Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 6

6
DOSBARTH V.
Y Bobl yn cael eu porthi ddwywaith yn y Diffeithwch.
1-4Gwedi hyny Iesu á aeth dros fôr Galilea, a elwir hefyd mor Tiberias: a thyrfa fawr á’i canlynodd ef, oherwydd gweled o honynt y meddygiadau gwyrthiol à wnaethai efe. Ac Iesu á aeth i fyny àr fynydd; lle yr eisteddodd efe gyda’i ddysgyblion. Ar pasc, gwyl yr Iuddewon, oedd yn agos.
5-15Iesu gwedi codi ei olwg, a gweled bod tyrfa fawr yn ymdỳru ato, á ddywedodd wrth Phylip, O ba le y prynwn ni fara i borthi y bobl hyn? (Hyn á ddywedodd efe èr ei brofi ef; canys efe á wyddai ei hun, beth yr oedd efe àr fedr ei wneuthur.) Phylip á atebodd, Ni phrynai dau cann ceiniog ddigon o fara fel y caffai pob un damaid. Un o’i ddysgyblion, Andreas, brawd Simon Pedr, á ddywedodd wrtho, Y mae yma fachgenyn â chanddo bumm torth haidd, a dau bysgodyn: ond beth yw hyny rhwng cynnifer? Iesu á ddywedodd, Perwch i’r dynion ledorwedd. Ac yr oedd glaswellt lawer yn y lle. Felly hwy á ledorweddasant; yn nghylch pumm mil o nifer. Ac Iesu á gymerodd y torthau, a gwedi iddo ddiolch, efe á’u rhànodd i’r rhai à ledorweddasent. Efe á roddes iddynt hefyd o’r pysgod, gymaint ag á fýnasant. A gwedi eu digoni hwynt, efe á ddywedodd wrth ei ddysgyblion, Cesgwlch y briwfwyd gweddil, fel na choller dim. Hwythau, gàn hyny, á gasglasant, ac o’r briwfwyd à weddillasai y bobl, o’r pumm torth haidd, hwy á lanwasant ddeg a dwy fasged. Y dynion hyny, pan welsant y wyrth à wnaethai Iesu, á ddywedasant, Hwn yn ddiau yw y Proffwyd à sydd yn dyfod i’r byd. Yna Iesu, yn gwybod eu bod àr fedr dyfod, a’i gipio ef iddei wneuthur yn frenin, á giliodd drachefn, wrtho ei hunan, i’r mynydd.
16-21Yn yr hwyr ei ddysgyblion ef á aethant at y môr, a gwedi llongi o honynt, yr oeddynt yn myned dros y môr i Gapernäum. Yr ydoedd hi weithian yn dywyll; ac Iesu ni ddaethai atynt hwy. A’r môr, gàn wynt tymhestlog, á godwyd. Wedi iddynt rwyfo yn nghylch pump àr ugain neu ddeg àr ugain o ystadiau, hwy á welent Iesu yn rhodio àr y môr, yn agos iawn at y llong, ac á ofnasant. Ond efe á ddywedodd wrthynt, Myfi yw, nac ofnwch. Yna y derbyniasant ef yn llawen i’r llong; ac yn ebrwydd yr oedd y llong wrth y lle yr oeddynt yn myned iddo.
22-24Tranoeth, y bobl oedd wrth làn y môr, yn gwybod na buasai yno ond un bad, a nad aethai Iesu i’r bad gyda’i ddysgyblion, y rhai á aethent eu hunain, (ond badau ereill á ddaethent o Diberias, yn gyfagos i’r fàn lle y bwytasent, wedi i’r Arglwydd roddi diolch;) yn gwybod, hefyd, nad oedd Iesu yno, na’i ddysgyblion, hwy á longasant, ac á aethant i Gapernäum, gàn geisio Iesu.
25-35Gwedi iddynt ei gael ef àr y làn draw, hwy á ddywedasant wrtho, Rabbi, pa bryd y daethost ti yma? Iesu á atebodd, Mewn gwirionedd, yr wyf yn dywedyd i chwi, Yr ydych yn fy ngheisio i, nid am i chwi weled gwyrthiau, ond am i chwi fwyta o’r torthau, a chael eich digoni. Gweithiwch nid am y bwyd à dderfydd, ond am y bwyd à bery drwy fywyd tragwyddol, yr hwn á ddyry Mab y Dyn i chwi; canys iddo ef y rhoddes y Tad, sef Duw, ei ardystiaeth. Hwy á ofynasant iddo, gàn hyny, Pa weithredoedd yw y rhai y gofyna Duw i ni eu gwneuthur? Iesu á atebodd, Hwn yw y gwaith à ofyna Duw, bod i chwi gredu yn yr hwn à ddanfonodd efe allan. Hwythau á adatebasant, Pa wyrth ynte yr wyt ti yn ei gwneuthur, fel drwy ei gweled, y credom i ti? Pa beth yr wyt ti yn ei weithredu? Ein tadau ni á fwytasant y màna yn yr anialwch; fel y mae yn ysgrifenedig, “Efe a roddes iddynt fara nefol iddei fwyta.” Yna y dywedodd Iesu wrthynt, Mewn gwirionedd, yr wyf yn dywedyd i chwi, Nid Moses á roddodd i chwi y bara nefol; ond fy Nhad sydd yn rhoddi i chwi y gwir fara nefol; canys bara Duw ydyw yr hwn sydd yn dyfod i waered o’r nef, ac yn rhoddi bywyd i’r byd. Am hyny, hwy á ddywedasant wrtho, Feistr, dyro i ni y bara hwn yn wastadol. Iesu á atebodd, Myfi yw bara y bywyd. Yr hwn sydd yn dyfod ataf fi, ni newyna byth; a’r hwn sydd yn credu ynof fi, ni sycheda byth.
36-40Eithr, fel y dywedais wrthych, èr i chwi fy ngweled i, nid ydych yn credu. Yr hyn oll y mae y Tad yn ei roddi i mi, á ddaw ataf fi; a’r hwn sydd yn dyfod ataf fi, nis gwrthodaf ddim. Canys myfi á ddisgynais o’r nef i wneuthur, nid fy ewyllys fy hun, ond ewyllys yr hwn á’m hanfonodd i. A hyn yw ewyllys yr hwn à’m hanfonodd i; o’r rhai oll à roddes efe i mi, na chollwn yr un o honynt, ond adgyfodi y cwbl yn y dydd diweddaf. Hyn yw ewyllys yr hwn à’m hanfonodd i, cael o bob un à sydd yn cydnabod y Mab, ac yn credu ynddo ef, fywyd tragwyddol, a bod i mi ei adgyfodi ef y dydd diweddaf.
41-51Yna yr Iuddewon á rwgnachasant yn ei erbyn ef, am iddo ddywedyd, Myfi yw y bara à ddaeth i waered o’r nef; a hwy á ddywedasant, Onid hwn yw Iesu, mab Ioseph, tad a mam yr hwn á adwaenom ni? Pa fodd, gàn hyny, y mae efe yn dywedyd, O’r nef y disgynais? Iesu á atebodd, Peidiwch a grydwst wrth eich gilydd; ni ddichon neb ddyfod ataf fi, oddeithr i’r Tad, yr hwn á’m hanfonodd i, ei dỳnu ef; a myfi á’i hadgyfodaf ef y dydd diweddaf. Y mae yn ysgrifenedig yn y proffwydi, “Hwy oll fyddant wedi eu dysgu gàn Dduw.” Pob un à glywodd ac á ddysgodd gàn y Tad, sydd yn dyfod ataf fi. Nid bod neb, ond yr hwn sydd oddwrth Dduw, gwedi gweled y Tad. Efe yn wir, á welodd y Tad. Mewn gwirionedd, yr wyf yn dywedyd i chwi, Yr hwn sydd yn credu ynof fi, sy ganddo fywyd tragwyddol. Myfi yw bara y bywyd. Eich tadau chwi á fwytasant y màna yn yr anialwch, ac á fuont feirw. Wele y bara à ddisgynodd o’r nef, fel na byddo marw pwybynag á fwytao o hono. Myfi yw y bara bywiol, yr hwn á ddaeth i waered o’r nef. Pwybynag sydd yn bwyta o’r bara hwn, efe á fydd byw yn dragywydd; a’r bara à roddaf fi, yw fy nghnawd, yr hwn á roddaf fi dros fywyd y byd.
52-59Yna yr Iuddewon á ymrysonasant â’u gilydd, gàn ddywedyd, Pa fodd y dichon hwn roddi i ni ei gnawd iddei fwyta? Iesu, gàn hyny, á ddywedodd wrthynt, Mewn gwirionedd, yr wyf yn dywedyd i chwi, Oni fwytewch gnawd Mab y Dyn, ac oni yfwch ei waed ef, nid oes genych fywyd ynoch. Yr hwn sydd yn bwyta fy nghnawd i, ac yn yfed fy ngwaed i, sy ganddo fywyd tragwyddol; a myfi á’i hadgyfodaf ef yn dydd diweddaf: canys fy nghnawd i sy fwyd yn wir, a’m gwaed i sy ddiod yn wir. Yr hwn sydd yn bwyta fy nghnawd i, ac yn yfed fy ngwaed i, sydd yn aros ynof fi, a minnau ynddo yntau. Megys y mae y Tad yn byw, yr hwn á’m hanfonodd i; a minnau yn byw drwy y Tad: felly yr hwn sydd yn ymborthi arnaf fi, á fydd byw trwof fi. Hwn yw y bara à ddaeth i waered o’r nef. Nid ydyw megys yr hyn à fwytaodd eich tadau chwi, canys hwy á fuant feirw; y neb sydd yn bwyta y bara hwn, á fydd byw yn dragywydd. Yr ymadrawdd hwn á ddywedodd efe yn y gynnullfa, wrth athrawiaethu yn Nghapernäum.
60-65Llawer o’i ddysgyblion ef pan glywsant, a ddywedasant, Caled yw yr athrawiaeth yma, pwy á ddichon ei deall? Iesu yn gwybod ynddo ei hun bod ei ddysgyblion yn grwgnach o’i herwydd, á ddywedodd wrthynt, A ydyw hyn yn eich tramgwyddo chwi? Beth pe gwelech chwi Fab y Dyn yn ailesgyn i’r lle yr oedd efe o’r blaen? Yr Ysbryd yw yr hwn sydd yn bywâu; y cnawd nid yw yn llesáu dim. Y geiriau yr wyf fi yn eu llefaru wrthych, ysbryd ydynt, a bywyd ydynt. Ond y mae o honoch chwi rai nid ydynt yn credu. (Canys Iesu á wyddai o’r dechreuad, pwy oedd y rhai nid oeddynt yn credu, a phwy oedd yr hwn à’i bradychai ef.) Efe a chwanegodd, Am hyny y dywedais wrthych, na ddichon neb ddyfod ataf fi, oni bydd wedi ei roddi iddo gàn fy Nhad.
66-71O hyny allan llawer o’i ddysgyblion ef á aethant yn eu hol, a ni rodiasant mwyach gydag ef. Yna y dywedodd Iesu wrth y deuarddeg, A fỳnwch chwithau hefyd fyned ymaith? Simon Pedr á atebodd, Feistr, at bwy yr aem ni? Gènyt ti y mae geiriau bywyd tragwyddol: ac yr ydym ni yn credu ac yn gwybod, mai ti yw Sant Duw. Iesu á’u hatebodd hwynt, Oni ddewisais i chychwi y deuarddeg? èr hyny y mae o honoch un yn ysbiwr. Iuwdas Iscariot, mab Simon, oedd efe yn ei feddwl; canys efe oedd yr hwn oedd àr fedr ei fradychu ef, èr ei fod ef yn un o’r deuarddeg.

Dewis Presennol:

Ioan 6: CJW

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda