Ioan 7
7
1Gwedi hyn, Iesu á ymdeithiodd o amgylch yn Ngalilea; canys ni fỳnai efe drigiannu yn Iuwdea, oblegid bod yr Iuddewon yn ceisio ei ladd ef.
DOSBARTH VI.
Gwyl y Pebyll.
2-9A gwyl Iuddewig y pebyll oedd yn agos. Am hyny ei frodyr ef á ddywedasant wrtho, Ymâd o’r wlad yma, a dos i Iuwdea, fel y gwelo dy ddysgyblion hefyd y gweithredoedd yr wyt ti yn eu gwneuthur. Canys pwybynag sydd yn ceisio bod yn enwog, nid yw yn gwneuthur dim yn ddirgel; gàn dy fod yn gwneuthur y fath bethau, dangos dy hun i’r byd. (Canys nid oedd hyd yn nod ei frodyr yn credu ynddo.) Iesu á atebodd, Ni ddaeth fy amser i eto; rhyw amser á wnaiff y tro i chwi. Ni ddichon y byd eich casâu chwi; ond myfi y mae yn ei gasâu, am fy mod i yn dadguddio drygioni ei weithredoedd ef. Ewch chwi i’r wyl hon: nid wyf fi yn myned yno, oblegid nid fy amser i ydyw. Gwedi iddo ddywedyd hyn, efe á arosodd yn Ngalilea.
10-13Ond wedi myned o’i frodyr ef, yntau hefyd á aeth i’r wyl, nid yn gyhoeddus, ond yn hytrach yn ddirgelaidd. Yn yr wyl, yr Iuddewon á ymofynasant am dano ef, ac á ddywedasant, Pa le y mae efe? Ac yr oedd sisial mawr yn mhlith y bobl, yn ei gylch ef. Rhai á ddywedent, Dyn da yw. Ereill, Nage; y mae efe yn hudo y lliaws. Er hyny ni lefarodd neb yn eglur am dano ef, rhag ofn yr Iuddewon.
14-24Yn nghylch canol yr wyl, Iesu á aeth i’r deml, ac yr oedd yn athrawiaethu. A’r Iuddewon á ddywedasant gyda syndod, O ba le y mae dysgeidiaeth hwn yn dyfod, ac yntau heb erioed gael ei ddysgu? Iesu á atebodd, Fy nysgeidiaeth nid eiddof fi yw, ond eiddo yr hwn à’m hanfonodd i. Os mỳn neb wneuthur ei ewyllys ef, efe á gaiff wybod pa un ai o Dduw, ynte o honof fy hun y mae fy nysgeidiaeth yn dyfod. Pwybynag sydd yn dysgu yr hyn sydd yn dyfod o hono ei hun, sydd yn ceisio dyrchafu ei ogoniant ei hun: pwybynag sydd yn ceisio dyrchafu gogoniant yr hwn à’i hanfonodd ef, sydd yn haeddu ei gredu, ac ynddo nid oes dwyll. Oni roddes Moses i chwi y gyfraith? Er hyny nid oes neb o honoch yn cadw y gyfraith. Paham yr ydych yn ceisio fy lladd i? Y bobl á atebodd, Y mae genyt ti gythraul. Pwy sydd yn ceisio dy ladd di? Iesu á atebodd, Myfi á wneuthym un weithred yr hon sydd yn peri i chwi oll sỳnu. Moses á sefydlodd enwaediad yn eich plith chwi, (nid ei fod o Foses, ond o’r archdadau,) ac yr ydych yn enwaedu àr y Seibiaeth. Os yw dyn, àr y Seibiaeth, yn derbyn enwaediad, rhag tòri cyfraith Moses; a ydych chwi yn ddigllawn wrthyf fi, am i mi, àr y Seibiaeth, iachâu dyn, oedd a’i holl gorff yn ddiallu? Na fernwch oddwrth ymddangosiad allanol, ond bernwch yn ol cyfiawnder.
