Luc 9
9
Comisiwn i’r deuddeg i bregethu ac i iacháu
1Wedi galw’i ddeuddeg disgybl ato, rhoes yr Iesu iddyn nhw allu ac awdurdod ar yr holl gythreuliaid ac i feddyginiaethu’r gweiniaid, 2gan eu hanfon i gyhoeddi teyrnasiad Duw ac i wella’r afiach. 3A dywedodd wrthyn nhw, — “Ni fydd angen dim i’r siwrnai, na ffon na phwrs, na bwyd nac arian, ddim hyd yn oed ddau grys yr un. 4A phan ddowch i dŷ, arhoswch yno, a chychwyn drachefn o’r fan honno. 5Ac os na fydd croeso, pan ewch o’u tref, ysgydwch y llwch oddi ar eich traed fel protest yn eu herbyn.”
6Ac i ffwrdd â nhw gan ymweld â phentref ar ôl pentref, a phregethu’r Newyddion Da ac iacháu pobl ym mhobman.
Gofid Herod
7Fe glywodd y tywysog Herod am yr holl bethau a wnaeth yr Iesu, ac roedd yn poeni, am fod rhai’n mynnu fod Ioan wedi dod yn ôl yn fyw, 8eraill fod Eleias wedi dychwelyd, a rhai’n dweud fod un o’r proffwydi gynt wedi atgyfodi. 9Ac meddai, “Fi fy hun fu’n gyfrifol am dorri pen Ioan. Felly pwy yw hwn y mae cymaint sôn amdano?”
Ac fe geisiai gael golwg arno.
Porthi’r pum mil
10Wedi dychwelyd fe adroddodd yr apostolion wrth yr Iesu bopeth a wnaethon nhw. Aeth ef â nhw gydag ef i le tawel i dref o’r enw Bethsaida.
11Ond fe ddaeth y bobl i wybod, a mynd i’w ddilyn. Wedi eu croesawu, soniodd wrthyn nhw am deyrnasiad Duw, ac iacháu pawb oedd yn glaf. 12Ac fel roedd hi’n dechrau nosi, dywedodd y deuddeg wrtho, “Anfon y dyrfa ymaith, iddyn nhw gael llety a lluniaeth yn y pentrefi a’r wlad oddi amgylch, oherwydd rydym mewn man hollol anial.”
13Ond meddai ef, “Rhowch chi beth iddyn nhw i’w fwyta.”
“Dim ond pum torth a dau bysgodyn sydd yma i gyd,” medden nhw, “os nad awn ni i brynu bwyd i’r holl dyrfa.” 14(Roedd yna dyrfa o tua phum mil o wŷr.)
15Ac meddai wrth ei ddisgyblion, “Gwnewch iddyn nhw eistedd yn gwmnïoedd, ryw hanner cant ar y tro.”
Ac felly y gwnaed. 16Yna, cymerodd y pum torth a’r ddau bysgodyn, a chan edrych tua’r nef, fe’u bendithiodd, eu torri’n ddarnau, a’u rhoi i’r disgyblion i’w rhannu i’r dyrfa. 17Bwytaodd pawb a chael eu gwala. A chasglwyd wedyn ddeuddeg basgedaid o’r hyn oedd yn weddill.
Gweledigaeth fawr Pedr o’r Iesu yn Feseia
18Un diwrnod, pan oedd yn gweddïo wrtho’i hun, a’r disgyblion gydag ef, holodd nhw, “Pwy y mae’r bobl yn dweud ydw i?”
19A’u hateb oedd, “Ioan Fedyddiwr. Eraill Eleias. Eraill wedyn mai un o’r proffwydi gynt a atgyfododd.”
20Yna gofynnodd iddyn nhw, “Ond pwy rydych chi yn dweud ydw i?”
Ac atebodd Pedr, “Meseia Duw.”
21Yna fe’u rhybuddiodd yn llym i beidio â dweud hynny wrth neb.
22“Fe fydd rhaid i Fab y Dyn,” meddai, “ddioddef llawer, a’i wrthod gan yr henuriaid a’r prif offeiriaid ac athrawon y Gyfraith, a’i ladd, a’i atgyfodi y trydydd dydd.”
Ffordd y Bywyd
23Ac efe a ddywedodd wrth bawb, “Os oes rhywun am fy nilyn i, rhaid iddo wadu hunan yn llwyr, a chodi ei groes ddydd ar ôl dydd, a ’nghanlyn i. 24Mae’r sawl sydd am achub ei fywyd ei hun, yn mynd i’w golli, ond y mae’r sawl sydd yn ei golli er fy mwyn i yn mynd i’w gadw. 25Faint gwell yw dyn o ennill y byd i gyd, a cholli ei wir fywyd a chael ei daflu i ffwrdd? 26Pwy bynnag sydd arno gywilydd ohonof fi a’m geiriau, bydd gan Fab y Dyn gywilydd ohono yntau pan ddaw yn ei ogoniant, ac yng ngogoniant y Tad a’r angylion santaidd. 27Credwch fi, mae rhai yn sefyll yma na phrofan nhw flas marwolaeth nes gweld profiad o deyrnasiad Duw.”
Y Gweddnewidiad
28Tuag wyth niwrnod ar ôl dweud y pethau hyn, cymerodd yr Iesu Pedr ac Ioan ac Iago gydag ef, a mynd i fyny i’r mynydd i weddïo. 29A thra gweddïai, newidiodd ei wedd, ac aeth ei ddillad yn ddisglair wyn. 30A daeth Moses ac Eleias i ymddiddan ag ef, 31gan ymddangos mewn gweledigaeth ogoneddus, a sôn am ei ymadawiad, a oedd ar fin digwydd yn Jerwsalem. 32Ond roedd Pedr a’r lleill wedi syrthio i gysgu. Ond wedi deffro, fe welson nhwythau ei ogoniant ef, a’r ddau oedd gydag ef. 33Pan oedd y ddau yn ei adael, meddai Pedr wrth yr Iesu, “Feistr, mor dda yw ein bod yma! Gad inni godi tair pabell — un i ti, ac un i Foses, ac un i Eleias,” heb sylweddoli beth roedd yn ei ddweud.
34Tra roedd e’n siarad, dyna gwmwl yn taflu’i gysgod drostyn nhw, a nhwythau’n dychrynu fel y caeai amdanyn nhw. 35A daeth llais o’r cwmwl yn dweud, “Dyma fy Mab, fy etholedig: gwrandewch arno.”
36Tra roedd y llais yn siarad, chawson nhw neb yno ond Iesu Grist. Tewi wnaethon nhw, heb sôn gair wrth neb ar y pryd am yr hyn a welwyd.
Iacháu’r epileptig
37Trannoeth, a nhwythau’n dod i lawr y mynydd, daeth tyrfa fawr i’w gyfarfod. 38A gwaeddodd gŵr o’r dyrfa, “Athro, cymer olwg ar fy mab, rwy’n erfyn arnat. F’unig blentyn yw, 39ac y mae ysbryd weithiau’n ei feddiannu a rhoi gwaedd sydyn. Mae’n ei ysgwyd nes y bydd ef yn malu ewyn, a dal i’w gleisio, heb brin roddi heibio o gwbl. 40Gofynnais i’th ddisgyblion ei fwrw ef allan, ond fedren nhw ddim.”
41“O genhedlaeth ddi-gred a llygredig!” meddai’r Iesu. “Pa mor hir mae’n rhaid i mi fod gyda chi, a’ch dioddef chi? Tyrd â’th fab yma.”
42Ond cyn iddo hyd yn oed gyrraedd ato, fe daflwyd y truan i’r llawr gan y cythraul, a’i ysgwyd yn greulon. A cheryddodd yr Iesu yr ysbryd aflan, gan iacháu’r bachgen a’i roi’n ôl i’w dad. 43Roedd pawb wedi rhyfeddu at allu Duw.
Proffwydo eto am ei fradychiad a’i farw
A thra roedden nhw yn synnu at bopeth a wnâi’r Iesu, dywedodd ef wrth ei ddisgyblion, 44“Rhoddwch sylw manwl i’r hyn ddywedaf wrthych yn awr. Mae Mab y Dyn i gael ei roi yn nwylo dynion.”
45Ond nid oedden nhw’n deall hyn — roedd rhywbeth wedi ei guddio oddi wrthyn nhw fel na fedren nhw ddeall, ac roedden nhw’n ofni gofyn iddo ynglŷn â’r ystyr.
Syniad yr Iesu am fawredd
46Yna cododd dadl yn eu plith ynglŷn â phwy oedd y mwyaf ohonyn nhw. 47Gan ddeall beth oedd yn mynd drwy’u meddyliau fe gymerodd yr Iesu blentyn bach, a’i osod yn ei ymyl. 48Ac meddai wrthyn nhw, “Mae pwy bynnag sy’n derbyn y plentyn hwn yn f’enw i, yn fy nerbyn i, a’r sawl sy’n fy nerbyn i sydd yn derbyn yr Un a’m hanfonodd i. Y lleiaf yn eich plith chi i gyd, hwnnw sydd fawr.”
49Meddai Ioan, “Feistr, gwelsom ddyn yn bwrw allan gythreuliaid yn d’enw, ond gan nad oedd yn un ohonom ni, fe geisiasom ei rwystro.”
50Atebodd yr Iesu, “Peidiwch â’i rwystro, mae pwy bynnag nad yw ddim i’ch erbyn chi, drosoch chi.”
Samariaid angharedig
51Fel yr agosâi yr adeg iddo gael ei ddwyn yn ôl i’r nefoedd, penderfynodd fynd i Jerwsalem, 52ac anfonodd genhadau o’i flaen. A dyna nhw’n dod i un o bentrefi’r Samariaid, i baratoi ar ei gyfer. 53Ond fe wrthodai’r bobl yno ei groesawu, am ei fod â’i fryd mor bendant ar fynd i Jerwsalem. 54Pan welodd ei ddisgyblion Iago ac Ioan, hyn, medden nhw, “Syr, a fynni inni dynnu i lawr dân o’r nefoedd arnyn nhw, a’u difa’n llwyr?”
55Troi a wnaeth yr Iesu a’u ceryddu. 56Yna fe aethon nhw oll i bentref arall.
Canlyn ar delerau
57Fel roedden nhw yn cerdded ymlaen, dywedodd rhywun ar y ffordd wrtho, “Bwriadaf dy ddilyn di i ble bynnag yr ei di.”
58Atebodd yr Iesu, “Mae gan y llwynogod ffeuau; a chan adar yr awyr nythod, ond does gan Fab y Dyn unman i roi ei ben i lawr.”
59Dywedodd wrth un arall, “Dilyn fi.”
Meddai yntau, “Syr, gad imi’n gyntaf fynd i gladdu fy nhad.”
60Ond atebodd yr Iesu, “Gad i’r meirw gladdu eu meirw. Dos di i gyhoeddi teyrnasiad Duw.”
61A daeth un arall hefyd, gan ddweud, “Rwy’n benderfynol o’th ddilyn, Syr, ond rhaid imi gael ffarwelio â’r teulu i gyd gyntaf.”
62Ateb yr Iesu i hwnnw oedd, “Dyw’r sawl sy’n rhoi llaw ar gyrn yr aradr, ac yn edrych yn ôl yn barhaus, dda i ddim i ddibenion teyrnas Dduw.”
Dewis Presennol:
Luc 9: FfN
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 1971
© British and Foreign Bible Society 1971