1
Luc 13:24
beibl.net 2015, 2024
“Gwnewch eich gorau glas i gael mynd drwy’r drws cul. Wir i chi, bydd llawer yn ceisio mynd i mewn ond yn methu.
Cymharu
Archwiliwch Luc 13:24
2
Luc 13:11-12
ac roedd gwraig yno oedd ag ysbryd drwg wedi’i gwneud hi’n anabl ers un deg wyth mlynedd. Roedd ei chefn wedi crymu nes ei bod yn methu sefyll yn syth o gwbl. Dyma Iesu’n ei gweld hi ac yn ei galw draw ato. “Wraig annwyl,” meddai wrthi, “rwyt ti’n mynd i gael dy iacháu o dy wendid.”
Archwiliwch Luc 13:11-12
3
Luc 13:13
Yna rhoddodd ei ddwylo arni, a dyma’i chefn yn sythu yn y fan a’r lle. A dechreuodd hi foli Duw.
Archwiliwch Luc 13:13
4
Luc 13:30
Yn wir bydd y rhai sydd yn y cefn yn cael bod ar y blaen, a’r rhai sydd ar y blaen yn cael eu hunain yn y cefn.”
Archwiliwch Luc 13:30
5
Luc 13:25
Pan fydd perchennog y tŷ wedi codi i gau’r drws, bydd hi’n rhy hwyr. Byddwch chi’n sefyll y tu allan yn curo ac yn pledio, ‘Syr, agor y drws i ni.’ Ond bydd yn ateb, ‘Dw i ddim yn gwybod pwy ydych chi.’
Archwiliwch Luc 13:25
6
Luc 13:5
“Nac oedden! Dim o gwbl! Ond byddwch chithau hefyd yn cael eich dinistrio os fyddwch chi ddim yn troi at Dduw!”
Archwiliwch Luc 13:5
7
Luc 13:27
A bydd e’n ateb eto, ‘Dw i ddim yn eich nabod chi. Ewch o ma! Pobl ddrwg ydych chi i gyd!’
Archwiliwch Luc 13:27
8
Luc 13:18-19
Gofynnodd Iesu, “Sut beth ydy teyrnasiad Duw? Sut alla i ei ddisgrifio? Mae fel hedyn mwstard yn cael ei blannu gan rywun yn ei ardd. Tyfodd yn goeden, a daeth yr adar i nythu yn ei changhennau!”
Archwiliwch Luc 13:18-19
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos