Luc 7
7
1Pan orffennodd ei holl ymadroddion yng nghlyw’r bobl, aeth i mewn i Gapernaum.
2Ac yr oedd gwas i ryw ganwriad yn wael ar fin marw, un oedd werthfawr ganddo. 3A phan glywodd am yr Iesu, fe ddanfonodd ato henuriaid yr Iddewon, gan ofyn iddo ddyfod i achub bywyd ei was. 4Ac wedi iddynt ddyfod at yr Iesu, ymbilient arno’n daer, gan ddywedyd, “Teilwng yw ef iti i wneuthur hyn iddo; 5canys y mae’n caru’n cenedl ni, ac ef ei hun a adeiladodd i ni’r synagog.” 6Ac yr oedd yr Iesu’n myned gyda hwynt; a phan oedd weithian heb fod nepell oddi wrth y tŷ, anfonodd y canwriad gyfeillion i ddywedyd wrtho, “Arglwydd, na thraffertha; canys nid wyf gymwys i ti i ddyfod dan fy nghronglwyd; 7dyna hefyd pam na thybiais yn iawn imi ddyfod fy hun atat; eithr dywed air, ac iachaer fy ngwas. 8Canys dyn yn dal swydd dan awdurdod wyf innau, a chennyf filwyr danaf; a dywedaf wrth hwn, Dos, ac y mae’n mynd, ac wrth arall, Tyred, ac y mae’n dyfod, ac wrth fy ngwas, Gwna hyn, ac y mae’n ei wneuthur.” 9A phan glywodd yr Iesu hyn, rhyfeddodd ato; a chan droi at y dyrfa a’i canlynai, dywedodd, “Meddaf i chwi, hyd yn oed yn Israel ni chefais gymaint ffydd.” 10Ac wedi i’r rhai a anfonesid ddychwelyd i’r tŷ, cawsant y gwas yn iach.
11A digwyddodd yn union wedyn iddo fynd i ddinas a elwir Nain, ac yr oedd ei ddisgyblion a thyrfa fawr yn mynd gydag ef. 12A phan ddaeth yn agos at borth y ddinas, dyma gludo allan un marw, unig fab ei fam, a honno’n weddw; ac yr oedd cryn dorf o’r ddinas gyda hi. 13A phan welodd yr Arglwydd hi, tosturiodd wrthi, a dywedodd wrthi, “Paid ag wylo.” 14A chan nesáu, cyffyrddodd â’r elor; a safodd y cludwyr, ac eb ef, “Y llanc, dywedaf wrthyt, cyfod.” 15A chododd y marw ar ei eistedd, a dechreuodd siarad; ac fe’i rhoes i’w fam. 16A syrthiodd ofn ar bawb, a gogoneddent Dduw, gan ddywedyd, “Proffwyd mawr a gyfododd yn ein plith,” ac, “Ymwelodd Duw â’i bobl.” 17Ac aeth yr hanes hwn allan drwy holl Iwdea amdano, a thrwy’r holl gymdogaeth.
18A mynegodd ei ddisgyblion i Ioan hyn oll. 19Ac wedi galw rhyw ddau o’i ddisgyblion ato, anfonodd Ioan hwynt at yr Arglwydd, gan ddywedyd, “Ai ti yw’r hwn sy’n dyfod, ai am un arall yr ydym i ddisgwyl?” 20A phan ddaeth y gwŷr ato, dywedasant, “Ioan Fedyddiwr a’n hanfonodd atat gan ddywedyd, ‘Ai ti yw’r hwn sy’n dyfod, ai am un arall yr ydym i ddisgwyl?’ ” 21Yr awr honno iachaodd lawer oddi wrth glefydau a phlâu ac ysbrydion drwg, ac i ddeillion lawer y rhoes eu golwg. 22Ac atebodd iddynt, “Ewch a mynegwch i Ioan y pethau a welsoch ac a glywsoch: y mae deillion yn cael eu golwg, cloffion yn cerdded, gwahangleifion yn dyfod yn lân, a byddariaid yn clywed, meirw’n cyfodi, i dlodion y cyhoeddir newyddion da. 23A gwyn ei fyd y neb ni feglir ynof i.” 24Ac wedi i genhadau Ioan ymadael, dechreuodd ddywedyd wrth y tyrfaoedd am Ioan, “Beth yr aethoch allan i’r diffeithwch i edrych arno? Ai corswellt yn ysgwyd gan wynt? 25Ond beth yr aethoch allan i’w weled? Ai dyn â gwisgoedd esmwyth amdano? Wele, y rhai sy’n byw mewn dillad gwych a moethau, yn y plasau brenhinol y maent. 26Ond beth yr aethoch allan i’w weled? Ai proffwyd? Ie, meddaf i chwi, a mwy na phroffwyd. 27Hwn yw’r un y mae’n ysgrifenedig amdano,
Wele’r wyf yn anfon fy nghennad o’th flaen, yr hwn a ddarpar dy ffordd rhagot.
28Meddaf i chwi, ymhlith plant gwragedd nid oes neb mwy nag Ioan; ond y lleiaf yn nheyrnas Dduw sydd fwy nag ef.” 29(A’r holl bobl wedi ei glywed, a’r trethwyr a gydnabu gyfiawnder Duw, ac a fedyddiwyd â bedydd Ioan. 30Ond dirymodd y Phariseaid a’r cyfreithwyr fwriad Duw tuag atynt eu hunain, ac nis bedyddiwyd ganddo.) 31“I ba beth, gan hynny, y cyffelybaf ddynion y genhedlaeth hon, ac i ba beth y maent yn gyffelyb? 32Cyffelyb ydynt i blantos sydd yn eistedd mewn marchnadle, ac yn galw ar ei gilydd, a dywedyd,
Canasom i chwi bibau, ac ni ddawnsiasoch;
Canasom alarnad, ac nid wylasoch.
33Canys daeth Ioan Fedyddiwr heb fwyta bara nac yfed gwin, ac meddwch chwi, ‘Cythraul sy ganddo.’ 34Daeth Mab y dyn yn bwyta ac yn yfed, ac meddwch chwi, ‘Dyma ddyn glwth a llymeitiwr gwin, cyfaill trethwyr a phechaduriaid.’ 35Eto cyfiawnhawyd doethineb gan bawb o’i phlant.”
36A gofynnodd un o’r Phariseaid iddo fwyta gydag ef; ac wedi mynd i dŷ’r Pharisead, fe aeth at y bwrdd. 37Ac wele, yr oedd gwraig yn y ddinas a honno’n bechadures; ac wedi deall ohoni ei fod ef wrth y bwrdd yn nhŷ’r Pharisead, hi ddug flwch alabaster o ennaint; 38a chan sefyll tu cefn iddo wrth ei draed ac wylo, hi ddechreuodd wlychu ei draed ef â’i dagrau, a’u sychu â gwallt ei phen; a chusanai ei draed ac irai hwynt â’r ennaint. 39A phan welodd y Pharisead a’i gwahoddasai, fe ddywedodd ynddo’i hun, “Pe bai hwn broffwyd, fe wybyddai pwy a pha fath un yw’r wraig sy’n cyffwrdd ag ef, mai pechadures yw.” 40Ac atebodd yr Iesu a dywedodd wrtho, “Simon, mae gennyf rywbeth i’w ddywedyd wrthyt.” Medd yntau, “Athro, dywed.” 41“Dau ddyledwr oedd i ryw echwynnwr; yr oedd y naill yn ei ddyled o bum can swllt, a’r llall o bum deg. 42Gan nad oedd ganddynt fodd i dalu, maddeuodd iddynt ill dau. Pa un, ynteu, ohonynt a’i câr ef fwyaf?” 43Atebodd Simon, “Mi dybiaf mai’r un y maddeuodd fwyaf iddo.” Dywedodd yntau wrtho, “Iawn y bernaist.” 44A chan droi at y wraig, meddai wrth. Simon, “A weli di’r wraig hon? Deuthum i’th dŷ di, dwfr i’m traed ni roddaist imi; ond hon a wlychodd fy nhraed â’i dagrau, ac a’u sychodd â’i gwallt. 45Cusan i mi ni roddaist; ond hon o’r pryd y deuthum i mewn ni pheidiodd â chusanu fy nhraed. 46Fy mhen ag olew nid iraist; ond hon a irodd fy nhraed ag ennaint. 47O achos hyn y dywedaf iti, Maddeuwyd ei haml bechodau, canys hi garodd yn fawr; ond y neb y maddeuir ychydig iddo, ychydig a gâr.” 48Ac meddai wrthi, “Maddeuwyd dy bechodau.” 49A dechreuodd y rhai a oedd gydag ef wrth y bwrdd ddywedyd yn eu plith eu hunain, “Pwy yw hwn sydd hyd yn oed yn maddau pechodau?” 50Ac meddai yntau wrth y wraig, “Dy ffydd a’th iachaodd; dos mewn tangnefedd.”
Dewis Presennol:
Luc 7: CUG
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru 1945
© Guild of Graduates, University of Wales 1945