Logo YouVersion
Eicon Chwilio

S. Luc 7

7
1Pan orphenasai Ei holl ymadroddion ynghlyw y bobl, aeth i mewn i Caphernahwm.
2A gwas rhyw ganwriad, yn ddrwg ei hwyl, oedd ym mron marw, yr hwn oedd mewn anrhydedd ganddo. 3Ac wedi clywed am yr Iesu, danfonodd Atto henuriaid yr Iwddewon, gan ofyn Iddo ddyfod ac achub ei was. 4A hwy, wedi dyfod at yr Iesu, a attolygasant Arno yn daer, gan ddywedyd, Haeddu y mae ganiattau o Honot hyn iddo, canys caru ein cenedl y mae; 5ac y sunagog efe a adeiladodd i ni. 6A’r Iesu a aeth gyda hwynt; ac Efe weithian ddim ymhell oddiwrth y tŷ, danfonodd y canwriad Atto gyfeillion, gan ddywedyd Wrtho, Arglwydd, nac ymboena, canys nid wyf deilwng i ddyfod o Honot i mewn dan fy nghronglwyd; 7o herwydd paham ni’m tybiais fy hun yn deilwng i ddyfod Attat: eithr dywaid â gair, ac iacheir fy ngwas; 8canys myfi hefyd wyf ddyn wedi ei osod dan awdurdod, a chenyf filwyr danaf fy hun; a dywedaf wrth hwn, Dos, a myned y mae; ac wrth arall, Tyred, a dyfod y mae; ac wrth fy ngwas, Gwna hyn, ac ei wneud y mae. 9Ac wedi clywed y pethau hyn, yr Iesu a ryfeddodd wrtho; ac wedi troi o Hono, wrth y dyrfa oedd yn Ei ganlyn y dywedodd, Dywedaf wrthych, hyd yn oed yn yr Israel, cymmaint ffydd ni chefais. 10Ac wedi dychwelyd i’w tŷ, y rhai a ddanfonasid a gawsant y gwas yn iach.
11A bu, ar ol hyny, yr aeth i ddinas a elwid Nain; a myned gydag Ef yr oedd ei ddisgyblion a thyrfa fawr. 12A phan nesaodd at borth y ddinas, wele, dygid allan un marw, mab unig-anedig ei fam, a hithau oedd weddw; a thyrfa fawr o’r ddinas oedd gyda hi. 13Ac wedi ei gweled hi, yr Arglwydd a dosturiodd wrthi, a dywedodd wrthi, Na wyla. 14A daeth at, a chyffyrddodd â’r elor; a’r rhai yn ei dwyn, a safasant: a dywedodd, Ieuangc, wrthyt y dywedaf, Cyfod. 15A chododd y marw yn ei eistedd, a dechreuodd lefaru; a rhoddes Efe ef i’w fam. 16Ac ofn a gymmerth afael ar bawb, a gogoneddasant Dduw, gan ddywedyd, Prophwyd mawr a gyfododd yn ein plith; ac, Ymwelodd Duw â’i bobl. 17Ac aeth y gair hwn am Dano allan drwy holl Iwdea, a thrwy’r holl wlad oddi amgylch.
18Ac wrth Ioan y mynegodd ei ddisgyblion am yr holl bethau hyn. 19Ac wedi galw atto ryw ddau o’i ddisgyblion, Ioan a ddanfonodd at yr Arglwydd, gan ddywedyd, Ai Tydi yw’r Hwn sy’n dyfod, neu un arall a ddisgwyliwn? 20Ac wedi dyfod Atto, y dynion a ddywedasant, Ioan Fedyddiwr a’n danfonodd Attat, gan ddywedyd, “Ai Tydi yw’r Hwn sy’n dyfod, neu un arall a ddisgwyliwn?” 21Yr awr honno yr iachaodd Efe lawer oddiwrth glefydau a phlaau ac ysprydion drwg; ac i ddeillion lawer y rhoddes olwg. 22A chan atteb, dywedodd wrthynt, Wedi myned, mynegwch i Ioan y pethau a welsoch ac a glywsoch: y mae deillion yn ail-weled; cloffion yn rhodio; cleifion gwahanol yn cael eu glanhau; a byddariaid yn clywed; meirw yn cael eu cyfodi: a thlodion yn cael pregethu’r efengyl iddynt; 23a dedwydd yw pwy bynnag na thramgwydder Ynof.
24Ac wedi myned ymaith o genhadau Ioan, dechreuodd ddywedyd wrth y torfeydd am Ioan, Pa beth yr aethoch allan i’r anialwch i edrych arno? Ai corsen a gwynt yn ei hysgwyd? 25Eithr pa beth yr aethoch allan i’w weled? Ai dyn a gwisgoedd esmwyth am dano? Wele, y rhai y sydd mewn trwsiad gogoneddus a moethau, mewn palasau brenhinoedd y maent. 26Eithr pa beth yr aethoch allan i’w weled? Ai prophwyd? Ië, meddaf i chwi, a rhagorolach na phrophwyd. 27Hwn yw efe am yr hwn yr ysgrifenwyd,
“Wele yr wyf Fi yn danfon Fy nghennad o flaen Dy wyneb,
Yr hwn a barottoa Dy ffordd o’th flaen.”
28Dywedaf wrthych, Un mwy ymhlith y rhai a anwyd o wragedd, nag Ioan, nid oes neb; ond y lleiaf yn nheyrnas Dduw, mwy nag ef yw. 29A’r holl bobl wedi clywed, ac y treth-gymmerwyr, a gyfiawnhasant Dduw, yn cael eu bedyddio â bedydd Ioan; 30ond y Pharisheaid a’r cyfreithwyr a ddiystyrasant gyngor Duw iddynt eu hunain, gan fod heb eu bedyddio ganddo.
31I ba beth, gan hyny, y cyffelybaf ddynion y genhedlaeth hon; ac i ba beth y maent yn gyffelyb? 32Cyffelyb ydynt i blant y sydd yn eistedd yn y farchnad, ac yn llefain wrth eu gilydd, y rhai a ddywedant, Canasom bibell i chwi, 33ac ni ddawnsiasoch: canasom alarnad, ac ni wylasoch: canys daeth Ioan Fedyddiwr, nac yn bwytta bara, nac yn yfed gwin, 34a dywedasant, Cythraul sydd ganddo: daeth Mab y Dyn yn bwytta ac yn yfed, a dywedwch, Wele, dyn glwth ac yfwr gwin, cyfaill treth-gymmerwyr a phechaduriaid: 35ond cyfiawnheir doethineb gan ei phlant i gyd.
36A gofynodd rhyw un o’r Pharisheaid Iddo fwytta gydag ef; ac wedi myned i mewn i dŷ y Pharishead, lled-orweddodd wrth y ford; 37ac wele, gwraig a oedd yn y ddinas, pechadures, ac yn gwybod Ei fod yn lled-orwedd yn nhŷ’r Pharishead, gan ddyfod â blwch alabastr o ennaint, 38a chan sefyll o’r tu ol, wrth Ei draed Ef, a than wylo, ddechreuodd wlychu Ei draed â’i dagrau, ac â gwallt ei phen y sychodd hwynt; a chusanodd Ei draed, ac enneiniodd hwynt â’r ennaint. 39A chan weled o’r Pharishead, yr hwn a wahoddasai Ef, llefarodd ynddo ei hun, gan ddywedyd, Hwn, pe bai yn brophwyd, a wybuasai pwy, ac o ba fath y mae y wraig y sydd yn cyffwrdd ag Ef, mai pechadures yw.
40A chan atteb, yr Iesu a ddywedodd wrtho, Shimon, y mae Genyf ryw beth i’w ddywedyd wrthyt ti. Ac efe a ddywedodd, Athraw, dywaid. 41Dau ddyledwr oedd gan ryw echwynwr; y naill oedd ag arno bum can denar o ddyled, a’r llall ddeg a deugain. 42A chan na allent dalu, i’r ddau y maddeuodd. Pa un, gan hyny, o honynt a’i câr ef yn fwyaf? 43Gan atteb, Shimon a ddywedodd, Tybiaf mai yr hwn i ba un y maddeuodd fwyaf. 44Ac Efe a ddywedodd, Uniawn y bernaist; ac wedi troi at y wraig, wrth Shimon y dywedodd, A weli di y wraig hon? Daethum i mewn i’th dŷ di, a dwfr i’m traed ni roddaist i Mi; ond hon â’i dagrau a wlychodd Fy nhraed I, ac â’i gwallt y sychodd hwynt. 45Cusan ni roddaist i Mi; ond hon, o’r awr y daethum i mewn, ni pheidiodd a chusanu Fy nhraed I. 46Ag olew, Fy mhen nid enneiniaist; ond hon ag ennaint a enneiniodd Fy nhraed. 47Ac o herwydd hyn, dywedaf wrthyt, Maddeuwyd ei phechodau, a hwythau yn llawer, o herwydd caru o honi yn fawr. Ac i’r neb ond ychydig a faddeuir, ychydig a gâr efe. 48A dywedodd wrthi, Maddeuwyd dy bechodau di. 49A dechreuodd y rhai oedd yn eu lled-orwedd gydag Ef, ddywedyd ynddynt eu hunain, Pwy yw hwn, yr hwn hyd yn oed pechodau a faddeu efe? 50A dywedodd wrth y wraig, Dy ffydd a’th gadwodd; dos mewn tangnefedd.

Dewis Presennol:

S. Luc 7: CTB

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda