Roedd y wal wedi’i gorffen, drysau’r giatiau wedi’u gosod yn eu lle, a gofalwyr y giatiau, cantorion a Lefiaid wedi’u penodi. A dyma fi’n apwyntio Chanani (perthynas i mi), a Chananeia, pennaeth y gaer, i fod yn gyfrifol am Jerwsalem. Roedd Chananeia’n ddyn y gallwn ei drystio, ac yn fwy duwiol na’r rhan fwya o bobl.