Gwyliwch, gan hyny; canys ni wyddoch pa bryd y mae Arglwydd y tŷ yn dyfod, ai yn yr hwyr, ai ganol nos, ai ar ganiad y ceiliog, ai yn fore iawn; rhag ei ddyfod yn ddisymwth, a'ch cael chwi yn cysgu. A'r hyn yr wyf yn ei ddywedyd i chwi, yr wyf yn ei ddywedyd i bawb, Gwyliwch.