25-31Yna rhai o drigolion Caersalem á ddywedasant, Onid hwn yw yr un y maent hwy yn ceisio ei ladd? Wele! y mae efe yn llefaru yn hyf, a nid ydynt yn dywedyd dim wrtho ef. A yw y penaethiaid, mewn gwirionedd, yn cydnabod mai hwn yw y Messia? Eithr nyni á wyddom o ba le y mae hwn; ond, pan ddel y Messia, nis gwyr neb o ba le y mae. Iesu, yr hwn oedd y pryd hyny yn athrawiaethu yn y deml, á lefodd, A ydych chwi yn gwybod pwy, ac o ba le yr ydwyf fi? Ni ddaethym i o honof fy hun. Eithr cywir yw yr hwn à’m hanfonodd i, yr hwn nid adwaenoch chwi. Am danaf fi, myfi á’i hadwaen ef, am fy mod wedi dyfod oddwrtho ef, a gwedi fy nghenadwriaethu ganddo ef. Yna hwy á geisiasant ei ddal ef; ond ni osododd neb ddwylaw arno; am na ddaethai ei awr ef eto. Llawer o’r bobl, èr hyny, a gredasant ynddo, ac á ddywedasant, Pan ddelo y Messia, á wna efe fwy o wyrthiau nag y mae hwn yn ei wneuthur?
32-36Pan glybu y Phariseaid, bod y bobl yn grydwst y cyfryw bethau am dano ef, hwynthwy a’r archoffeiriaid á ddanfonasant swyddogion iddei ddal ef. Am hyny y dywedodd Iesu, Eto ychydig amser yr wyf yn aros gyda chwi; yna yr wyf yn myned at yr hwn à’m hanfonodd i. Chwi á’m ceisiwch, a ni ’m cewch; a lle yr ydwyf fi, ni ellwch chwi ddyfod. Yr Iuddewon à ddywedasant yn eu mysg eu hunain, I ba le yr â efe fel na chaffom ni ef? Ai at y Groegiaid sydd àr wasgar yr â efe, a dysgu y Groegiaid? Beth á feddylia efe wrth ddywedyd, Chwi á’m ceisiwch, a ni’m cewch; a lle yr ydwyf fi, ni ellwch chwi ddyfod?
37-44Ar y dydd diweddaf a mwyaf o’r wyl, Iesu á safodd ac á lefodd, gàn ddywedyd, Od oes àr neb syched, deued ataf fi, ac yfed. Yr hwn sydd yn credu ynof fi, fel y dywed yr ysgrythyr, á fydd fel dyfrgist, o’r hon y dylifa afonydd o ddwfr bywiol. Hyn á ddywedodd efe am yr Ysbryd, yr hwn yr oedd y rhai à gredent ynddo ef iddei dderbyn; canys eto nid oedd yr Ysbryd Glan wedi ei roddi, o herwydd na ogoneddasid Iesu ato. Llawer o’r bobl, wedi clywed yr hyn à lefarid, á ddywedasant, Hwn yn ddiau yw y Proffwyd. Rhai á ddywedasant, Hwn yw y Messia. Ereill, Ai o Alilea y mae y Messia yn dyfod? Oni ddywed yr ysgrythyr, mai o hiliogaeth Dafydd, y bydd y Messia, ac y daw o Fethlehem, y pentref o’r hwn yr oedd Dafydd? Felly yr aeth ymraniad yn mysg y bobl o’i achos ef; a rhai o honynt á fỳnasent ei ddal ef, ond ni osododd neb ddwylaw arno.
45-53Yna y swyddogion á ddychwelasant at yr archoffeiriaid a’r Phariseaid, y rhai á ofynasant iddynt, Paham na ddygasech chwi ef? Y swyddogion á atebasant, Ni lefarodd dyn erioed fel y dyn hwn. Y Phariseaid á atebasant, A hudwyd chwithau hefyd? A gredodd neb o’r penaethiaid ynddo ef, neu o’r Phariseaid? Ond y gwerinos hyn, y rhai ni wyddant y gyfraith, melldigedig ydynt. Nicodemus, un o honynt hwy eu hunain, (yr hwn á ddaethai at Iesu o hyd nos,) á ddywedodd wrthynt, A ydyw ein cyfraith ni yn goddef i ni gollfarnu dyn, heb ei glywed ef, a gwybod beth á wnaeth efe? Hwythau á’i hatebasant ef, A wyt tithau hefyd yn Alilëad? Chwilia, a thi á gai weled nad yw proffwydi yn codi o Alilëa. Yna
Dewis Presennol:
Ioan 7: CJW
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Yr Oraclau Bywiol gan John Williams 1842. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.