Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salmau 34

34
SALM 34
Bendithiaf yr Arglwydd bob amser
Eirinwg 98.98.D
1-5Bendithiaf yr Arglwydd bob amser,
Yn Nuw y caf bleser o hyd;
Cydfolwch â mi, chwi rai gwylaidd,
Dyrchafwn ei enw ynghyd.
Pan geisiais yr Arglwydd, atebodd
A’m gwared o’m hofn. Gloyw yw
Wynebau’r rhai nas cywilyddir,
Y rhai sydd yn edrych ar Dduw.
6-8Myfi yw’r un isel a waeddodd,
A’r Arglwydd a’m clywodd yn syth,
A’m gwared o’m holl gyfyngderau.
Gwersylla ei angel ef byth
O amgylch y rhai sy’n ei ofni,
A’u gwared. Gwyn fyd pawb a wna
Ei loches yn Nuw. Dewch a phrofwch,
A gweld fod yr Arglwydd yn dda.
9-11Ei seintiau ef, ofnwch yr Arglwydd.
Nid oes eisiau byth ar y rhai
A’i hofna. Y mae yr anffyddwyr
Yn dioddef o hyd dan eu bai,
Ond nid yw y rhai sydd yn ceisio
Yr Arglwydd yn brin o ddim da.
Dewch, blant, gwrandewch arnaf, a dysgaf
I chwi ofn y Duw a’ch boddha.
12-17Oes rhywun ohonoch sy’n chwennych
Byw’n hir, gweld daioni a’i fwynhau?
Ymgadw rhag traethu drygioni,
Gwna dda, a chais hedd sy’n parhau.
Mae’r Arglwydd yn gwarchod y cyfiawn,
A’i glustiau’n agored i’w cri,
Ond mae’n gwrthwynebu’r drygionus,
I ddifa pob cof am eu bri.
18-22Mae’n gwrando gwaedd pobl am gymorth,
Yn gwared y rhai calon-friw.
Daw llawer o adfyd i’r cyfiawn,
Ond gŵyr fod yr Arglwydd yn driw:
Fe geidw’i holl esgyrn yn gyfan,
Ond cosbi’r rhai drwg â’i law gref.
Gwareda yr Arglwydd ei weision
A phawb sy’n llochesu ynddo ef.

Dewis Presennol:

Salmau 34: SCN

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda