Logo YouVersion
Eicon Chwilio

S. Luc 11

11
1A bu, pan yr oedd mewn rhyw fan yn gweddïo, pan beidiodd, dywedodd rhyw un o’i ddisgyblion Wrtho, Arglwydd, dysg i ni weddïo, fel y bu i Ioan hefyd ddysgu i’w ddisgyblion. 2A dywedodd wrthynt, Pan weddïoch dywedwch, O Dad, sancteiddier Dy enw: deued Dy deyrnas; 3ein bara beunyddiol dyro i ni o ddydd i ddydd: 4a maddeu i ni ein pechodau, canys ninnau hefyd a faddeuwn i bawb y sydd wedi troseddu i’n herbyn; ac nac arwain ni i brofedigaeth.
5A dywedodd wrthynt, Pwy o honoch fydd a chanddo gyfaill, ac a aiff atto hanner nos, ac a ddywaid wrtho, 6O gyfaill, moes yn echwyn i mi dair torth, canys cyfaill i mi a ddaeth attaf oddiar daith, ac nid oes genyf ddim a ddodwyf ger ei fron. 7Ac yntau oddi mewn a ettyb, I myfi na phar drafferth: yn awr y drws a gauwyd, ac fy mhlant, ynghyda mi, yn eu gwely y maent: ni allaf godi a rhoddi i ti. 8Dywedaf wrthych, Er na rydd iddo, gan godi, am mai ei gyfaill yw, etto, o herwydd ei daerni, gan gyfodi y rhydd iddo gynnifer ag y mae arno eu heisiau. 9Ac Myfi, wrthych y dywedaf, Gofynwch a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chewch; curwch, ac agorir i chwi; canys pob un y sydd yn gofyn, derbyn y mae; 10ac yr hwn sy’n ceisio, cael y mae; ac i’r hwn sy’n curo yr agorir. 11Pwy o honoch chwi y sydd dad, os gofyn ei fab iddo fara, a ddyry garreg iddo; neu os bysgodyn, yn lle pysgodyn a ddyry sarph iddo; 12neu os gofyn wy, a ddyry iddo scorpion? 13Os, gan hyny, chwychwi, a chwi yn ddrwg, a wyddoch pa fodd i roi rhoddion da i’ch plant, pa faint mwy y bydd i’ch Tad nefol roi’r Yspryd Glân i’r rhai a ofynant Iddo?
14Ac yr oedd Efe yn bwrw allan gythraul mud; a bu, a’r cythraul wedi myned allan, llefarodd y mudan; a rhyfeddodd y torfeydd. 15Ond rhai o honynt a ddywedasant, Trwy Beelzebub, pennaeth y cythreuliaid, y bwrw Efe allan gythreuliaid. 16Ac eraill gan Ei demtio, arwydd o’r nef a geisient Ganddo. 17Ac Efe, gan wybod eu meddyliau, a ddywedodd wrthynt, Pob teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, a anghyfanneddir; 18a thŷ yn erbyn tŷ, a syrth; ac os Satan hefyd a ymrannodd yn ei erbyn ei hun, pa fodd y saif ei deyrnas, o herwydd dywedyd o honoch mai trwy Beelzebub yr wyf Fi yn bwrw allan gythreuliaid? 19Ac os Myfi trwy Beelzebub yr wyf yn bwrw allan y cythreuliaid, trwy bwy y mae eich meibion chwi yn eu bwrw hwynt allan? 20Am hyny hwy a fyddant eich barnwyr. Ond os trwy fys Duw yr wyf Fi yn bwrw allan y cythreuliaid, yna arnoch y daeth teyrnas Dduw. 21Pan fyddo un cryf arfog yn gwylied ei lys, mewn heddwch y mae ei eiddo; 22ond pan fo un cryfach nag ef, wedi dyfod arno, yn ei orchfygu ef, ei lwyr-arfogaeth yn yr hon yr ymddiriedai, a ddwg efe oddi arno, a’i yspeiliau a ran efe. 23Y neb nad yw gyda Mi, yn Fy erbyn y mae; a’r neb nad yw yn casglu gyda Mi, gwasgaru y mae. 24Pan fo’r yspryd aflan wedi myned allan o’r dyn, myned trwy leoedd di-ddwfr y mae, gan geisio gorphwysdra; a chan na chaffo, y dywaid, Dychwelaf i fy nhŷ o’r hwn y daethum allan; 25ac wedi dyfod, ei gael ef wedi ei ysgubo a’i drefnu y mae. 26Yna myned y mae ac yn cymmeryd atto saith eraill o ysprydion gwaeth nag ef ei hun, ac wedi myned i mewn, trigant yno; a chyflwr olaf y dyn hwnw sydd waeth na’r cyntaf.
27A bu, wrth ddywedyd o Hono y pethau hyn, ei llais a gododd rhyw wraig, o’r dyrfa, a dywedodd Wrtho, Gwyn fyd y groth a’th ddug Di, a’r bronnau a sugnaist. 28Ac Efe a ddywedodd, Yn hytrach, gwyn fyd y rhai sydd yn clywed gair Duw ac yn ei gadw.
29A’r torfeydd yn ymdyrru ynghyd, dechreuodd ddywedyd, Y genhedlaeth hon, cenhedlaeth ddrwg yw: arwydd a gais hi, ac arwydd ni roddir iddi, oddieithr arwydd Ionah. 30Canys fel y bu Ionah yn arwydd i’r Ninefiaid, felly y bydd Mab y Dyn hefyd i’r genhedlaeth hon. 31Brenhines y dehau a gyfyd yn y farn gyda gwŷr y genhedlaeth hon, ac a’u condemnia hwynt, canys daeth o eithafoedd y ddaear i wrando doethineb Shalomon, ac wele, mwy na Shalomon yma. 32Gwŷr Ninefe a godant i fynu yn y farn gyda’r genhedlaeth hon, a chondemniant hi, canys edifarhasant wrth bregeth Ionah, ac wele, mwy nag Ionah yma.
33Nid yw neb wedi goleu llusern, yn ei gosod mewn cel-gellfa, na than lestr, eithr ar safle’r llusern fel y bo i’r rhai sy’n dyfod i mewn weled y goleuni. 34Llusern dy gorph yw dy lygad. Pan fo dy lygad yn syml, dy holl gorph hefyd fydd oleu; ond pan drwg yw, dy gorph hefyd fydd dywyll. 35Ystyria, gan hyny, ai nad yw’r goleuni sydd ynot yn dywyllwch. 36Os, gan hyny, dy gorph oll sydd oleu, heb ynddo un rhan dywell, goleu fydd y cwbl, fel pan fo’r llusern, â’i llewyrch, yn dy oleuo.
37Ac wrth lefaru o Hono, gofynodd rhyw Pharishead Iddo giniawa gydag ef: ac wedi myned i mewn lled-orweddodd Efe. 38A’r Pharishead, gan weled hyn, a ryfeddodd na fu Iddo yn gyntaf ymolchi o flaen y ciniaw. 39A dywedodd yr Arglwydd wrtho, Yn awr, chwi, y Pharisheaid, y tu allan i’r cwppan a’r ddysgl a lanhewch, ond eich tu mewn sydd orlawn o reibusrwydd a drygioni. 40O ynfydion, onid yr hwn a wnaeth y tu allan, a wnaeth hefyd y tu mewn? 41Eithr, y pethau sydd genych rhoddwch yn elusen; ac wele, pob peth sydd lân i chwi.
42Eithr gwae chwi, y Pharisheaid, canys degymmwch y mintys a’r rhyw a phob llysieuyn, ac myned heibio yr ydych i farn a chariad Duw; y rhai hyn yr oedd raid eu gwneuthur, a pheidio a gadael y lleill heibio. 43Gwae chwi, y Pharisheaid, canys caru yr ydych y brif-gadair yn y sunagogau, a’r cyfarchiadau yn y marchnadoedd. 44Gwae chwi, canys yr ydych fel y beddau anamlwg, ac y dynion sy’n rhodio arnynt ni wyddant.
45A chan atteb, rhyw un o’r cyfreithwyr a ddywedodd Wrtho, Athraw, wrth ddywedyd y pethau hyn, nyni hefyd a sarai. 46Ac Efe a ddywedodd, Ac i chwithau y cyfreithwyr wae, canys llwythwch ddynion â llwythau anhawdd eu dwyn; a chwi eich hunain, ag un o’ch bysedd ni chyffyrddwch â’r llwythau. 47Gwae chwi, canys adeiledwch feddau’r prophwydi, a’ch tadau a’u lladdasant. 48Felly, tystion ydych ac yn cyd-foddloni yn ngweithredoedd eich tadau. 49O achos hyn Doethineb Duw hefyd a ddywedodd,
Danfonaf attynt brophwydi ac apostolion,
A rhai o honynt a laddant ac a erlidiant hwy:
50Fel y ceisier gwaed yr holl brophwydi
Y sy’n cael ei dywallt o seiliad y byd,
Oddiwrth y genhedlaeth hon:
51O waed Abel hyd waed Zacarias
Yr hwn a laddwyd rhwng yr allor a’r cyssegr;
Ië, dywedaf wrthych, Ceisir ef oddiwrth y genhedlaeth hon.
52Gwae chwi y cyfreithwyr, canys dygasoch ymaith agoriad gwybodaeth; chwi eich hunain nid aethoch i mewn, a’r rhai oedd yn myned i mewn a rwystrasoch.
53Ac wedi myned allan o Hono oddiyno, dechreuodd yr ysgrifenyddion a’r Pharisheaid ddal gŵg Iddo yn ofnadwy, 54ac Ei ennyn i lefaru am lawer o bethau, gan Ei gynllwyn, i ddala rhyw beth o’i enau Ef.

Dewis Presennol:

S. Luc 11: CTB

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda