A dyma fi’n dweud, “O ARGLWYDD, Duw’r nefoedd, plîs! Ti’n Dduw mawr a rhyfeddol, yn Dduw mor hael, ac yn cadw dy ymrwymiad i’r rhai sy’n dy garu di ac yn gwneud beth ti’n ddweud. O, plîs edrych a gwrando ar weddi dy was. Gwranda ar beth dw i’n ei weddïo ddydd a nos ar ran dy weision, pobl Israel. Dw i’n cyffesu ein bod ni wedi pechu yn dy erbyn di – fi a’m teulu, a phobl Israel i gyd.