Ioan 5
5
DOSBARTH IV.
Yr iachäad wrth Fethesda.
1-4Gwedi hyny yr oedd gwyl Iuddewig, ac Iesu á aeth i Gaersalem. Ac y mae yn Nghaersalem, wrth borth y defaid, fadd, à elwir yn Hebraeg, Bethesda, ag iddo bump o rodfëydd a thô arnynt. Yn y rhai hyn y gorweddai lliaws mawr o rai cleifion, deillion, cloffion, a rhai parlysig, yn dysgwyl am gynhyrfiad y dwfr, (canys cènad àr amserau á ddisgynai i’r badd, ac á gynhyrfai y dwfr; a’r cyntaf á elai i fewn, àr ol cynhyrfu y dwfr, á iachêid o ba glefyd bynag à fyddai arno.)
5-9Ac yr oedd yno ryw ddyn, yr hwn á fuasai glaf drideg ac wyth o flynyddoedd. Iesu, yr hwn á’i gwelai ef yn gorwedd, ac á wyddai ei fod wedi bod yn hir yn glaf, á ddywedodd wrtho, A wyt ti yn ewyllysio cael dy iachâu? Y claf á atebodd, Sỳr, nid oes gènyf neb i’m bwrw i’r badd, pan gynhyrfer y dwfr; ond tra byddwyf fi yn myned, arall á â i lawr o’m blaen i. Iesu á ddywedodd wrtho, Cyfod, cỳmer i fyny dy lwth, a rhodia. Yn ebrwydd y dyn á iachâwyd, ac á gymerodd i fyny ei lwth, ac á rodiodd.
10-13A’r Seibiaeth oedd y diwrnod hwnw. Yr Iuddewon, gàn hyny, á ddywedasant wrth yr hwn à iachasid, Y Seibiaeth yw hi; nid cyfreithlawn i ti gario dy lwth. Yntau á atebodd, Yr hwn à’m hiachâodd i, á ddywedodd wrthyf, Cyfod dy lwth a rhodia. Yna hwy á ofynasant iddo, Pwy yw y dyn à ddywedodd wrthyt, Cyfod dy lwth, a rhodia? Ond yr hwn à iachasid, ni wyddai pwy oedd efe; canys Iesu á giliasai ymaith, gàn fod yno dyrfa yn y lle.
14-16Iesu gwedi hyny á’i canfu ef yn y deml, ac á ddywedodd wrtho, Wele, ti á wnaethwyd yn iach; na phecha mwyach, rhag dygwydd i ti beth à fyddo gwaeth. Y dyn á aeth ac á fynegodd i’r Iuddewon, mai Iesu oedd yr hwn à’i hiachasai ef. Am hyny yr Iuddewon á erlidiasant Iesu, oblegid iddo wneuthur hyn àr y Seibiaeth.
17-30Ond Iesu a’u hatebodd hwynt, Y mae fy Nhad yn gweithio hyd yn hyn; yr ydwyf finnau hefyd yn gweithio. Am hyn yr Iuddewon á roisant eu bryd yn fwy àr ei ladd ef, oblegid iddo nid yn unig dòri y Seibiaeth, ond hefyd iddo, drwy alw Duw ei briod Dad, ei wneuthur ei hun yn gydradd â Duw. Yna Iesu á’u cyfarchai hwynt, gàn ddywedyd, Mewn gwirionedd, yr wyf yn dywedyd i chwi, ni ddichon y Mab wneuthur dim o hono ei hunan, ond fel y gwelo efe y Tad yn gwneuthur; canys pa bethau bynag y mae efe yn eu gwneuthur, y cyfryw y mae y Mab yr un ffunud yn eu gwneuthur. Canys y Tad sydd yn caru y Mab, ac yn dangos iddo yr hyn oll y mae efe ei hun yn ei wneuthur; Na, efe á ddengys iddo weithredoedd mwy na’r rhai hyn, y rhai á wnant i chwi sỳnu. Oblegid megys y mae y Tad yn cyfodi ac yn bywâu y meirw, felly hefyd y mae y Mab yn bywâu y rhai à fỳno; canys y Tad nid yw yn barnu neb, wedi rhoddi yr awdurdod i farnu yn hollol i’r Mab, fel yr anrhydeddai pawb y Mab, fel y maent yn anrhydeddu y Tad. Y neb nid yw yn anrhydeddu y Mab, nid yw yn anrhydeddu y Tad, yr hwn á’i hanfonodd ef. Mewn gwirionedd, yr wyf yn dywedyd i chwi, yr hwn sydd yn gwrandaw fy athrawiaeth i, ac yn credu yr hwn à’m hanfonodd i, y mae ganddo fywyd tragwyddol, a ni oddef golledigaeth, am ei fod wedi myned trwodd o farwolaeth i fywyd. Mewn gwirionedd, yr wyf yn dywedyd i chwi, y mae yr amser yn dyfod, neu yn hytrach wedi dyfod, pan glywo y meirw lef Mab Duw; a chàn glywed y byddant byw. Canys megys y mae gàn y Tad fywyd ynddo ei hunan felly y rhoddes efe i’r Mab hefyd fod ganddo fywyd ynddo ei hun; ac á roddes iddo ïe yr awdurdod barnol hefyd, oherwydd ei fod yn Fab Dyn. Na ryfeddwch am hyn; canys y mae yr amser yn dyfod pan y caiff pawb à sydd yn eu beddau glywed ei leferydd ef, ac y deuant allan. Y rhai à wnaethant dda, á gyfodant i fwynâu bywyd; y rhai á wnaethant ddrwg, á gyfodant i ddyoddef cosbedigaeth. Nis gallaf fi wneuthur dim o honof fy hunan; fel yr wyf yn clywed, yr wyf yn barnu; a’m barn i sy gyfiawn, am nad ydwyf yn ceisio rhyngu fy modd fy hunan, ond rhyngu bodd yr hwn à’m hanfonodd i.
31-35Os ydwyf fi yn unig yn tystiolaethu am danaf fy hunan, fy nhystiolaeth nid yw gredadwy: arall sydd yn tystiolaethu am danaf fi; a mi á wn bod ei dystiolaeth ef am danaf fi yn gredadwy. Chychwi eich hunain á ddanfonasoch at Ioan, ac efe á ddyg dystiolaeth i’r gwirionedd. Am danaf fi, nid rhaid i mi wrth dystiolaeth dynion; hyn yr wyf yn ei grybwyll yn unig èr eich gwaredigaeth. Efe oedd y llusern oedd yn fflamio a llewyrchu; a chwithau dros amser oedd yn llawen genych fwynâu ei oleuni ef.
36Ond y mae genyf fi dystiolaeth fwy na’r eiddo Ioan; oblegid y gweithredoedd y rhai y galluogodd y Tad fi iddeu cyflawni, y gweithredoedd eu hunain y rhai yr wyf fi yn eu gwneuthur, sydd yn tystiolaethu am danaf fi, mai y Tad á’m hanfonodd i.
37-38Na, y mae y Tad ei hun, yr hwn á’m hanfonodd i, gwedi tystiolaethu am danaf fi. A glywsoch chwi mo’i lais ef un amser, ac á welsoch chwi mo’i wedd ef? Neu, á ydych chwi gwedi annghofio ei fynegiant ef, nad ydych yn credu yr hwn à ddanfonodd efe allan.
39-47Yr ydych yn chwilio yr ysgrythyrau, am eich bod ym meddwl cael, drwyddynt hwy, fywyd tragwyddol. Y mae y rhai hyn hefyd yn dystion drosof fi; èr hyny, ni fynwch chwi ddyfod ataf fi, fel y caffoch fywyd. Nid wyf fi yn chwennych anrhydedd oddwrth ddynion; ond myfi á’ch adwaen chwi, nad oes genych gariad Duw ynoch. Myfi á ddaethym yn enw fy Nhad, a nid ydych yn fy nerbyn i; os arall á ddaw yn ei enw ei hun, hwnw á dderbyniwch. Pa fodd y gallwch chwi gredu, tra yr ydych yn ceisio anrhydedd gàn eich gilydd, yn ddiystyr o’r anrhydedd sydd yn dyfod oddwrth Dduw yn unig? Na thybiwch mai myfi yw yr hwn à’ch cyhudda chwi wrth y Tad. Eich cyhuddwr yw Moses, yn yr hwn yr ydych yn ymddiried. Canys pe credasech chwi Foses, chwi á’m credasech innau; oblegid efe á ysgrifenodd am danaf fi. Ond os na chredwch ei ysgrifeniadau ef, pa fodd y credwch fy ngeiriau i?
Dewis Presennol:
Ioan 5: CJW
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Yr Oraclau Bywiol gan John Williams 1842. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.