Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 17

17
Gweddi’r Iesu
1Wedi dweud y pethau hyn, fe edrychodd yr Iesu i fyny i’r nef, ac meddai, “Fy Nhad, daeth yr awr, rho’r bri i’th Fab fel y bydd i’r Mab roddi’r bri i ti. 2Rhoddaist lywodraeth y byd iddo, fel y gallo roddi bywyd nefol i bawb a roddaist ti iddo. 3A hyn yw’r bywyd nefol: dy nabod Di, yr unig wir Dduw, ac Iesu Grist, yr hwn a anfonaist.
4“Fe ddangosais i dy fri ar y ddaear; gorffennais y gwaith a roddaist ti i mi i’w wneud. 5Ac yn awr, O Dad; rho’r bri i mi yn dy ŵydd — yr anrhydedd aruthrol oedd gennyf fi gyda Thi cyn i’r byd gael ei lunio.
6“Fe ddangosais i di yn eglur i’r rhai a roddaist i mi o’r byd. Dy eiddo di oedden nhw, ac fe’u rhoddaist nhw i mi; maen nhw wedi bod yn ufudd i’th neges. 7Bellach maen nhw’n gwybod bod popeth wedi dod i mi oddi wrthyt ti; 8fe roddais y geiriau iddyn nhw a roddaist ti i mi; maen nhw wedi eu derbyn, ac maen nhw’n berffaith siŵr eu meddwl i mi ddod oddi wrthyt ti ac maen nhw’n credu i ti f’anfon i.
9“Rwyf yn gweddïo ar eu rhan. Dwyf i ddim yn gweddïo dros y byd, ond dros y rhai a roddaist i mi, oherwydd dy eiddo di ydyn nhw. 10Mae popeth sydd gennyf fi yn eiddo i ti, a phopeth sydd gennyt ti yn eiddo i mi; drwyddyn nhw y cefais fy anrhydeddu.
11“Fyddaf i ddim yn y byd mwyach, ond fe fydd rhaid iddyn nhw fod yn y byd; yn awr rwyf yn dyfod atat ti. O Dad Santaidd, cadw nhw’n ffyddlon i’th enw a roddaist i mi, fel y byddan nhw’n un, fel rydym ni’n un. 12Pan oeddwn i gyda nhw, fe gedwais i nhw yn ffyddlon i’th enw a roddaist i mi a’u cadw nhw’n ddiogel. Does yr un ar goll, dim ond hwnnw oedd i fynd ar goll, er mwyn i’r Ysgrythur ddod yn wir.
13“Nawr rwyf yn dod atat ti; ond rwyf yn dweud y pethau hyn tra rwyf fi yn y byd, fel bo fy llawenydd i yn byrlymu drosodd yn eu calonnau. 14Rhoddais dy neges iddyn nhw, ac fe gasaodd y byd nhw, oherwydd dydyn nhw ddim yn perthyn i’r byd mwy nag yr ydw i yn perthyn iddo. 15Dwyf fi ddim yn gweddïo ar iti eu cymryd o’r byd, ond ar iti eu cadw oddi wrth yr un drwg. 16Dydyn nhw ddim yn perthyn i’r byd mwy na minnau. 17Cysegra nhw yn y gwirionedd: mae dy air di yn wirionedd. 18Fel yr anfonaist fi i’r byd, rwyf innau yn eu hanfon nhw i’r byd, 19ac er eu mwyn yr wyf i hefyd yn awr yn fy nghysegru fy hun, fel y gwneir nhw hefyd yn santaidd drwy’r gwirionedd.
20“Ond nid dros y rhain yn unig yr wyf yn gweddïo: ond dros y rheiny hefyd fydd yn credu ynof i drwy eu gair nhw; 21er mwyn iddyn nhw i gyd fod yn un, O! Dad, fel yr wyt ti ynof fi a minnau ynot ti, bydded iddyn nhw fod ynom ni, er mwyn i’r byd gredu mai ti sydd wedi f’anfon i. 22Fe roddais iddyn nhw yr un gogoniant ag a roddaist ti i mi, er mwyn iddyn nhw fod yn un fel rydym ni yn un, 23fi ynddyn nhw a thithau ynof fi, er mwyn iddyn nhw gyrraedd undeb perffaith. Fel hyn y daw’r byd i wybod dy fod ti wedi f’anfon a’th fod di yn eu caru nhw fel yr wyt wedi fy ngharu i.
24“O! Dad, rwyf yn dymuno bod y rhain, dy rodd i mi, gyda mi lle bynnag y byddaf; fel y medran nhw weld fy ngogoniant a roddaist ti i mi, oherwydd dy fod yn fy ngharu cyn llunio’r byd. 25O Dad cywir, dyw’r byd ddim yn dy nabod, ond rwyf i yn dy nabod, ac fe ŵyr y rhain i ti f’anfon i. 26Fe wnes i dy enw di yn eglur iddyn nhw, ac fe wnaf hynny eto, fel y byddo’r un cariad sydd gennyt ti tuag ataf fi ynddyn nhw, a minnau hefyd ynddyn nhw.”

Dewis Presennol:

Ioan 17: FfN

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda