luc 8:13
Y rhai ar y graig yw’r rhai pan glywant sy’n derbyn y gair gyda llawenydd, ac nid oes ganddynt hwy wreiddyn; dros amser y credant hwy, ac yn amser temtasiwn gwrthgiliant.
Archwiliwch Luc 8:13
4
Luc 8:25
Dywedodd yntau wrthynt, “Pa le mae eich ffydd chwi?” Ac ofni a rhyfeddu a wnaethant, gan ddywedyd wrth ei gilydd, “Pwy, tybed, yw hwn, gan ei fod yn gorchymyn hyd yn oed i’r gwyntoedd a’r dŵr, a hwythau’n ufuddhau iddo?”
Archwiliwch Luc 8:25
5
Luc 8:12
Y rhai ar fin y ffordd yw’r rhai a glywodd; yna daw’r diafol a dwyn ymaith y gair o’u calon, rhag iddynt gredu a chael eu cadw.
Archwiliwch Luc 8:12
6
Luc 8:17
Canys nid oes dim cuddiedig nas gwneir yn amlwg, na dim dirgel nas gwybyddir ac na ddaw i’r amlwg.
Archwiliwch Luc 8:17
7
Luc 8:47-48
A gwelodd y wraig nad oedd wedi osgoi sylw, a daeth dan grynu, ac wedi syrthio ger ei fron mynegodd yng ngŵydd yr holl bobl am ba achos y cyffyrddodd ag ef, a’r modd yr iachawyd hi ar unwaith. Dywedodd yntau wrthi, “Fy merch, dy ffydd a’th iachaodd; dos mewn tangnefedd.”
Archwiliwch Luc 8:47-48
8
Luc 8:24
Ac aethant ato a’i ddeffro, gan ddywedyd, “Meistr, Meistr, yr ydym ar ddarfod amdanom.” Deffrôdd yntau, a cheryddodd y gwynt ac ymchwydd y dŵr, a pheidiasant, a bu gosteg.
Archwiliwch Luc 8:24
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos