Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salmau 111

111
SALM 111
Dechrau doethineb, ofni Duw
Maccabeus 10.11.11.11 a chytgan
1b-2Diolch a wnaf i’r Arglwydd â’m holl fod;
Gyda’r gynulleidfa uniawn seiniaf glod.
Mawr yw ei weithredoedd, fe’u harchwilir mwy
Gan y rhai sy’n ymhyfrydu ynddynt hwy.
1aMolwch yr Arglwydd. Alelwia.
Molwch yr Arglwydd. Alelwia.
3-4Llawn mawredd ac anrhydedd yw ei waith;
Pery ei ddaioni i dragwyddoldeb maith.
Fe wnaeth inni gofio’i ryfeddodau i gyd;
Graslon a thrugarog ydyw Duw o hyd.
1aMolwch yr Arglwydd. Alelwia.
Molwch yr Arglwydd. Alelwia.
5-6I bawb a’i hofna rhydd gynhaliaeth gref;
Ac am byth fe gofia ei gyfamod ef.
Profi a wnaeth ei rym pan roes i’w bobl holl
Dir ac etifeddiaeth y cenhedloedd oll.
1aMolwch yr Arglwydd. Alelwia.
Molwch yr Arglwydd. Alelwia.
7-8Mae gwaith ei ddwylo’n gyfiawn a di-ail,
Ac mae ei ofynion oll yn gryf eu sail;
Fe’u sefydlwyd hwy’n dragwyddol yn y tir,
Ac maent oll yn uniawn, y maent oll yn wir.
1aMolwch yr Arglwydd. Alelwia.
Molwch yr Arglwydd. Alelwia.
9-10Prynodd ei bobl, a mynnu eu bod hwy’n
Cadw ei gyfamod sanctaidd ef byth mwy.
Dechrau pob doethineb ydyw ofni Duw;
Pawb sy’n ufudd iddo, un deallus yw.
1aMolwch yr Arglwydd. Alelwia.
Molwch yr Arglwydd. Alelwia.

Dewis Presennol:

Salmau 111: SCN

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda