Marc 13
13
Rhagfynegi dinystr y Deml
[Mat 24:1–14; Luc 21:5–19]
1Ac fel yr oedd efe yn myned allan o'r Deml, un o'i Ddysgyblion a ddywed wrtho, Athraw#13:1 Neu, O Feistr., gwel y fath feini, a'r fath adeiladau! 2A'r Iesu a#13:2 a atebodd X. ddywedodd wrtho, A weli di yr adeiladau mawrion hyn? Ni adewir#13:2 yma א B D L Δ. Gad. A X. yma o gwbl faen ar faen, a'r nis datodir yn hollol. 3Ac fel yr oedd efe yn eistedd ar Fynydd yr Olew‐wydd, gyferbyn â'r Deml, Petr, ac Iago, ac Ioan, ac Andreas, a ofynasant iddo o'r neilldu#13:3 Neu, yn ddirgelaidd., 4Dywed i ni pa bryd y bydd y pethau hyn? a pha arwydd fydd pan fo y pethau hyn yn dyfod i ben? 5A'r Iesu a#13:5 ddechreuodd א B L Brnd., a atebodd ac a ddechreuodd A X Δ. ddechreuodd ddywedyd wrthynt, Edrychwch rhag i neb eich arwain ar gyfeiliorn#13:5 eich gwneyd i grwydro.. 6Llawer a ddeuant yn#13:6 Llyth.: ar. fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw Efe, ac a arweiniant lawer ar gyfeiliorn. 7Ond pan glywoch am ryfeloedd, a sôn am ryfeloedd#13:7 Fel bygythiadau Caligula, Claudius, a Nero, yn erbyn yr Iuddewon: y cynhyrfiadau yn Alexandria (B. H. 38) pan yr erlidiwyd yr Iuddewon: yn Seleucia, pan y cafodd 50,000 o honynt eu lladd, &c., na ddychryner#13:7 Llyth.: gwaeddi allan gan ofn. chwi; canys rhaid iddynt ddyfod: ond nid yw y diwedd eto. 8Canys cenedl a gyfyd yn erbyn#13:8 Llyth.: ar [“cenedl a gyfyd i ddyfod i lawr ar genedl”]. cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas: bydd daeargrynfäau#13:8 Bu daeargryn yn Creta, B. H. 47; yn Rhufain, pan y daeth Nero i'w oed, B. H. 51; yn Apameia yn Phrygia, B. H. 53; yn Laodicea B. H. 60; yn Campania, B. H. 63. mewn amryw fanau; bydd newynau#13:8 Bu newyn mawr yn Rhufain, B. H. 41, 42; yn Judea, B. H. 44; (gwel Act 11:28); yn Groeg B. H. 50; yn Rhufain, B. H. 52.#13:8 a thrallodau A X. Gad. א B D L Brnd.: 9dechreuad gwewyr#13:9 Llyth.: pangfeydd genedigaeth, gwewyr esgor, yna, gloesion, trallodau, ingoedd, gofidiau, &c. Defnyddir y gair bedair gwaith, Mat 24:8; Act 2:24 (“gan ryddhau gloesion angeu”); 1 Thess 5:3 (“gwewyr esgor un a fo beichiog”). yw y pethau hyn. Ond edrychwch atoch chwi eich hunain: canys hwy a'ch traddodant chwi i Gynghorau ac i Synagogau; chwi a fflangellir#13:9 Llyth.: a flingir.; a chwi a sefwch gerbron llywodraethwyr#13:9 Llywyddion, prif‐swyddogion appwyntiedig, llywodraethwyr talaeth, megys Pilat, Ffelics, Ffestus, &c. a breninoedd#13:9 Megys Agrippa, Nero (2 Tim 4:16). o achos fy enw i, er tystiolaeth iddynt. 10Ac i'r holl genedloedd y mae yn rhaid yn gyntaf bregethu yr Efengyl. 11A phan y'ch arweiniant chwi#13:11 i farn, neu yn garcharorion., gan eich traddodi, na fyddwch bryderus yn mlaen llaw pa beth a lefaroch#13:11 ac na fyfyriwch A X. Gad. א B D L Brnd.: ond pa beth bynag a roddir i chwi yn yr awr hono, hyny lefarwch: canys nid chwychwi sydd yn llefaru, ond yr Yspryd Glân. 12A brawd a draddoda frawd i farwolaeth, a thâd ei blentyn, a phlant a gyfodant yn erbyn rhieni, ac a'u gosodant i farwolaeth. 13A chwi a fyddwch gâs gan bawb o achos fy enw i: ond yr hwn a barhao yn ddiysgog#13:13 Hupomenô. Llyth.: dàl o dàn (gorthrymder, erlid, &c.), dyoddef yn amyneddgar, parhau yn wrol. hyd y diwedd, hwnw a fydd cadwedig.
Y ffieidd‐dra a'r gorthrymder mawr
[Mat 24:15–25; Luc 21:20–24 a 17:31–33]
14Ond pan weloch chwi ffieidd‐dra#13:14 Bdelugma (gair Beiblaidd) ffieidd‐beth, yn enwedig o ran ei sawr; yna, yn enwedig, eilunaddoliaeth (1 Br 11:6; 2 Br 16:3). yr Anghyfanedd‐dra#13:14 Neu, Anrheithiad, Difrodiad, Dinystr. Cyfeirir at adeg Dinystr Jerusalem, ac wrth y ffieidd‐dra y golygir, naill ai (1) halogiad y Deml gan y Rhufeiniaid, neu (2) y llumanau Rhufeinig yn chwifio uwch y Lle Sanctaidd, a delw yr Ymerawdwr fel Duw arnynt, neu (3) anfadwaith y Zelotiaid, &c., ar yr adeg.#13:14 yr hwn a ddywedwyd gan Daniel y Prophwyd A X. Gad. א B D L Brnd.,#Dan 9:27; 11:31; 12:11 yn sefyll yn y lle ni ddylai, (yr hwn a ddarlleno, ystyried#13:14 Neu, dealled.), yna, y rhai a fyddant yn Judea, bydded iddynt ffoi i'r mynyddoedd: 15a'r neb a fyddo ar ben y tŷ, na ddisgyned#13:15 i'r ty A D Tr. Al. Gad. B L Ti. Diw., ac nac aed i mewn i gymmeryd dim allan o'i dŷ. 16A'r hwn a elo i'r maes, na ddychweled yn ei ol i gymmeryd ei wisg uchaf. 17Ond gwae y rhai beichiog, a'r rhai yn rhoi bronau, yn y dyddiau hyny. 18Ond gweddiwch fel na ddygwyddo yn#13:18 eich ffoedigaeth A X. Gad. א B D Brnd. y Gauaf. 19Canys y dyddiau hyny a fyddant orthrymder, y cyfryw na bu ei fath o ddechreuad creadigaeth, yr hwn a greodd Duw, hyd y pryd hwn, ac ni fydd o gwbl. 20Ac onibai i'r Arglwydd fyrhau#13:20 Llyth.; tori ymaith. y dyddiau, ni fyddai gadwedig un cnawd: ond er mwyn yr Etholedigion, y rhai a etholodd#13:20 Llyth.: a ddewisodd allan., efe a fyrhaodd#13:20 Llyth.; tori ymaith. y dyddiau. 21Ac yna os dywed neb wrthych, Wele, yma y mae y Crist; neu, Wele, acw; na chredwch; 22canys Gau‐Gristiau a Gau‐Brophwydi a gyfodant, ac a roddant arwyddion a rhyfeddodau, er arwain ar gyfeiliorn, pe yn bosibl, yr#13:22 ie, neu hyd y nod A C L. Gad. א B D Brnd. Etholedigion. 23Eithr ymogelwch chwi: rhag‐ddywedais#13:23 Wele A C D. Gad. B L Brnd. i chwi bob peth.
24Ond yn y dyddiau hyny, ar ol y gorthrymder#13:24 Blinder, cystudd. hwnw, y tywyllir yr haul, a'r lleuad ni rydd ei llewyrch#13:24 phthenggos, goleuni y lleuad neu lamp [Luc 11:33].; 25a'r ser#13:25 Felly, א A B C Brnd. A ser y Nef a syrthiant L X. a fyddant o'r Nef yn syrthio, a'r galluoedd sydd yn y Nefoedd a siglir. 26Ac yna y gwelant Fab y Dyn yn dyfod mewn cymylau gydâ gallu mawr a gogoniant. 27Ac yna yr anfona efe yr#13:27 ei Angelion A C X. Gad. B D L. Angelion, ac a gynull ynghyd ei Etholedigion allan o'r pedwar gwynt, o derfyn eithaf y ddaear hyd derfyn eithaf y Nef#Es 34:4; Dan 7:13. 28Ac oddiwrth y ffigysbren dysgwch y ddammeg: pan y mae ei ganghen eisioes wedi dyfod yn dyner, a'r dail yn tori allan, chwi#13:28 chwi a wyddoch B C Tr. Diw. Y mae yn wybyddus A D L Δ Al. Ti. a wyddoch fod yr haf yn agos. 29Felly chwithau hefyd, pan weloch y pethau hyn yn dyfod, gwybyddwch ei fod yn agos, wrth y drysau. 30Yn wir meddaf i chwi, nid â y genedlaeth hon heibio, hyd oni ddaw y pethau hyn oll i ben. 31Y Nef a'r ddaear a ânt heibio; ond fy ngeiriau i nid ânt heibio. 32Eithr am y dydd hwnw, neu#13:32 Neu, yr holl brif‐law. ond D. yr awr, ni ŵyr neb, na'r Angelion yn y Nef, na'r Mab, ond y Tâd. 33Ymogelwch, byddwch effro#13:33 Agrupneô. Llyth.: ymlid ar ol cwsg, yna, methu cysgu, cadw yn effro.,#13:33 a gweddiwch א A C [Tr.] Diw. Gad B D Al. La. Ti. WH. [o Mat.] canys ni wyddoch pa bryd y mae yr adeg. 34Y mae fel dyn wedi myned o'i wlad ei hun, wedi gadael ei dŷ, wedi rhoddi awdurdod i'w weision#13:34 Llyth.: caeth‐weision., i bob un ei waith ei hun, ac a orchymynodd i'r drysawr#13:34 Neu, porthor. wylio#13:34 Grêgoreuô, cadw yn effro drwy ymdrech, megys yn adeg y nos, felly, bod yn ddyfal mewn gwyliadwriaeth.. 35Gwyliwch, gan hyny; canys ni wyddoch pa bryd y mae Arglwydd y tŷ yn dyfod, ai yn yr hwyr, ai ganol nos, ai ar ganiad y ceiliog, ai yn fore#13:35 Fel rheol, o dri i chwech yn y boreu. iawn; 36rhag ei ddyfod yn ddisymwth, a'ch cael chwi yn cysgu. 37A'r hyn yr wyf yn ei ddywedyd i chwi, yr wyf yn ei ddywedyd i bawb, Gwyliwch#13:37 Grêgoreuô, cadw yn effro drwy ymdrech, megys yn adeg y nos, felly, bod yn ddyfal mewn gwyliadwriaeth..
Dewis Presennol:
Marc 13: CTE
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.