Yn nghylch canol yr wyl, Iesu á aeth i’r deml, ac yr oedd yn athrawiaethu. A’r Iuddewon á ddywedasant gyda syndod, O ba le y mae dysgeidiaeth hwn yn dyfod, ac yntau heb erioed gael ei ddysgu? Iesu á atebodd, Fy nysgeidiaeth nid eiddof fi yw, ond eiddo yr hwn à’m hanfonodd i. Os mỳn neb wneuthur ei ewyllys ef, efe á gaiff wybod pa un ai o Dduw, ynte o honof fy hun y mae fy nysgeidiaeth yn dyfod. Pwybynag sydd yn dysgu yr hyn sydd yn dyfod o hono ei hun, sydd yn ceisio dyrchafu ei ogoniant ei hun: pwybynag sydd yn ceisio dyrchafu gogoniant yr hwn à’i hanfonodd ef, sydd yn haeddu ei gredu, ac ynddo nid oes dwyll. Oni roddes Moses i chwi y gyfraith? Er hyny nid oes neb o honoch yn cadw y gyfraith. Paham yr ydych yn ceisio fy lladd i? Y bobl á atebodd, Y mae genyt ti gythraul. Pwy sydd yn ceisio dy ladd di? Iesu á atebodd, Myfi á wneuthym un weithred yr hon sydd yn peri i chwi oll sỳnu. Moses á sefydlodd enwaediad yn eich plith chwi, (nid ei fod o Foses, ond o’r archdadau,) ac yr ydych yn enwaedu àr y Seibiaeth. Os yw dyn, àr y Seibiaeth, yn derbyn enwaediad, rhag tòri cyfraith Moses; a ydych chwi yn ddigllawn wrthyf fi, am i mi, àr y Seibiaeth, iachâu dyn, oedd a’i holl gorff yn ddiallu? Na fernwch oddwrth ymddangosiad allanol, ond bernwch yn ol cyfiawnder.