Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salmau 83

83
SALM 83
Ofni ymosodiad gan elynion Duw
Edinburgh 87.87. D
1-8O Dduw, paid â bod yn ddistaw;
Gwêl y rhai sy’n dy gasáu
Yn cynllwynio yn erbyn Israel
A chynghreirio i’w llesgáu:
Edom, Ismael, Moab, Hagar,
Gebal, Ammon, yn un llu,
Amalec, Philistia a Thyrus,
Ac Asyria fawr o’u tu.
9-13Fel i Sisera, neu Jabin
Ar lan Cison dan ei glwy,
Neu i Fidian gynt yn Harod,
Gwna i’r rhain; gwna’u mawrion hwy
Megis Oreb, Seeb, Seba
A Salmuna. Mae pob un
Yn ymffrostio, “Fe feddiannwn
Diroedd Duw i ni ein hun”.
14-18O fy Nuw, gwna hwy fel manus
O flaen gwynt. Ymlidia hwy
Megis tân yn llosgi coedwig,
A dwg arnynt warth byth mwy.
Gwna’u hwynebau’n llawn cywilydd,
Fel y ceisiant d’enw drud,
Ac y gwelant mai ti, Arglwydd,
Yw’r Goruchaf drwy’r holl fyd.

Dewis Presennol:

Salmau 83: SCN

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda