Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salmau 84

84
SALM 84
Llawenydd tŷ Dduw
Guiting Power 85.85.78
1-2Dduw y Lluoedd, dy breswylfod,
O mor brydferth yw!
Rwy’n hiraethu hyd at ddarfod
Am gynteddau Duw.
Y mae’r cwbl ohonof fi
Yn gweiddi am yr Arglwydd byw.
3-4Adar to, a’r wennol dirion
A gânt yno nyth;
Wrth d’allorau magant gywion.
Gwyn eu byd am byth
Bawb sy’n trigo yn dy dŷ,
Yn canu mawl i ti’n ddi-lyth.
5-7Gwyn eu byd y pererinion;
Cedwi hwy rhag braw.
Fe gânt ddyffryn Baca’n ffynnon
Dan y cynnar law.
Ânt o nerth i nerth, nes dod
I wyddfod Duw yn Seion draw.
8-10aArglwydd Dduw y Lluoedd, gwrando
Ar fy ngweddi i.
Edrych ar ein tarian; dyro
Ffafr i’n brenin ni.
Gwell na blwyddyn gartref fydd
Un dydd yn dy gynteddau di.
10b-12Gwell yw sefyll y tu allan
Yno na chael byw
Yn nhai’r drwg; cans haul a tharian
Yw yr Arglwydd Dduw.
Gwyn ei fyd y sawl y bo
Ei hyder ynddo; dedwydd yw.

Dewis Presennol:

Salmau 84: SCN

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda