S. Luc 10
10
1Wedi’r pethau hyn, gosododd yr Arglwydd rai eraill, deg a thrugain; a danfonodd hwynt, bob yn ddau, o flaen Ei wyneb i bob dinas a man lle yr oedd efe ar fedr dyfod: 2a dywedodd wrthynt, Y cynhauaf yn wir sydd fawr, ond y gweithwyr yn ychydig: deisyfiwch gan hyny ar Arglwydd y cynhauaf, am ddanfon allan o Hono weithwyr i’w gynhauaf. 3Ewch: wele, Myfi wyf yn eich danfon fel ŵyn ym mysg bleiddiaid. 4Na ddygwch gôd, nac ysgrepan, nac esgidiau; ac i neb ar eich ffordd na chyferchwch well. 5Ac i ba dŷ bynnag yr eloch i mewn, yn gyntaf dywedwch, Tangnefedd i’r tŷ hwn; 6ac o bydd yno fab tangnefedd, arno y gorphwys eich tangnefedd; ond os amgen, attoch chwi y dychwel. 7Ac yn y tŷ hwnw arhoswch, gan fwytta ac yfed yr hyn sydd ganddynt, canys teilwng yw i’r gweithiwr ei gyflog: na threiglwch o dŷ i dŷ. 8Ac i ba ddinas bynnag yr eloch i mewn, ac eich derbyn ganddynt, bwyttewch y pethau a rodder ger eich bronnau; 9ac iachewch y cleifion y sydd ynddi: a dywedwch wrthynt, Nesau attoch a wnaeth teyrnas Dduw. 10Ac i ba ddinas bynnag yr eloch i mewn, ac ni’ch derbyniant, wedi myned allan i’w llydanfeydd hi dywedwch, 11Hyd yn oed y llwch a lynodd o’ch dinas wrth ein traed i ni, ei sychu ymaith i chwi yr ydym: ond hyn gwybyddwch, Nesaodd teyrnas Dduw. 12Dywedaf wrthych, I Sodom yn y dydd hwnw y bydd yn fwy dioddefadwy nag i’r ddinas honno. 13Gwae di, Corazin; gwae di, Bethtsaida, canys pe yn Tyrus a Tsidon y gwnaethid y gwyrthiau a wnaethpwyd ynoch, er ys talm, gan eistedd mewn sachlïain a lludw, yr edifarhasent; 14ond i Tyrus a Tsidon y bydd yn fwy dioddefadwy yn y farn nag i chwi. 15A thydi, Caphernahwm, ai hyd at y nef y’th ddyrchafwyd? 16Hyd i uffern y’th dynir i lawr. Yr hwn sydd yn eich gwrando, Myfi a wrendy efe; ac yr hwn sydd yn eich dirmygu, Myfi a ddirmyga efe; ac yr hwn sydd yn Fy nirmygu I, dirmygu yr Hwn a’m danfonodd y mae.
17A dychwelodd y deg a thrugain gyda llawenydd, gan ddywedyd, Arglwydd hyd yn oed y cythreuliaid a ddarostyngir i ni yn Dy enw. 18A dywedodd wrthynt, Gwelais Satan, fel mellten, yn syrthio o’r nef. 19Wele, rhoddais i chwi awdurdod i sathru ar seirph ac ysgorpionau ac ar holl allu y gelyn; ac nid oes dim o gwbl a wna i chwi niweid. 20Eithr yn hyn na lawenychwch, fod yr ysprydion yn cael eu darostwng i chwi, ond llawenychwch am fod eich enwau wedi eu hysgrifenu yn y nefoedd.
21Yr awr honno y gorfoleddodd yn yr Yspryd Glân, a dywedodd, Diolchaf i Ti, O Dad, Arglwydd y nef a’r ddaear, am guddio o Honot y pethau hyn oddiwrth ddoethion a rhai deallus, ac y’u datguddiaist hwynt i rai bychain. Ië, Dad, canys felly y boddlonwyd ger Dy fron. 22Pob peth a draddodwyd i Mi gan Fy Nhad; ac nid oes neb a ŵyr pwy yw y Mab, oddieithr y Tad; na phwy yw y Tad, oddieithr y Mab, a phwy bynnag y mynno’r Mab Ei ddatguddio Ef iddo. 23Ac wedi troi at y disgyblion, o’r neilldu y dywedodd, Gwyn fyd y llygaid y sy’n gweled y pethau a welwch, 24canys dywedaf wrthych, Llawer o brophwydi a brenhinoedd a ewyllysiasant weled y pethau a welwch chwi, ac nis gwelsant, a chlywed y pethau a glywch, ac nis clywsant.
25Ac wele, rhyw gyfreithiwr a gododd, gan Ei demtio Ef, gan ddywedyd, Athraw, wedi gwneuthur pa beth y caf fywyd tragywyddol yn etifeddiaeth? 26Ac Efe a ddywedodd wrtho, Yn y Gyfraith pa beth sydd ysgrifenedig? Pa fodd y darlleni? 27Ac efe, gan atteb, a ddywedodd, Ceri Iehofah, dy Dduw, â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl nerth, ac â’th holl feddwl; a’th gymmydog fel ti dy hun. 28A dywedodd Efe wrtho, Iawn yr attebaist: hyn gwna, a byw fyddi. 29Ac efe, gan ewyllysio cyfiawnhau ei hun, a ddywedodd wrth yr Iesu, A phwy yw fy nghymmydog? 30A chan atteb, yr Iesu a ddywedodd, Rhyw ddyn oedd yn myned i wared o Ierwshalem i Iericho, ac ym mysg lladron y syrthiodd, y rhai wedi ei ddiosg a’i guro, a aethant ymaith, gan ei adael yn hanner-marw. 31Ac wrth ddamwain rhyw offeiriad oedd yn myned i wared y ffordd honno; ac wedi ei weled ef, aeth o’r tu arall heibio. 32Ac yr un ffunud Lefiad, wedi dyfod i’r fan, a’i weled ef, aeth o’r tu arall heibio. 33Ac rhyw Shamariad, wrth ymdaith, a ddaeth cyferbyn ag ef; ac wedi ei weled ef, tosturiodd, 34ac wedi myned atto, rhwymodd ei archollion ef, gan dywallt arnynt olew a gwin; ac wedi ei osod ef ar ei anifail ei hun, dug ef i’r lletty, ac amgeleddodd ef. 35A thrannoeth, wedi tynu allan ddwy ddenar, rhoddes hwynt i’r llettywr, a dywedodd, Amgeledda ef, a pha beth bynnag a dreuliech yn ychwaneg, myfi wrth ddychwelyd o honof, a’i talaf i ti. 36Pwy o’r tri hyn tybygi di fu gymmydog i’r hwn a syrthiasai ymhlith y lladron? 37Ac efe a ddywedodd, Yr hwn a wnaeth drugaredd ag ef. A dywedodd yr Iesu wrtho, Dos a gwna di yr un ffunud.
38Ac wrth ymdeithio o honynt Efe a aeth i mewn i ryw bentref; ac rhyw wraig a’i henw Martha a dderbyniodd Ef i’w thŷ. 39Ac iddi hi yr oedd chwaer a elwid Mair, yr hon hefyd gan eistedd wrth draed yr Arglwydd a wrandawai ar Ei ymadrodd. 40Ond Martha a ddirdynid ynghylch llawer o wasanaeth; a chan sefyll gerllaw dywedodd, Arglwydd, onid gwaeth Genyt fod fy chwaer wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun i wasanaethu? Dywaid, gan hyny, wrthi am fy nghynnorthwyo. 41A chan atteb, dywedodd yr Arglwydd wrthi, Martha, Martha, pryderu ac ymdrallodi yr wyt ynghylch llawer o bethau: 42ond wrth un peth y mae rhaid; canys Mair, y rhan dda a ddewisodd hi, yr hon ni chymmerir ymaith oddi arni.
Dewis Presennol:
S. Luc 10: CTB
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.