Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salmau 33

33
SALM 33
Llygaid Duw ar y rhai sy’n disgwyl wrtho
Rhuddlan 87.87.44.7
1-3Llawenychwch, chwi rai cyfiawn,
Yn yr Arglwydd, gweddus yw.
Canwch salmau iddo â’r dectant,
Ar y delyn molwch Dduw.
Canwch iddo
Gân o’r newydd
Ar y tannau, a rhowch floedd.
4-6Canys gwir yw gair yr Arglwydd;
Ffyddlon yw ei waith i gyd.
Fe gâr farnu mewn cyfiawnder;
Llawn o’i gariad yw’r holl fyd.
Trwy ei air
Anadl ei enau
Gwnaed y nefoedd a’i holl lu.
7-9Casgla’r môr fel dŵr mewn potel,
A chrynhoi’r dyfnderau ynghyd.
Ofned yr holl ddaear rhagddo,
Ac arswyded pobloedd byd.
Cans llefarodd,
A bu felly.
Fe orchmynnodd: hynny a fu.
10-12Mae’n diddymu holl gynllwynion
Pobloedd a chenhedloedd byd;
Ond mae’i gyngor ef yn sefyll
Dros y cenedlaethau i gyd.
O mor ddedwydd
Ydyw’r genedl
A ddewisodd iddo’i hun.
13-15Y mae’n tremio i lawr o’r nefoedd
Ac yn gweld pawb oll o’r bron;
O’r lle y triga y mae’n gwylio
Holl drigolion daear gron.
Llunia feddwl
Pawb ohonynt,
A dealla’r cwbl a wnânt.
16-19Ni all byddin achub brenin,
Ni all cryfder achub cawr,
Ni all march roi dim ymwared,
Ond mae llygaid Duw bob awr
Ar y rhai sy’n
Disgwyl wrtho,
Ac fe’u ceidw hwy yn fyw.
20-22Fe ddisgwyliwn wrth yr Arglwydd,
Tarian ein hamddiffyn yw.
Llawenycha’n calon ynddo;
Rhown ein ffydd yn enw Duw.
Arglwydd dango
Dy ffyddlondeb,
Cans gobeithiwn ynot ti.

Dewis Presennol:

Salmau 33: SCN

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda